Joseff II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Joseff II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd13 Mawrth 1741 Edit this on Wikidata
Hietzing, Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1790 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Man preswylPalas yr Hofburg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd milwrol Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig Edit this on Wikidata
PriodY Dywysoges Isabella o Parma, Maria Josepha o Bafaria Edit this on Wikidata
PlantYr Archdduges Maria Theresa o Awstria, Archduchess Marie Christine of Austria Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata
llofnod

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg-Lorraine oedd Joseff II (13 Mawrth 174120 Chwefror 1790) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig ac Archddug Awstria o 1765 i 1790 ac yn Frenin Hwngari, Brenin Croatia, a Brenin Bohemia o 1780 i 1790.

Ganed yn Fienna, Archddugiaeth Awstria, yn fab hynaf i Maria Theresa, Archdduges Awstria a merch yr Ymerawdwr Siarl VI, a'i gŵr Ffransis, Archddug Awstria ac Uchel Ddug Toscana. Etholwyd ei dad yn Ffransis I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, ym 1745, a fu ar yr orsedd am ugain mlynedd. Derbyniodd Joseff addysg lem a thrylwyr cyn i'w fam ei benodi i'r Cyngor Gwladol, a disgleiriai'r llywodraethwr ifanc yn ei swydd. Priododd ag Isabella, Tywysoges Parma, ym 1760, a fu farw o'r frech wen ym 1763.[1]

Priododd Joseff â'i gyfyrderes Maria Josepha, Tywysoges Bafaria a merch yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig, yn Ionawr 1765. Yn sgil marwolaeth Ffransis I yn Awst 1765, datganwyd Joseff yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a fe'i dyrchafwyd yn gyd-raglyw Awstria gan ei fam Maria Theresa. Er gwaethaf ei feddwl craff a'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, nid oedd y mab yn dda am benderfynu a bu'r fam yn pennu polisi. Buont yn gyd-benaethiaid ar y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd nes marwolaeth Maria Theresa ym 1780, ac wedyn Joseff oedd yn unig Archddug Awstria am ddeng mlynedd olaf ei oes. Ym 1780 hefyd etifeddodd Joseff goronau Hwngari, Croatia, a Bohemia oddi ar ei fam. Dan ddylanwad Maria Theresa, rhoddwyd diwygiwyd y weinyddiaeth, y gyfraith, y gyfundrefn addysg, a'r eglwys yn Awstria, a sefydlwyd gwasanaeth iechyd cyhoeddus gan ei meddyg personol Gerard van Swieten. Cytunodd Joseff a Ffredrig II, brenin Prwsia, i rannu Gwlad Pwyl ym 1772 rhwng y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, Teyrnas Prwsia, ac Ymerodraeth Rwsia, ac ychwanegwyd Galisia felly at diroedd Tŷ Hapsbwrg. Cyfeddianwyd Bukovina oddi ar Dywysogaeth Moldafia ym 1775 yn sgil Rhyfel Rwsia a Thwrci (1768–74).[1]

Dan deyrnasiad Joseff, diddymwyd taeogaeth a chyhoeddwyd Gorchmynion Goddefiad i gydnabod hawliau Cristnogion o bob enwad (1780) ac Iddewon (1781) ar draws tiriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Parhaodd ag ymdrechion Maria Theresa i seciwlareiddio Prifysgol Fienna ac i wahanu galluoedd y farnwriaeth a'r adran weithredol. Diddymwyd rhyw 700 o fynachlogydd ganddo, gan wylltio'r Pab Pïws VI, ac nid oedd Catholigion yn yr Iseldiroedd ac Hwngari yn enwedig yn hoff o ymdrechion Joseff i ddiwygio bywyd crefyddol a chymdeithasol ei ddeiliaid. O ran polisi tramor, methodd Joseff i atal blocâd gan Daleithiau Unedig yr Iseldiroedd yn erbyn llongau'r Iseldiroedd Hapsbwrgaidd, a methiant hefyd a fu ei gynllun i gyfnewid y diriogaeth honno am Etholyddiaeth Bafaria.[1]

Ymgynghreiriodd Joseff â Catrin II, Ymerodres Rwsia, yn erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd, ond ni fedrai sicrhau buddugoliaeth yn Rhyfel Awstria a Thwrci (1788–1791). Yn niwedd ei deyrnasiad, tynnodd Joseff ddig y bonedd yn Hwngari drwy ddyrchafu'r Almaeneg yn iaith y gyfraith, a llwyddodd Chwyldro Brabant (1789–90) i ddymchwel rheolaeth y Hapsbwrgiaid yn yr Iseldiroedd am gyfnod. Bu farw Joseff yn Fienna yn 48 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei frawd iau, Leopold II.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Joseph II (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mai 2020.
Rhagflaenydd:
Ffransis I
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
17651790
Olynydd:
Leopold V