Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cymru
Arms of Llywelyn.svg
Flag of Wales.svg
Arwyddair"Cymru am byth"
MathGwlad
PrifddinasCaerdydd
Poblogaeth3,107,500 (2021)
Sefydlwyd383 CC
AnthemHen Wlad fy Nhadau
Pennaeth llywodraethMark Drakeford Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
NawddsantDewi Sant
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Cymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolcenhedloedd Celtaidd Edit this on Wikidata
Sir22 o siroedd
Arwynebedd20,779 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLloegr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.35°N 3.63°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW92000004 Edit this on Wikidata
GB-WLS Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Cymru Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Cymru Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Cymru Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMark Drakeford Edit this on Wikidata
Wales in the UK and Europe.svg
Arianpunt sterling Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Cymru (gwahaniaethu).

Mae Cymru (Saesneg: Wales; Cernyweg: Kembra) yn wlad Geltaidd yn Ewrop. Gyda'r Alban, Cernyw, Gogledd Iwerddon a Lloegr,[1] mae Cymru wedi'i hawlio gan Loegr ers Oes y Tywysogion, ac yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad ond siaredir Saesneg gan y mwyafrif helaeth o'i dinasyddion erbyn heddiw; gall oddeutu 19% o'i phoblogaeth siarad Cymraeg.

Mae Cymru yn ffinio â Lloegr i'r dwyrain a'r moroedd; Môr Hafren, Y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon. Roedd gan Gymru boblogaeth o 3,107,500 yn 2021[2] ac mae ganddi arwynebedd o 20,779 km2 (8,023 mi). Mae gan Gymru dros 2,700 km (1,700 mi) o arfordir ac mae'n fynyddig ar y cyfan. Mae gan Gymru fynyddoedd talach yn gogledd a'r canoldir, gan gynnwys yr Wyddfa, ei chopa uchaf, yn Eryri. Mae'r wlad o fewn y ardal tymheredd y gogledd ac mae ganddi hinsawdd forwrol. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Caerdydd.

Daeth hunaniaeth genedlaethol Gymreig i'r amlwg fel Brythoniaid Celtaidd ar ôl i Macsen Wledig (Magnus Maximus) a'r Rhufeiniaid adael Ynys Brydain yn y 5ed ganrif. Datblygodd ystyrir Cymru fel gwlad Celtaidd modern yn oes tywysogion Cymru. Bu farw twywysog olaf Cymru, Llywelyn ein Llyw Olaf (Llywelyn ap Gruffudd) yn 1282, a olygodd cwblhad concwest Cymru gan Edward I, brenin Lloegr.

O 1400-1410 ailenillodd Owain Glyndŵr annibyniaeth i Gymru. Ar ol hynny cafodd Cymru ei hatodi gan Loegr a'i hymgorffori o fewn cyfundrefn gyfreithiol Lloegr o dan Ddeddfau Cyfreithiau Cymru 1535 a 1542. Datblygodd gwleidyddiaeth Gymreig nodedig yn y 19eg ganrif, yn arbennig yn gysylltiedig â Rhyddfrydiaeth Gymreig. Amlygwyd hyn ar ddechrau'r 20fed ganrif gan David Lloyd George, ond cafodd ei ddadleoli gan dwf sosialaeth a sefydlwyd Llafur Cymru erbyn 1947. Roedd Lloyd George yn ymgyrchu yn gryf dros ddatganoli i Gymru yn ei yrfa cynnar a thyfodd teimlad cenedlaethol Cymreig dros y ganrif. Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925, a Cymdeithas yr Iaith yn 1962. Enillodd datganoli Cymreig fomentwm yn ystod yr 20fed ganrif ac yn dilyn refferendwm datganoli Cymreig 1997, ffurfiwyd y Cynulliad yn 1999, ac mae wedi ennill mwy o ddatganoli ers hynny ail hail-henwi yn Senedd Cymru yn 2020. Daeth mudiad cryfach dros annibyniaeth i Gymru i’r amlwg erbyn 2017, pan drafodwyd ail refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Daeth grwpiau o blaid annibyniaeth, megis YesCymru yn boblogaidd yn yr 21ain ganrif, er nad yw annibyniaeth yn cael ei chefnogi gan fwyafrif yng Nghymru.

