Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec

Oddi ar Wicipedia
Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec
Mathllyfrgell genedlaethol, llyfrgell brifysgol, sefydliad ymchwil Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1622 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadClementinum Edit this on Wikidata
SirPrag Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Tsiec Gweriniaeth Tsiec
Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec

Lleolir Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec (Tsieceg: Národní knihovna České republiky) ym Mhrag. Delir dros 6.5 miliwn o gyfrolau yno.[1] Ei phrif safle yw adeilad Baróc y Klementinum, a'i adeiladwyd fel coleg ar gyfer yr Iesuwyr.[2] Mae'r casgliad yn seiliedig ar lyfrgell hanesyddol yr Univerzita Karlova (Prifysgol Siarl);[2] rhoddwyd y llawysgrifau cyntaf gan yr ymerawdwr Siarl IV ym 1366.[1] Ers 1935 mae'r llyfrgell wedi dal copi o bob llyfr a gyhoeddwyd yn Tsiecoslofacia a'i olynydd y Weriniaeth Tsiec.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Some facts and figures. Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) From Klementinum's History. Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]