Wicipedia:Ar y dydd hwn/Hydref
1 Hydref: Diwrnod annibyniaeth Nigeria (1960)
- 1866 – agorwyd Rheilffordd Talyllyn
- 1891 – ganwyd y gantores a'r gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen yn Nhrefforest, Sir Forgannwg
- 1908 – dechreuodd Henry Ford werthu ceir y Model T yn yr Unol Daleithiau
- 1923 – ganwyd y pêl-droediwr Trevor Ford yn Abertawe
- 2012 – bu farw yr hanesydd Eric Hobsbawm
2 Hydref: Diwrnod annibyniaeth Gini (1958)
- 1644 – cipiwyd Castell Powys gan gefnogwyr y Senedd yn Rhyfel Cartref Lloegr
- 1787 – ganwyd yr hanesydd, hynafiaethydd a llenor Thomas Price (Carnhuanawc)
- 1847 – ganwyd y gwleidydd Almaenig Paul von Hindenburg
- 1869 – ganwyd Mahatma Gandhi, un o arweinwyr India yn yr ymdrech i ennill rhyddid oddi wrth yr Ymerodraeth Brydeinig ac arloeswr ymdrechu yn ddi-drais
- 1900 – etholwyd Keir Hardie, Aelod Seneddol cyntaf y Blaid Lafur, ym Merthyr Tudful
- 2015 – bu farw y dramodydd Gwyddelig Brian Friel yn 86 oed
- 52 CC – daeth Brwydr Alesia i ben, gyda'r pennaeth Galaidd, Vercingetorix, yn ildio i'r Rhufeiniaid dan arweinyddiaeth Iŵl Cesar
- 1283 – lladdwyd y Tywysog Dafydd ap Gruffudd drwy ei lusgo, ei ddiberfeddu a'i chwarteru
- 1897 – ganwyd y llenor Ffrengig Louis Aragon
- 1990 – unwyd Gorllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen.
4 Hydref: Diwrnod annibyniaeth Lesotho (1966) oddi ar y Deyrnas Unedig
- 1669 – bu farw yr arlunydd Rembrandt
- 1884 – sefydlwyd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth
- 1904 – ganwyd y nofelydd Seisnig Graham Greene
- 1957 – lansiwyd y lloeren artiffisial cyntaf erioed, Sputnik I, gan yr Undeb Sofietaidd
- 1976 – bu farw'r cyfansoddwr Meirion Williams; ef sgwennodd Blodau ger y Drws.
5 Hydref: Dydd y Cyfansoddiad (Fanwatw); Dydd gŵyl Cynhafal
- 1658 – ganwyd Maria o Modena, brenhines Lloegr 1685-1688
- 1814 – bu farw Thomas Charles (a adnabyddir fel 'Thomas Charles o'r Bala')
- 1936 – gorymdeithiodd mintai o bobl ddiwaith o Jarrow i Lundain.
- 2011 – bu farw Steve Jobs, cyfrifiadurwr, 56
- 1836 – ganwyd y nofelydd Anne Evans, neu Allen Raine, yng Nghastell Newydd Emlyn
- 1849 – saethwyd 13 Merthyr o Arad, Hwngari yn erbyn wal
- 1879 – ganwyd Niclas y Glais, bardd a sosialydd
- 1887 – ganwyd y pensaer Le Corbusier
- 1927 – dangoswyd y ffilm sain gyntaf oedd o hyd llun hir, The Jazz Singer, am y tro cyntaf.