Ar ddechrau’r chwyldro diwydiannol yng Nghymru, trawsnewidiodd datblygiad y diwydiannau mwyngloddio a metelegol y wlad o fod yn gymdeithas amaethyddol i fod yn genedl ddiwydiannol; achosodd ecsbloetio Maes Glo De Cymru gynnydd cyflym ym mhoblogaeth Cymru. Mae dwy ran o dair o'r boblogaeth yn byw yn Ne Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a'r cymoedd. Mae gan ranbarth dwyreiniol Gogledd Cymru tua chweched o'r boblogaeth gyfan a Wrecsam yw tref mwyaf y gogledd. Mae gan gweddill Cymru ddwysedd poblogaeth llai. Nawr fod diwydiannau echdynnol a thrwm traddodiadol y wlad wedi dirywio, mae economi Cymru yn seiliedig ar y sector cyhoeddus, diwydiannau ysgafn a gwasanaeth, a thwristiaeth. O fewn y diwydiant ffermio, gan gynnwys ffermio llaeth, mae Cymru yn allforiwr net, gan gyfrannu at hunangynhaliaeth amaethyddol genedlaethol.

Geirdarddiad

Yn wreiddiol defnyddiwyd yr enw "Cymry", ffurf luosog Cymro, i ddisgrifio'r wlad a'r bobl ynddi.[3] Ymddengys y gair yn gyntaf mewn cerdd fawl i Cadwallon ap Cadfan[4] sydd o bosib yn dyddio o'r 7c, a daw o'r gair Brythoneg combrogos (lluosog: combrogi) sy'n golygu "cydwladwr". Mae'r elfen bro yn parhau'n air am wlad neu ardal yn yr iaith fodern. Diflanodd y b tua'r flwyddyn 600, ond mae'r mb wedi aros yn y ffurf Ladin am y wlad, Cambria, yn ogystal â'r enwau Cumbria a Cumberland yng ngogledd Lloegr.[5] Yn yr 16g mabwysiadwyd y sillafiad "Cymru" i ddynodi'r wlad gan neilltuo "Cymry" ar gyfer y trigolion.[6]

Y gair Germaneg walh neu wealh (estron) yw bôn yr enw Saesneg ar Gymru. O'r un gair daw enw'r Walwniaid yng Ngwlad Belg. Defnyddid y ffurf luosog Wealas yn enw ar drigolion Brythoneg a Lladin eu hiaith ym Mhrydain gan y Saeson cynnar, a Cornwealas ar drigolion penrhyn Cernyw (y Corn). Dros amser daethpwyd y ffurfiau Wales a Welsh yn enwau'r Saesneg ar wlad a phobl Cymru.[5]

Hanes

Searchtool.svg Prif erthyglau: Hanes Cymru a Cynhanes Cymru

Glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain ym mis Awst 55 C.C., ond ni lwyddwyd i oresgyn Cymru (a oedd, fel gweddill Prydain, yn diriogaeth Geltaidd) am fwy na chanrif wedi hynny. Roedd llwythau Celtaidd Cymru — a oedd, yn ddiwylliannol, yn debyg iawn i'w cymdogion Brythonaidd yn ne Prydain — yn cynnwys y Silwriaid yn y de a'r Ordovices yn y gogledd. Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru, cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae tystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. Adeiladasant 'gaer y lleng' Caerllion (Isca), lle mae'r amffitheatr sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain. Roedd y Rhufeiniaid hefyd yn brysur yn y gogledd — mae hen chwedl, Breuddwyd Macsen Wledig, yn dweud wrth Macsen Wledig, un o ymerawdwyr olaf yr ymerodraeth yn y Gorllewin, briodi Helen ferch pennaeth Cymreig o Segontiwm (Caernarfon gyfoes). Mae'n debygol mai'r rheswm pam y gwladychwyd Cymru gan y Rhufeiniaid yw oherwydd eu hawch i fwyngloddio aur, plwm, copr ac arian, a pheth sinc.[7]

