Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Chwefror 1500 ![]() Gent ![]() |
Bu farw | 21 Medi 1558 ![]() Yuste ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ![]() |
Galwedigaeth | teyrn ![]() |
Swydd | teyrn Aragón, Monarch of Castile and Leon, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Lord of the Netherlands, King of Sardinia ![]() |
Tad | Philip I of Castile ![]() |
Mam | Juana o Castilla ![]() |
Priod | Isabella o Bortiwgal ![]() |
Partner | Johanna Maria van der Gheynst, Barbara Blomberg ![]() |
Plant | Felipe II, brenin Sbaen, Maria o Awstria, Ymerodres Lân Rufeinig, Infante Fernando of Austria, Joanna of Austria, Princess of Portugal, Isabel of Castile, Margaret of Parma, Tadea of Austria, John of Austria ![]() |
Perthnasau | Anne of Bohemia and Hungary, Louis II of Hungary, Ferrando II, Isabel I, brenhines Castilla, Mari I, Maximilian I, Maria van Bourgondië ![]() |
Llinach | Spanish House of Habsburg, Habsburg ![]() |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Order of Alcántara, Urdd Calatrava, Urdd Santiago, Urdd y Gardas, illustrious son ![]() |
Llofnod | |
![]() |

Siarl V (24 Chwefror 1500 – 21 Medi 1558), hefyd Siarl o Luxemburg, oedd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig rhwng 1519 a 1556. Roedd hefyd yn frenin Sbaen fel Siarl I rhwng 1516 a 1556.[1]
Roedd yn fab i Felipe I, a fu'n frenin Castilla am gyfnod byr, a'i wraig Juana o Castilla (Juana Wallgof). Ei daid a'i nain ar ochr ei fam oedd Ferdinand II, brenin Aragon ac Isabella I, brenhines Castilla, tra ar ochr ei dad, roedd yn ŵyr i Maximilian I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.
Priododd Isabella, chwaer Ioan III, brenin Portiwgal, yn 1526. Roedd eu plant yn cynnwys:
- Felipe II, brenin Sbaen (1527–1598)
- Maria o Awstria (1528–1603), a briododd Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ef a roddodd bun llong i Ferdinand Magellan, y cyntaf i hwylio o gwmpas y byd yn 1522, wedi i frenin Portiwgal ei wrthod. Ymestynnodd ymerodraeth Sbaen yn y Byd Newydd yn fawr yn ystod ei deyrnasiad, gyda Hernán Cortés a Francisco Pizarro yn gorchfygu ymerodraethau'r Aztec a'r Inca. Bu'n ymladd llawer gydag Ymerodraeth yr Otomaniaid dan y Swltan Swleiman I.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ John Landwehr; Brill Academic Pub (1971). Splendid Ceremonies; State Entries and Royal Funerals in the Low Countries, 1515-1791: A Bibliography (yn Saesneg). De Graaf. t. 5. ISBN 978-90-6004-287-8.
Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
- Geoffrey Parker, Emperor: A New Life of Charles V (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2019).
- Martyn Rady, The Emperor Charles V (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 1988).
Rhagflaenydd: Maximilian I |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1519 – 1556 |
Olynydd: Ferdinand I |