- 1928 – bu farw Pádraic Ó Conaire, llenor a newyddiadurwr yn yr iaith Wyddeleg
7 Hydref: Dydd Gŵyl Cynog Ferthyr a Diwrnod Cotwm y Byd (Sefydliad Masnach y Byd)
- 1567 – cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg o'r Testament Newydd; gwaith William Salesbury
- 1849 – bu farw'r llenor Americanaidd, Edgar Allan Poe
- 1885 – ganwyd Niels Bohr, enillydd Gwobr Ffiseg Nobel, yn Copenhagen
- 1931 – bu farw W. J. Griffith, awdur straeon byrion yn y Gymraeg
- 1931 – ganwyd Desmond Tutu, enillydd Gwobr Heddwch Nobel
8 Hydref: Gŵyl mabsant Ceinwen a Chynog; Diwrnod annibyniaeth Croatia (1991)
- 1797 – Ganwyd Rees Jones (Amnon), bardd gwlad o Geredigion
- 1872 – Ganwyd John Cowper Powys, nofelydd ac athronydd
- 1932 – Ganwyd y chwaraewr snwcer Ray Reardon yn Nhredegar
- 1941 – Agorwyd maes awyr y Rhws, Maes Awyr Caerdydd heddiw
9 Hydref: Gŵyl mabsant Cadwaladr a Cynog Ferthyr; diwrnod annibyniaeth Wganda (1962)
- 1401 – dienyddiwyd Llywelyn ap Gruffudd Fychan tirfeddiannwr o Gaeo, Sir Gaerfyrddin a ochrodd gyda'r Tywysog Owain Glyn Dŵr
- 1835 – ganwyd Camille Saint-Saëns, cyfansoddwr
- 1913 – saethwyd John Jones (Coch Bach y Bala) wrth iddo ddianc o Garchar Rhuthun drwy goed Plas Nantclwyd
- 1967 – bu farw'r llenor Edward Tegla Davies
- 1967 – bu farw Che Guevara, chwyldroadwr
10 Hydref: Gŵyl mabsant y seintiau Cymreig Tanwg a Paulinus Aurelianus. Diwrnod annibyniaeth Ciwba (1868)
- 732 – ymladdwyd Brwydr Tours yn Tours a Poitiers (yn yr hyn sy'n awr yn Ffrainc)
- 1136 – ymladdwyd Brwydr Crug Mawr, un o brif fuddugoliaethau'r Cymru yn y cyfnod
- 1864 – ganwyd Arthur Gould, chwaraewr rygbi'r undeb, yng Nghasnewydd
- 1871 – ganwyd T. Gwynn Jones, newyddiadurwr, bardd, ysgolhaig a nofelydd
- 1882 – sefydlwyd bragdy Brains yng Nghaerdydd
- 1900 – ganwyd awdur yr englyn 'O Dad yn deulu dedwydd...', sef W. D. Williams, ger Corwen.
- 1555 – llofruddiwyd y Barwn Lewys ab Owain gan Wylliaid Cochion Mawddwy
- 1898 – sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yng Nghaerdydd
- 1915 – ganwyd y nofelydd a'r bardd T. Llew Jones ym Mhentre-cwrt, Sir Gaerfyrddin
- 1919 – bu farw Kuno Meyer, ysgolhaig Celtaidd
12 Hydref: Diwrnod cenedlaethol Sbaen
- 1492 – glaniodd y fforiwr Christopher Columbus yn yr Amerig
- 1605 – bu farw yr ymerawdwr Mughal Akbar Mawr
- 1897 – ganwyd Thomas James Powell, cyfansoddwr ac addysgwr, yn Nhredegar, Blaenau Gwent
- 1915 – dienyddiwyd y nyrs Edith Cavell
- 1921 – ganwyd yr actor Kenneth Griffith yn Ninbych-y-Pysgod.
13 Hydref Gŵyl mabsant Sant Edwin, a laddwyd gan y Brenin Cadwallon ym Mrwydr Meicen (Hatfield)
- 1278 – priododd Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon
- 1899 – bu farw Charles Ashton, hanesydd llenyddiaeth Gymraeg
- 1906 – cynhyrchwyd trydan drwy egni dŵr o Lyn Llydaw yn Nant Gwynant; y system cyntaf o'i bath drwy wledydd Prydain
- 1970 – ganwyd y chwaraewr rygbi'r undeb Rob Howley ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- 2004 – bu farw Bernice Rubens, nofelydd yn yr iaith Saesneg
- 1755 – Ganwyd Thomas Charles, clerigwr, addysgwr a diwinydd, yn Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin
- 1876 – Chwaraewyd y gêm rygbi cyntaf ym Mharc yr Arfau, Caerdydd
- 1882 – Ganwyd Éamon de Valera, Taoiseach cyntaf Iwerddon
- 1913 – Trychineb pwll glo Senghennydd, y drychineb waethaf yng Nghymru gyda 439 yn marw
- 70 CC – Ganwyd Fyrsil, bardd yn yr iaith Ladin
- 1555 – Bu farw yr uchelwr Syr John Price, awdur y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf, Yn y lhyvyr hwnn
- 1751 – Ganwyd David Samwell (neu Dafydd Ddu Feddyg) yn Nantglyn, Sir Ddinbych
- 1844 – Ganwyd yr athronydd Almaenig Friedrich Nietzsche
- 1893 – Ganwyd y llenor a'r gwleidydd Saunders Lewis
- 1686 – hwyliodd y Crynwr Rowland Ellis, Bryn Mawr, o Aberdaugleddau i Bennsylvania
- 1834 – ganwyd Pryce Pryce-Jones, arloeswr busnes archebu drwy'r post
- 1872 – agorwyd Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth
- 1923 – sefydlwyd y stiwdio animeiddio a elwir heddiw yn The Walt Disney Company gan Walt Disney a'i frawd
- 1974 – darlledwyd pennod gyntaf yr opera sebon Pobol y Cwm
- 1660 – dienyddiwyd John Jones, Maesygarnedd, un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth y brenin Siarl I, brenin Lloegr
- 1864 – ganwyd y bardd Syr John Morris-Jones ym mhentref bychan Trefor, Sir Fôn
- 1918 – ganwyd yr actores Rita Hayworth yn Ninas Efrog Newydd
- 1965 – agoriad swyddogol Cronfa Ddŵr Cwm Tryweryn
- 1976 – sefydlwyd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn Aberystwyth.