Ni wnaeth yr Eingl-Sacsoniaid orchfygu Cymru, er iddynt dorri'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Hen Ogledd ar ôl Brwydr Caer yn 615, oherwydd llwyddiannau milwrol y brenhinoedd Cymreig yn ogystal, wrth gwrs, â'r dirwedd a'r hinsawdd. Adeiladodd Offa, brenin Mercia, glawdd mawr o ddaear ar hyd y ffin rhwng ei frenhiniaeth a gwlad y Cymry. Mae darnau o Glawdd Offa i'w gweld o hyd heddiw.

Parhaodd Cymru'n wlad Gristnogol ar ôl goresgyn Lloegr gan y tylwythau paganaidd Tiwtonaidd (y Saeson). Fe aeth Dewi Sant ar bererindod i Rufain yn y 6g, ac fe weithiodd fel esgob yng Nghymru ymhell cyn y cyrhaeddodd Awstin i drosi brenin Caint a dechrau esgobaeth Caergaint. Ond ni wnaeth y Cymry fawr o ymdrech i ledu Cristionogaeth yn Lloegr, efallai oherwydd yr elyniaeth rhwng y ddwy bobl. Roedd brenhinoedd Cymru fel Rhodri Mawr a Llywelyn ap Gruffudd yn ddigon cryf neu gyfrwys i gadw eu hannibyniaeth.

Llywelyn Fawr

Ar ddiwedd y 1060au, daeth y Normaniaid i Gymru, gan newid gwleidyddiaeth y wlad. Sefydlwyd arglwyddiaethau Normanaidd Y Mers, rhwng Cymru a Lloegr. Bu bron iawn i Gymru gyfan gael ei goresgyn ganddynt ond llwyddodd Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd i'w hatal, er iddynt ymsefydlu mewn rhannau o'r de ac ardaloedd ar y ffin. Llwyddodd Llywelyn Fawr i osod seiliau Cymru unedig a chyhoeddwyd ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Cymru. Ond parhaodd brenhinoedd Lloegr i ymosod ar Gymru trwy gydol y cyfnod. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf, sef tywysog olaf annibynnol Cymru, mewn ysgarmes ger Cilmeri a chipiodd Edward I o Loegr ei deyrnas. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech ydyw'r cestyll enwocaf.

Cafwyd cyfres o wrthryfeloedd yn erbyn llywodraeth y Saeson o ddiwedd y 13g hyd ddiwedd y 15g; gan Madog ap Llywelyn (1294—96) a Llywelyn Bren (1316) er enghraifft, ac roedd y Cymry'n disgwyl dychweliad Owain Lawgoch yn y 1370au i ryddhau'r wlad. Cododd Owain Glyndŵr mewn gwrthryfel yn 1400 a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru, ond marw allan yn raddol wnaeth y gwrthryfel wrth i frenhinoedd Lloegr ailosod eu hawdurdod yn y wlad.

Am ran helaeth o weddill y 15g tynnwyd Cymru i mewn i Ryfeloedd y Rhosynnau a welodd y Lancastriaid a'r Iorciaid yn ymgiprys am rym yn Lloegr. Ond er gwaethaf yr ansefydlogrwydd, fel yn y ganrif flaenorol, blodeuodd diwylliant Cymru ac yn arbennig y Traddodiad Barddol gyda Beirdd yr Uchelwyr yn cael nawdd gan yr uchelwyr Cymreig. Un o'r uchelwyr hyn oedd Harri Tudur, nai Siasbar Tudur a disgynnydd i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Yn 1485 glaniodd yn Sir Benfro gyda byddin o Ffrancod. Tyrrai nifer o Gymry ato a gorchfygodd Rhisiart III o Loegr ar 22 Awst 1485 ar Faes Bosworth.

