Matthias, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Matthias, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd24 Chwefror 1557 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 1619 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcasglwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari Edit this on Wikidata
PriodAnna of Tyrol Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Matthias (24 Chwefror 155720 Mawrth 1619) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1612 i 1619, yn Frenin Bohemia o 1611 i 1617, yn Archddug Awstria o 1608 i 1619, ac yn Frenin Hwngari a Chroatia o 1608 i 1618.[1]

Ganed yn Fienna i Maximilian (mab hynaf Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig) a'i wraig Maria. Daeth Maximilian yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ym 1564. Bu farw Maximilian ym 1576, a fe'i olynwyd gan frawd hŷn Matthias, Rudolf II. Aeth Matthias i'r Iseldiroedd Sbaenaidd ym 1577 i olynu Johann o Awstria yn llywodraethwr dros y taleithiau hynny. Nid oedd yn disgleirio wrth lywodraethu, a methodd i drefnu cyfaddawd rhwng lluoedd Catholig Sbaen a'r Protestaniaid dan Wiliam o Oren cyn iddo ddychwelyd i Awstria ym 1581.[2]

Fe'i penodwyd yn Llywodraethwr Awstria ym 1593 gan yr Ymerawdwr Rudolf, ac yn y swydd honno bu'n cefnogi y Gwrth-Ddiwygiad ac yn gostegu sawl gwrthryfel gan werinwyr Protestannaidd yn y cyfnod 1595–97. Bu'r ymgyrch hon yn newid mawr i bolisi Maximilian o gymodi rhwng yr Eglwys Gatholig a'r enwadau Protestannaidd. Bu Matthias hefyd yn rheoli lluoedd yr ymerodraeth yn erbyn yr Otomaniaid yn ystod y Rhyfel Tyrcaidd Hir ym 1594–95 ac ym 1598–1601. Ym 1606 cytunwyd ar Heddwch Zsitvatorok rhwng Matthias a'r Swltan Ahmed I, a llwyddodd Matthias hefyd i heddychu gwrthryfel yn Hwngari drwy ganiatáu rhyddid crefyddol a rhywfaint o ymreolaeth. Wrth i Rudolf ddioddef yn fwyfwy o iselder ysbryd ac esgeuluso'i ddyletswyddau gwladol, ac yn sgil marwolaeth ei frawd Ernest ym 1595, rhuthrodd y Hapsbwrgiaid eraill i gytuno ar olyniaeth y frenhinllin. Ym 1606 cydnabuont Matthias yn bennaeth ar Dŷ Hapsbwrg ac yn etifedd i'r goron. Am chwe mlynedd, hyd at farwolaeth yr ymerawdwr ym 1612, bu brwydr dros rym rhwng y ddau frawd. Ym 1608 ymgynghreiriodd ystadau Hwngari, Awstria, a Morafia â Matthias yn erbyn Rudolf, a choronwyd Matthias yn Frenin Hwngari ac yn Frenin Croatia, ac ym 1611 yn Frenin Bohemia.[2]

Esgynnodd Matthias i orsedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn sgil marwolaeth Rudolf ym 1612. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod digyffro ar y cyfan, ac enciliodd yr ymerawdwr o fywyd cyhoeddus yn niwedd ei oes gan roi grym yn nwylo'i brif gynghorwr, Melchior Klesl. Methiant a fu'r ymdrechion i gymodi'r Catholigion a'r Protestaniaid yn y cynulliad ymerodrol. Tyfodd gwrthwynebiad yn erbyn Matthias ymhlith y Protestaniaid, a sbardunwyd y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48) gan wrthryfel ym Mohemia. Bu farw Matthias yn Fienna yn 62 oed a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei gefnder Ferdinand II.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Carl Eduard Vehse (1986). Memoirs of the Court of Austria (yn Saesneg). G. Barrie. t. 261.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Matthias (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Ebrill 2020.
Rhagflaenydd:
Rudolf II
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
16121619
Olynydd:
Ferdinand II