John Jones (Jac Glan-y-gors)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Jones
Glan-y-Gors 01a.JPG
Ganwyd 10 Tachwedd 1766 Edit this on Wikidata
Cerrigydrudion Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Mai 1821 Edit this on Wikidata (54 oed)
Man preswyl Southwark Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd, satirist Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Seren Tan Gwmmwl Edit this on Wikidata

Awdur pamffledau gwleidyddol a bardd dychanol oedd John Jones (Jac Glan-y-gors) (10 Tachwedd 176621 Mai 1821), a anwyd yng Ngherrigydrudion, yn yr hen Sir Ddinbych (Sir Conwy).

Ei fywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd a magwyd Jac Glan-y-gors yn ffermdy Glan-y-gors ym mhlwyf Cerrrigydrudion, yn fab i Margaret a Laurance (sic) Jones. Treuliodd ei lencyndod yn gweithio ar y fferm teuluol, hyd yn 23 oed. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanrwst (Ysgol Rad Llanrwst) am gyfnod.

Symudodd i Lundain yn 1789 i weithio mewn siop yn y dref honno. Yn ôl un ffynhonnell, ffodd yno oddi wrth gwŷr y gyfraith, wedi iddo wrthod ymuno â'r milisia lleol, un o ugeiniau a godwyd yng Nghymru yr adeg honno am fod yr awdurdodau'n ofni goresgyniad y Ffrancod, a bygwth torri tŷ'r person lleol, un o'r enw Rowlands, ar ei ben. Yn 1793 roedd yn rhedeg tafarn y Canterbury Arms, Southwark. Yn 1818 cymerodd denantiaeth y King's Head yn Stryd Ludgate a bu farw yno yn 1821.

Cymdeithasau llenyddol Llundain[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Llundain daeth yn aelod blaengar o Gymdeithas y Gwyneddigion yn 1790, yn yr un flwyddyn â Twm o'r Nant ac Edward Charles. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion er hyrwyddo'r Gymraeg. Ef hefyd oedd un o gychwynwyr Y Greal, ar ran y Gymdeithas honno.

Ei waith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad lleol arferai Glan-y-gors eistedd ar garreg fawr ar lan ffrwd ger y fferm i brydyddu. Perthyn i draddodiad y bardd gwlad mae ei gerddi cyntaf, yn gerddi mawl neu ddiolch i ffrindiau a chymdogion; "cerddi achlysurol".

Cyflwynodd syniadau radicalaidd Thomas Paine i'r Cymry drwy'i ddau lyfryn enwog Seren Tan Gwmmwl (1795) a Toriad y Dydd (1797). Bu rhaid iddo ffoi o Lundain a llechu yng nghymdogaeth Cerrigydrudion am gyfnod mewn canlyniad; roedd yr awdurdodau'n llawdrwm ar unrhyw un a gefnogai syniadau'r Chwyldro Ffrengig.

Ysgrifennodd nifer helaeth o faledi hefyd, gan gynnwys Hanes offeiriad wedi meddwi (Person Sir Aberteifi), Yr hen amser gynt (addasiad o Auld Lang Syne) a Cerdd Dic Siôn Dafydd sy'n dychanu Cymry Llundain am droi eu cefn ar yr iaith Gymraeg.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Seren Tan Gwmmwl a Toriad y Dydd, (Lerpwl, 1923). Adargraffiad o'r testunau gwreiddiol gyda rhagymadrodd gan Hugh Evans.
  • Richard Griffith (gol.), Gwaith Glan y Gors (Llanuwchllyn, 1905). Detholiad o'i gerddi yng Nghyfres y Fil gyda rhagymadrodd gan Carneddog.