Ferdinand III, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ferdinand III, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Frans Luycx 002 - Emperor Ferdinand III.jpg
Ganwyd 13 Gorffennaf 1608 Edit this on Wikidata
Graz Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Ebrill 1657 Edit this on Wikidata (48 oed)
Fienna Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Swydd Ymerawdwr Glân Rhufeinig Edit this on Wikidata
Mudiad cerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
Plant Philip August von Habsburg, Maximilian Thomas Erzherzog von Österreich, Marie von Habsburg, Theresia Maria Josefa von Habsburg, Ferdinand Josef Alois Erzherzog von Österreich Edit this on Wikidata
Llinach Habsburg Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Urdd y Cnu Aur, Order of the Golden Fleece Edit this on Wikidata
Llofnod

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Ferdinand III (13 Gorffennaf 16082 Ebrill 1657) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1637 i 1657, yn Archddug Awstria o 1637 i 1657, yn Frenin Bohemia o 1627 i 1657, ac yn Frenin Hwngari o 1625 i 1657.

Ganed Ferdinand yn Graz, Dugiaeth Styria, un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, yn fab hynaf i Ferdinand, Archddug Awstria, a'i wraig Maria Anna, Tywysoges Bafaria. Ym 1619 coronwyd Ferdinand yr hynaf yn Ferdinand II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Bachgen galluog a llawn egni oedd Ferdinand, a dechreuodd fynychu cynghorau'r gweinidogion ac ymwneud â materion gwladol ym 1626 pan oedd yn ei arddegau. Fe'i coronwyd yn Frenin Hwngari ym 1625 ac yn Frenin Bohemia ym 1627.[1]

Yn ôl gorchymyn y Pencadfridog Albrecht von Wallenstein, ni chafodd Ferdinand y cyfle i reoli byddinoedd yr ymerodraeth yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48). Cynllwyniodd Ferdinand i ddiswyddo Wallenstein ym 1630, a dan ei gyfarwyddyd llwyddodd lluoedd y Hapsbwrgiaid ym 1634 i gipio Regensburg ac i drechu'r Swediaid ym Mrwydr Cyntaf Nördlingen. Arweiniodd Ferdinand y garfan heddwch yn y llys Hapsbwrgaidd wrth drafod Heddwch Prâg (1635).[1]

Etholwyd Ferdinand yn Frenin y Rhufeiniaid ym 1636, ac yn sgil marwolaeth ei dad ym 1637 fe etifeddodd orsedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cytunodd i Heddwch Westfalen ym 1648 gan ddod â therfyn i'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Bu farw Ferdinand yn Fienna yn 48 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei ail fab Leopold I.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Ferdinand III (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ebrill 2020.