Pab Pïws VI

Oddi ar Wicipedia
Pab Pïws VI
Pompeo Batoni - Ritratto di Papa Pio VI (National Gallery of Ireland).jpg
GanwydGiovanni Angelo Braschi Edit this on Wikidata
25 Rhagfyr 1717 Edit this on Wikidata
Cesena Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 1799 Edit this on Wikidata
Valence, Drôme Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTaleithiau'r Babaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ferrara Edit this on Wikidata
Galwedigaethclerig, offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Swyddpab, cardinal Edit this on Wikidata

Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 15 Chwefror 1775 hyd ei farwolaeth oedd Pïws VI (ganwyd Giovanni Angelo Braschi) (25 Rhagfyr 171729 Awst 1799).

Roedd Pïws VI yn teyrnasu yn ystod cyfnod y Chwyldro Ffrengig yn 1789. Condemniodd y chwyldro a'r gweithredoedd gwrthglerigol yn Ffrainc a'i ddilynodd.

Gorchfygodd milwyr Ffrainc dan orchymyn Napoleon Bonaparte y milwyr Pabaidd ym 1796 a meddiannwyd Taleithiau'r Babaeth gan luoedd Ffrainc. Yn 1798, ar ôl iddo wrthod ildio ei rym dros ei diriogaethau, cymerwyd Pïws yn garcharor a'i gludo i Ffrainc. Bu farw ddeunaw mis yn ddiweddarach yn Valence.

Rhagflaenydd:
Clement XIV
Pab
15 Chwefror 177529 Awst 1799
Olynydd:
Pïws VII
Pope.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bab. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.