Seren Tan Gwmmwl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Pamffled wleidyddol gan John Jones (Jac Glan-y-gors) (1766-1821) a gyhoeddwyd yn 1795 yw Seren Tan Gwmmwl. Mae'n garreg filltir bwysig yn hanes gwleidyddiaeth Cymru a datblygiad cenedlaetholdeb a gweriniaetholdeb yn y wlad yn ogystal â bod yn waith llenyddol o safon.

Cyhoeddwyd y bamffled fel llyfryn yn Llundain gan y cyhoeddwr Cymreig Vaughan Griffiths yn 1795, gyda chefnogaeth y Gwyneddigion. Y teitl llawn yw:

SEREN TAN GWMMWL, / neu / ychydig sylw / ar / Frenhinoedd, Escobion, Arglwyddi etc. / a / Llywodraeth Lloegr / yn gyffredin. / Wedi ei ysgrifennu er mwyn y Cymru uniaith.

Y prif ddylanwad ar draethawd Glan-y-gors yw athroniaeth y radicalydd o Sais Thomas Paine, awdur The Rights of Man.[1] Ar un ystyr mae'r llyfryn yn fath o dalfyriad a chrynodeb o brif syniadau Paine, mewn gwisg Gymreig, ond mae'r awdur yn tynnu ar hanes traddodiadol Cymru fel y'i ceir yn Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans hefyd ac mae ei genedlgarwch yn elfen amlwg yn y gwaith hefyd. Rhaid gosod y llyfr yng nghyd-destun y Chwyldro Ffrengig hefyd: roedd Glan-y-gors yn un o'r Cymry gwerinol a'i groesawodd yn frwd.

Mae Seren Tan Gwmmwl (sic gyda dwy 'm') yn fflangellu brenhinoedd, esgobion ac arglwyddi fel achosion pob drwg cymdeithasol ac yn eu dychanu yn ddidrugaredd.

Mae agoriad y Seren yn ddarn rhyddiaith grymus a chofiadwy sy'n gosod y cyweirnod am weddill y llyfr ac yn enghraifft dda o Gymraeg ystwyth a naturiol yr awdur:

Gan fod cymmaint trwst yn y byd, ar yr amser yma, ynghylch brenhinoedd, byddinoedd, a rhyfeloedd; ac amryw o bethau eraill, ac sydd yn ddychrynadwy i feddyliau pobl, ac sydd am fyw mewn undeb a brawdgarwch â'i gilydd, meddyliais mai cymmwys a fyddai, dweud gair wrth fy nghydwladwyr, yn yr achos pwysfawr yma, rhag ofn iddynt gael eu galw i arfau i ladd eu cyd-greaduriaid, heb wybod am ba achos mae'n rhaid iddynt wneuthur y fath orchwyl gwaedlyd a chigyddlyd.[2]

Yna mae'r awdur yn mynd yn ei flaen i ddisgrifio trahauster Nimrod a hanes y proffwyd Samuel o'r Hen Destament. Yn yr adran nesaf ceir hanes Gwrtheyrn, Ronwen a Brad y Cyllyll Hirion gan gyfeirio at bennaethiaid twyllodrus y Saeson ('Germaniaid') fel rhagflaenwyr yr Hanoferiaid cyfoes (a hwythau'n 'Germaniaid' hefyd) a reolai Brydain Fawr. Mae'n gresynu "coll Prydain" a thynged y Brutaniaid (Cymry) fel cenedl dan orthrwm. Wedyn ceir hanes dychanol brenhinoedd a breninesau Lloegr a'u gorthrwm ar y werin bobl ym mhobman. Yn gymysg â hyn fflangellir Eglwys Loegr ac yn enwedig ei harfer o orfodi esgobion Seisnig ar y Cymry, a gwleidyddion pwdr San Steffan. Mae'r traethawd yn cloi ar nodyn gobeithiol: mae'r Seren, sef Seren Rhyddid, am ddod allan eto, fel y mae wedi gwneud yn barod yn yr Amerig a Ffrainc (y Chwyldro Americanaidd a'r Chwyldro Ffrengig).[3]

Ysbrydoliad i Ffansîn hanes yn yr 1980au[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddiwyd enw Seren Tan Gwmwl fel enw ar gyfer ffansîn hanes a gynhyrchwyd gan Cymdeithas Iolo Morganwg - cymdeithas hanes myfyrwyr Aberystwyth 1988-1990.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dylanwad y Chwyldro Ffrengig, tt. 150-152.
  2. Seren Tan Gwmmwl (argraffiad 1923), tud. 1.
  3. Seren Tan Gwmmwl (argraffiad 1923), tt. 1-44.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Seren Tan Gwmmwl a Toriad y Dydd (Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl, 1923)
  • John James Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru (Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl, 1928)