18 Hydref: Dydd gŵyl Luc (Cristnogaeth)
- 1785 – ganwyd y bardd Seisnig Thomas Love Peacock oedd a chyslltiadau cryf a Chymru a'i llenyddiaeth
- 1946 – ganwyd y gwleidydd Dafydd Elis-Thomas yng Nghaerfyrddin
- 1948 – bu farw I. D. Hooson yn 68 oed; cyfreithiwr a bardd
- 1951 – sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri
- 1968 – agorwyd Atomfa Trawsfynydd; mae'r ddau adweithydd ar gau ers 1991.
- 1813 – ymladdwyd Brwydr Leipzig (Almaeneg: Völkerschlacht bei Leipzig), pan drechwyd byddin Napoleon Bonaparte
- 1905 – bu farw Ann Rees (Ceridwen), bardd a llenor Cymraeg ac yn un o'r menywod Cymreig cynharaf i gymhwyso'n feddyg.
- 1933 – ganwyd Lloyd Williams a fu'n gapten ar dîm rygbi'r undeb Cymru ar dri achlysur yn 1961-62
- 1982 – bu farw Iorwerth C. Peate yn 81 oed; llenor a sylfaenydd Amgueddfa Werin Cymru
- 2007 – arwyddwyd Cytundeb Lisbon, a gynlluniwyd i ddiwygio'r Undeb Ewropeaidd (UE)
20 Hydref: Diwrnod Arwyr dros Annibyniaeth Cenia (Swahili: Diwrnod Mashujaa).
- 1632 – ganwyd Syr Christopher Wren, pensaer († 1723)
- 1836 – ganwyd Daniel Owen († 1895), un o nofelwyr mwyaf Cymru
- 1919 – ganwyd Frances Môn Jones, telynores o Frychdyn a hyrwyddwr alawon gwerin Cymru.
- 1973 – agorwyd Tŷ Opera Sydney, Awstralia
- 1971 – ganwyd Dannii Minogue, cantores, yn Melbourne.
21 Hydref: Gŵyl Mabsant Tudwen a Diwrnod Annibyniaeth Malta a dorrodd yn rhydd oddi wrth y Deyrnas Gyfunol yn 1964.
- 1993 – ganwyd awdur y nofel Madam Wen, sef y cyfreithiwr William David Owen
- 1965 – agoriad swyddogol Llyn Celyn, y gronfa ddŵr a grewyd trwy foddi Capel Celyn
- 1966 – Trychineb Aberfan
- 1969 – bu farw'r nofelydd o Americanwr Jack Kerouac
- 1993 – pasiwyd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
- 1811 – ganwyd y cyfansoddwr Franz Liszt yn Doborján, Hwngari
- 1844 – ganwyd yr actores Ffrengig Sarah Bernhardt (m. 1923)
- 1870 – ganwyd y cyfansoddwr a'r bardd John Glyn Davies yn Sefton Park, Lerpwl; ef sgwennodd Llongau Caernarfon a Fflat Huw Puw
- 1895 – bu farw'r nofelydd Daniel Owen un o arloeswyr mawr y nofel Gymraeg
- 1906 – bu farw'r arlunydd Paul Cézanne a ddylanwadodd ar Picasso a Matisse
- 2014 – bu farw Rhiannon Davies Jones, awdur y nofelau Fy Hen Lyfr Cownt (1961) a Lleian Llan-Llŷr (1965).
- 1642 – Brwydr Edgehill , y frwydr gyntaf yn ystod Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr
- 1715 – ganwyd Pedr II, tsar Rwsia
- 1946 – cyfarfod cyntaf cynulliad y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd
- 1950 – bu farw Al Jolson, 64, canwr ac actor
- 1979 – ganwyd Simon Davies yn Hwlffordd, cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru.
