Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd10 Mawrth 1503 Edit this on Wikidata
Alcalá de Henares Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 1564 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig, teyrn, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, Prince-Elector, brenin Bohemia, brenin Hwngari Edit this on Wikidata
TadFelipe I, brenin Castilla Edit this on Wikidata
MamJuana o Castilla Edit this on Wikidata
PriodAnne o Bohemia a Hwngari Edit this on Wikidata
PlantJohanna o Awstria, Siarl II, Archduchess Barbara of Austria, Margaret of Austria, Eleonore of Austria, Duchess Consort of Mantua, Catherine of Austria, Archduchess Magdalena of Austria, Archdduges Maria o Awstria, Ferdinand II, Archduke of Austria, Archdduges Anna o Awstria, Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Elizabeth of Austria, John of Habsburg, Archduchess Helena of Austria, Ursula von Habsburg Edit this on Wikidata
PerthnasauLouis II of Hungary, Vladislaus II o Bohemia a Hwngari, Isabel Clara Eugenia of Spain, Ferdinand III, Ferrando II, Isabel I, brenhines Castilla, Maximilian I, Maria van Bourgondië Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Gardas Edit this on Wikidata

Tywysog o gyff Sbaenaidd Tŷ Hapsbwrg oedd Ferdinand I (10 Mawrth 150325 Gorffennaf 1564) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1556 i 1564, yn Frenin Bohema, Hwngari a Chroatia o 1526 i 1564, ac yn Archddug Awstria o 1521 i 1564.

Ganed yn Alcalá de Henares, Castilia, yn fab i Philip Olygus, Dug Bwrgwyn, a Juana, etifeddes debygol i Goronau Castilia ac Aragon. Cafodd Ferdinand ei fagu a'i addysgu yn Sbaen. Esgynnodd Juana i orsedd Castilia yn 1504 ac Aragon yn 1516. Bu farw Philip yn 1506, rhai misoedd wedi iddo gael ei gyhoeddi yn Frenin Castilia, y cyntaf o deulu'r Hapsbwrgiaid i deyrnasu dros Sbaen. Daeth brawd hŷn Ferdinand, Siarl, yn frenin cyntaf Sbaen yn 1516 ac yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn 1519, a dan ei reolaeth bu tiriogaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ei hanterth. Roedd gan Ferdinand a Siarl bedwar chwaer: Eleanor, Brenhines Gydweddog Portiwgal a Ffrainc; Isabella, Brenhines Gydweddog Denmarc, Norwy a Sweden; Mair, Brenhines Gydweddog Hwngari a Bohemia a Llywodraethwr yr Iseldiroedd Hapsbwrgaidd; a Catrin, Brenhines Gydweddog Portiwgal.

Rhoddwyd tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid yng Nghanolbarth Ewrop yng ngofal Ferdinand, a fe'i penodwyd yn Archddug Awstria ac yn Rhaglyw Württemberg. Am ddeng mlynedd ar hugain a mwy, Ferdinand oedd yn ddirprwy ei frawd yn nhiroedd Almaenig y Hapsbwrgiaid, a gwasanaethodd yn llywydd y Reichsregiment, cyngor llywodraethol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yn gynrychiolydd mewn cynulliadau ymerodrol.[1] Yn sgil marwolaeth Lewis II, Brenin Hwngari a Bohemia, a oedd yn briod i'w chwaer Mair, ym Mrwydr Mohács yn 1526, etholwyd Ferdinand yn Frenin Bohemia a Hwngari a fe drodd y coronau hynny yn eiddo i etifeddion Tŷ Hapsbwrg. Hawliwyd Teyrnas Hwngari hefyd gan János Zápolya, a chytunodd y ddau frenin i rannu'r wlad rhyngddynt yn ôl Cytundeb Nagyvárad (1538). Bu Ferdinand hefyd yn wynebu bygythiad yr Ymerodraeth Otomanaidd, a lwyddodd i goncro rhannau o Hwngari ym Mrwydr Mohács. Methiant a fu'r gwarchae Otomanaidd ar Fienna yn 1529.

Roedd Ferdinand yn Babydd pybyr ac yn gwrthwynebu'r Diwygiad Protestannaidd. Cynhaliwyd Cymanfaoedd Speyer (1526 a 1529) ganddo, ac ymdrechodd i orfodi Gorchymyn Worms ac i sefydlogi'r Eglwys Gatholig ar draws yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn sgil Brwydr Lauffen yn 1534, cipiwyd Württemberg gan Philip I, Landgraf Hessen, un o arweinwyr y Lwtheriaid, a bu'n rhaid i Ferdinand gydnabod adferiad y Dug Ulrich. Yn 1546–47, cynorthwyodd Ferdinand yn yr ymgyrch Hapsbwrgiaid i drechu lluoedd Protestannaidd Cynghrair Schmalkalden. O'r diwedd cydnabu Ferdinand yr angen i gymodi'r Catholigion a'r Protestaniaid, a sicrhaodd Gytundeb Passau (1552) gyda Mortiz, Etholydd Sachsen, ac Heddwch Augsburg (1555) rhwng yr Ymerodraeth Lân Rufeinig a Chynghrair Schamlkalden.

Yn sgil ymddiorseddiad Siarl V yn 1556, rhennid tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid rhwng ei fab Philip II, brenin Sbaen, a Ferdinand a goronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn 1558. Aeth ati i ganoli gweinyddiaeth yr ymerodraeth ac i adfywio'r ffydd Gatholig yn ei diriogaethau. Bu'n rhaid i Ferdinand gytuno i dalu teyrnged i'r Otomaniaid yn 1562 am ei diriogaeth yng ngorllewin Hwngari. Bu farw Ferdinand yn Fienna yn 61 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei fab Maximilian II.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Ferdinand I (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Mawrth 2020.
Rhagflaenydd:
Siarl V
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
15561564
Olynydd:
Maximilian II