Am gyfnod gwellodd sefyllfa'r Cymry. Diddymwyd y deddfau penyd a osodwyd ar y Cymry gan y Saeson ar ddechrau'r ganrif. Dan ei fab Harri VIII cyflwynwyd y Deddfau Uno a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr ond a waharddodd yr iaith Gymraeg o fywyd cyhoeddus y wlad. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad Gatholig i fod yn wlad Brotestanaidd. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol — cyfnod y Dadeni Dysg a'r Beibl Cymraeg — ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol ymneilltuol a ymledai'n gyflym yn ystod y 17eg ganrif a'r 18fed. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19eg ganrif roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd llythrennedd ac ymledai'r wasg Gymraeg. Cynyddai'r galw am Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ac am hunanlywodraeth ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad Cymru Fydd ar ei anterth.

Cymysg fu ffawd y genedl yn ystod y 20fed ganrif. Ond er gwaethaf y Rhyfel Byd Cyntaf, Dirwasgiad Mawr y 1930au, yr Ail Ryfel Byd a'r dirywiad ieithyddol yn y 1970au a'r 1980au, mae Cymru heddiw'n meddu Senedd ac ymddengys fod yr iaith Gymraeg yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl er mai dim ond oddeutu 19% o'r Cymry sy'n siarad Cymraeg.

Gwleidyddiaeth

Searchtool.svg Prif erthyglau: Gwleidyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth leol yng Nghymru
Logo Senedd Cymru
Logo Llywodraeth Cymru
Map Gweinyddol Cymru

Rheolid Cymru yn wreiddiol gan frenhinoedd neu dywysogion Cymreig annibynnol neu led-annibynnol megis Rhodri Mawr, Llywelyn Fawr, a'i ŵyr Llywelyn ein Llyw Olaf, a fabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru ym 1258: cydnabuwyd hyn gan Frenin Lloegr ym 1277 yn unol â Chytundeb Aberconwy. Ar ôl goresgyn tywysogaeth Llywelyn gan Edward I o Loegr, mynegwyd y dyhead am annibyniaeth i Gymru yn y 14g gan nifer o wrthryfeloedd bychain. Y gwrthryfel mwyaf oedd gwrthryfel Owain Glyndŵr a ddechreuodd ym 1400. Curodd gwŷr Glyn Dŵr lu Seisnig ger Pumlumon ym 1401. Cafodd Glyn Dŵr ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ag edrychodd am gymorth gan y Ffrancwyr, ond erbyn 1409 roedd gafael y lluoedd Seisnig ar y wlad yn rhy gryf a dirwynodd y gwrthryfel i ben.

Roedd gweddill y 15g yn bur ansefydlog hefyd. Ochrai'r rhan fwyaf o'r Cymry â phlaid y Lancastriaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Uchafbwynt y rhyfeloedd hynny oedd buddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri'r brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan gychwyn cyfnod y Tuduriaid.

Yn ystod teyrnasiad Harri VIII o Loegr, ychwanegwyd chwe sir newydd at y rhai a fodolai eisoes ar diriogaeth yr hen Dywysogaeth gan Ddeddf Uno 1536 trwy roi statws sirol i arglwyddiaethau Penfro a Morgannwg a chreu pedair sir newydd, sef Brycheiniog, Maesyfed, Trefaldwyn a Dinbych, a gwnaethpwyd deddfau Lloegr yn ddeddfau gwlad yng Nghymru. Yng Ngwent, crëwyd sir newydd Mynwy yn y de-ddwyrain ond rhoddwyd y sir yn rhan o gylchdaith llysoedd San Steffan ac felly cafwyd yr ymadrodd cyfreithiol "Cymru a Sir Fynwy", anomaledd a barhaodd hyd yr 20g er na fu'r sir newydd yn rhan o Loegr fel y cyfryw.