24 Hydref: Gŵyl mabsant Cadfarch; Diwrnod annibyniaeth Sambia (1964)
- 1260 – cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Chartres yng ngogledd Ffrainc
- 1883 – sefydlwyd Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd, rhagflaenydd Prifysgol Caerdydd
- 1909 – ganwyd Elwyn Jones, Cymro Cymraeg a ddaeth yn dwrnai Cyffredinol yn Llywodraeth Harold Wilson
- 1948 – ganwyd y chwaraewr rygbi Phil Bennett yn Felin-foel, Sir Gaerfyrddin
- 1949 – bu farw'r bardd a'r nofelydd T. Rowland Hughes.
25 Hydref: gŵyliau'r seintiau Canna, John Roberts a Chrallo; Diwrnod Opera y Byd
- 1415 – Brwydr Agincourt a marwolaeth Dafydd Gam
- 1838 – ganwyd y cyfansoddwr o Ffrancwr Georges Bizet
- 1881 – ganwyd yr arlunydd Pablo Picasso
- 1920 – bu farw Toirdhealbhach Mac Suibhne, arwr Gwyddelig, yng ngharchar Brixton, yn 41 oed.
- 1970 – canoneiddwyd Deugain Merthyr Lloegr a Chymru, yn eu plith y Cymry Rhisiart Gwyn, John Jones a John Roberts
26 Hydref: diwrnod cenedlaethol Awstria
- 899 – bu farw Alffred Fawr, brenin Wessex
- 1520 – coronwyd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Siarl V
- 1849 – cyrhaeddodd Daniel Jones (Mormon) Salt Lake City gyda 249 o Gymry
- 1859 – Storm Fawr 1859: drylliwyd llong y Royal Charter ar arfordir Ynys Môn
- 1861 – ganwyd Richard Griffith (Carneddog) - llenor, bardd a newyddiadurwr Cymraeg
27 Hydref: diwrnod annibyniaeth Tyrcmenistan (1991)
- 939 – bu farw Athelstan, brenin Lloegr
- 1670 – bu farw y diwinydd Protestannaidd Vavasor Powell
- 1682 – sefydlwyd y ddinas Americanaidd Philadelphia
- 1914 – ganwyd y bardd Dylan Thomas yn Abertawe
- 1948 – sefydlwyd Bwrdd Croeso Cymru yn yr Amwythig gan Dai Grenfell, AS Gŵyr
- 2017 – y cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia ddatganiad eu bod yn Weriniaeth annibynol.
- 1789 – bu farw Mari'r Fantell Wen, cyfrinwraig a sefydlodd gwlt Cristionogol yng ngogledd-orllewin Cymru
- 1905 – enillodd Caerdydd statws dinas
- 1952 – bu farw Billy Hughes, Prif Weinidog Awstralia yn 90 oed; ei dad o Gaergybi a'i fam o Lansanffraid.
- 1955 – ganwyd Bill Gates, cyd-sylfaenydd a phennaeth cwmni cyfrifiadurol Microsoft
- 1967 – ganwyd yr actores Americanaidd Julia Roberts
- 1422 – dechreuodd teyrnasiad Siarl VII, brenin Ffrainc
- 1866 – ganwyd Sydney Curnow Vosper, arlunydd y darlun Salem
- 1896 – ganwyd Iris de Freitas a astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a'r gyfreithwraig gyntaf ar Ynysoedd y Caribî
- 1906 – agorwyd Neuadd Dinas Caerdydd yn swyddogol
- 1923 – daeth Twrci yn weriniaeth, yn dilyn diddymiad Ymerodraeth yr Otomaniaid
- 1485 – coronwyd Harri VII, brenin Lloegr yn Abaty Westminster
- 1735 – ganwyd John Adams, ail Arlywydd yr Unol Daleithiau a gŵr o dras Gymreig
- 1894 – bu farw David Griffith (Clwydfardd), Archdderwydd cyntaf Gorsedd y Beirdd
- 1960 – ganwyd y pêl-droediwr Archentaidd Diego Maradona
- 1972 – agorwyd Banc Masnachol Cymru yng Nghaerdydd gan Julian Hodge.
- 1517 – Hoeliodd Martin Luther ei "95 Gosodiad" i ddrws eglwys yn Wittenberg, yr Almaen, gan ddechrau'r Diwygiad Protestannaidd
- 1961 – Bu farw'r arlunydd Cymreig Augustus John
- 1972 – Trechwyd y Crysau Duon gan Glwb Rygbi Llanelli, 9–3
- 2007 – Bu farw Ray Gravell, chwaraewr rygbi a chenedlaetholwr
|