Y Chwyldro Ffrengig
| Enghraifft o: | digwyddiad hanesyddol, chwyldro |
|---|---|
| Dyddiad | 5 Mai 1789 |
| Dechreuwyd | 14 Gorffennaf 1789 |
| Daeth i ben | 9 Tachwedd 1799 |
| Lleoliad | Ffrainc |
| Yn cynnwys | Teyrnasiad Braw, cyhoeddi diddymiad y frenhiniaeth |
| Enw brodorol | Révolution française |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02_hz |
| Thesawrws y BNCF | 29775 |

Roedd y Chwyldro Ffrengig (o 1789 hyd 1799) yn gyfnod yn hanes Ffrainc pan wnaeth y gweriniaethwyr ddymchwel y frenhiniaeth ac fe aeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig mewn canlyniad trwy gyfnod o ailstrwythuro sylfaenol yn Ffrainc. Tra y bu Ffrainc yn cyfnewid yn ôl ac ymlaen rhwng gweriniaeth, ymerodraeth a brenhiniaeth am 75 mlynedd yn dilyn cwymp y Weriniaeth Gyntaf i law Napoleon Bonaparte, roedd y chwyldro er hynny yn nodi diwedd yr ancien régime gan roi y rhai a ddilynodd yn y cysgod yn nychymyg pobl Ffrainc.
Effeithiodd y Chwyldro Ffrengig nid yn unig ar Ffrainc ond ar weddill Ewrop hefyd, a chafodd gryn effaith ar y tiroedd Almaenaidd. Roedd yr hyn a ddechreuodd fel protest gan yr aristocratiaid yn erbyn Louis XVI, brenin Ffrainc a’i frenhiniaeth absoliwt, i ragflaenu chwyldro mawr a newidiodd hanes a golwg Ewrop.
Daeth grŵp o'r enw y Girondistes, o ardal Bordeaux, i rym ond fe’u gwrthwynebwyd gan grŵp y Jacobins. Disodlwyd y Jacobins gan y Directoire, sef grŵp o’r dosbarth canol a oedd wedi uno â’r Girondistes, ac fe gafwyd llywodraeth newydd gymedrol. Daethant i beŵr ym 1794 ond erbyn 1799 ystyriwyd hwy yn llygredig ac fe gymerodd Napoleon yr awenau. Daeth Napoleon i bŵer â chymorth y fyddin ac fe lywodraethodd fel teyrn. Yr angen am sefydlogrwydd a chael gwared ar y chwyldro llygredig a achosodd barodrwydd y bobl i dderbyn Napoleon er ei fod yn unben. Daeth Napoleon â threfn newydd ond ailsefydlodd lawer o hen sefydliadau’r chwyldro a oedd wedi dirywio hefyd. Er yn unben, yr oedd yn ddyn goleuedig, a chyflwynodd system weinyddol ddiwygiedig. Diwygiodd y system addysg gan fynnu i bawb gael addysg. Diwygiodd y system gyfreithiol i greu y Code Napoleon, a oedd yn cynnwys datganiad o hawliau dynol.
Adwaith yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Cymysg fu'r ymateb yng Nghymru. Ar y dechrau datganwyd cefnogaeth frwd i'r chwyldro gan rhai llenorion a radicaliaid - e.e. Jac Glan-y-gors, awdur Seren Tan Gwmmwl a Iolo Morganwg - ond roedd eraill yn ei erbyn. Mae'n debyg mai cyfyng oedd gwybodaeth y werin bobl am y digwyddiadau yn Ffrainc a'r Amerig oherwydd diffyg newyddiaduron Cymraeg. Ond dychrynwyd y rhan fwyaf o gefnogwyr y Chwyldro gan y tro gwaedlyd y cymerodd a'r anhrefn a ddilynodd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John James Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru (Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl, 1928)