Mae aelodau Senedd Cymru, a grëwyd ym 1998 ac sy'n cyfarfod yng Nghaerdydd, yn cael eu hethol gan y Cymry. Tywysog Cymru yw'r teitl y mae brenin neu frenhines Prydain yn arfer rhoi i'w mab hynaf (ond nid yn ddieithriad), ond nid yw'r tywysog ei hun yn byw yng Nghymru nac yn cymryd rhan yn ei llywodraeth. Y Tywysog Siarl yw'r Tywysog Cymru Seisnig cyntaf i fedru siarad tipyn bach o Gymraeg.

Daearyddiaeth

Searchtool.svg Prif erthygl: Daearyddiaeth Cymru
Cymru o'r gofod

Crëwyd patrwm o 13 o siroedd yng Nghymru ar ôl Deddf Uno 1536: Sir Fôn, Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Y rhain ydyw siroedd hanesyddol Cymru. O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, crëwyd siroedd gweinyddol oedd wedi ei seilio ar y siroedd traddodiadol, ond nid oeddynt yn union yr un fath. Yn ad-drefnu llywodraeth leol 1974 crëwyd wyth sir gadwedig: Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Powys, Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Erbyn hyn y rhain yw enwau siroedd seremonïol Cymru. Yn 1996 crëwyd 22 o awdurdodau lleol i gymryd lle'r wyth sir gadwedig, a'u henwau yn cynnwys rhai o enwau'r 13 sir hanesyddol a rhai o'r wyth sir gadwedig, a'r ffiniau yn wahanol weithiau. Mae rhai o'r trefi mawrion yn awdurdodau unedol eu hunain e.e. Caerdydd, Abertawe, Wrecsam.

Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyfarnwyd i'r cestyll Biwmares, Harlech, Caernarfon, a Chonwy, ym 1986, ac i ardal ddiwydiannol Blaenafon ym 2000, statws Treftadaeth Byd UNESCO .

Gweler hefyd: Rhestr moroedd, baeau a phentiroedd Cymru, Rhestr ynysoedd Cymru, Rhestr mynyddoedd Cymru, Rhestr llynnoedd Cymru, Rhestr afonydd Cymru, Cronfeydd Cymru.

Bioamrywiaeth

Searchtool.svg Prif erthyglau: Fflora Cymru, Ffawna Cymru, a Rhestr adar Cymru

Adar

Y Barcud Coch, Rhaeadr.

Oherwydd ei harfordir hir, mae Cymru yn gartref i amrywiaeth o adar môr. Mae'r arfordiroedd a'r ynysoedd cyfagos yn gartref i nythfeydd o huganod, adar drycin Manaw, palod, gwylanod coesddu, mulfilod a llursod. Mewn cymhariaeth, gyda 60 y cant o Gymru yn uwch na’r gyfuchlin 150m, mae’r wlad hefyd yn cynnal amrywiaeth o adar cynefin yr ucheldir, gan gynnwys y gigfran a mwyalchen y mynydd.[8][9] Mae adar ysglyfaethus yn cynnwys y cudyll bach, boda tinwyn a'r barcud coch, symbol cenedlaethol o fywyd gwyllt Cymru. At ei gilydd, mae mwy na 200 o wahanol rywogaethau o adar wedi’u gweld yng ngwarchodfa’r RSPB yng Nghonwy, gan gynnwys ymwelwyr tymhorol.[10]

Mamaliaid

Bu farw mamaliaid mwy, gan gynnwys eirth brown, bleiddiaid a chathod gwyllt, allan yn ystod cyfnod y Normaniaid. Heddiw, mae mamaliaid yn cynnwys chwistlod, llygod pengrwn, moch daear, dyfrgwn, carlymod, gwencïod, draenogod a phymtheg rhywogaeth o ystlumod. Mae dwy rywogaeth o gnofilod bach, y llygoden wddf felen a'r pathew, o bwys Cymreig arbennig i'w cael ar y ffin nad oedd yn cael ei tharfu yn hanesyddol. [11] Nid yw'r bele, sy'n cael ei weld yn achlysurol, wedi'i gofnodi'n swyddogol ers y 1950au. Bu bron i'r ffwlbart gael ei yrru i ddifodiant ym Mhrydain, ond fe barhaodd yng Nghymru ac mae bellach yn lledu'n gyflym. Mae geifr gwyllt i'w cael yn Eryri. [12] Ym mis Mawrth 2021, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwydded i ryddhau hyd at chwe afanc yn Nyffryn Dyfi, sef y rhyddhad swyddogol cyntaf o afancod yng Nghymru.[13]

