Y Cenhedloedd Unedig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner y Cenhedloedd Unedig

Sefydliad rhyngwladol gyda 192 o aelodau gwladwriaethol (2006) yw'r Cenhedloedd Unedig (CU). Mae bron pob gwlad yn aelod o'r sefydliad a sefydlwyd ar 24 Hydref, 1945 yn San Francisco, ar ôl Cynhadledd Dumbarton Oaks yn Washington, DC. Cynhalwyd ei Gynulliad Cyffredinol cyntaf ar 10 Ionawr, 1946 yn Church House, Llundain. Arwyddwyd y cytundeb a ffurfiodd y Cenhedloedd Unedig ar 26 Mehefin 1945, a daeth i rym ar 24 Hydref y flwyddyn honno.

Gall unrhyw wlad sy'n parchu heddwch yn ogystal â bod yn barod i dderbyn oblygiadau Siarter y CU ac sydd â'r gallu a'r parodrwydd i gyflenwi'r oblygiadau hynny ym marn y cynhedloedd Unedig fod yn aelod.

Ysgrifennydd Cyffredinol y CU yw Ban Ki-moon.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.