Morol

Mae dyfroedd de-orllewin Cymru Gŵyr, Sir Benfro a Bae Ceredigion yn denu anifeiliaid morol, gan gynnwys heulforgwn, morloi llwyd yr Iwerydd, crwbanod cefn lledr, dolffiniaid, llamhidyddion, sglefrod môr, crancod a chimychiaid. Mae Sir Benfro a Cheredigion, yn arbennig, yn cael eu cydnabod fel ardal o bwysigrwydd rhyngwladol i ddolffiniaid trwyn potel, ac yng Nghei Newydd mae unig gartref haf dolffiniaid trwyn potel yn y DU gyfan. Mae pysgod afon o bwys yn cynnwys torgoch, llysywen, eog, gwangod, aderyn y waun a thorgoch yr Arctig, tra bod y gwyniad yn unigryw i Gymru, a geir yn Llyn Tegid yn unig. Mae Cymru'n adnabyddus am ei physgod cregyn, gan gynnwys cocos, llygaid meheryn, cregyn gleision a gwichiaid. Penwaig, macrell a cegddu yw'r rhai mwyaf cyffredin o bysgod morol y wlad. Mae tiroedd uchel Eryri sy’n wynebu’r gogledd yn cynnal fflora cyn-rewlifol creiriol gan gynnwys lili eiconig yr Wyddfa.[14] Mae gan Gymru nifer o rywogaethau planhigion nad ydynt i’w cael yn unman arall yn y DU, gan gynnwys y cor-rosyn mannog Tuberaria guttata ar Ynys Môn a Draba aizoides ym Mhenrhyn Gŵyr.[15]

Economi

Searchtool.svg Prif erthygl: Economi Cymru

Mae rhannau o Gymru yn ddiwydiannol ers y 18g. Mae glo, copr, llechi, ac aur wedi cael eu cloddio yng Nghymru. Roedd y gweithiau haearn ac alcam a'r pyllau glo wedi denu miloedd o fewnfudwyr i'r wlad yn ystod y 19eg canrif, yn enwedig i gymoedd de Cymru. Bu'r mewnfudwyr hyn, y rhan fwyaf ohonynt o Loegr neu Iwerddon, yn allweddol yn y newid iaith a sbardunwyd yn y De-ddwyrain yr adeg hon, o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Trafnidiaeth

Map y ffordd A470

Mae gan wibffordd yr A55 rôl debyg ar hyd arfordir Gogledd Cymru, gan gysylltu Caergybi a Bangor â Wrecsam a Sir y Fflint. Mae hefyd yn cysylltu â gogledd-orllewin Lloegr, Caer yn bennaf.[16] Y prif gyswllt rhwng gogledd a de Cymru yw'r A470, sy'n rhedeg o Gaerdydd i Landudno.[17]

Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r rhannau hynny o rwydwaith rheilffyrdd Prydain yng Nghymru, drwy gwmni gweithredu trenau Trafnidiaeth Cymru. [18] Mae gan ranbarth Caerdydd ei rwydwaith rheilffyrdd trefol ei hun. Mae toriadau Beeching yn y 1960au yn golygu bod y rhan fwyaf o'r rhwydwaith sy'n weddill wedi'i anelu at deithio o'r dwyrain i'r gorllewin gan gysylltu â phorthladdoedd Môr Iwerddon ar gyfer llongau fferi i Iwerddon.[19] Mae gwasanaethau rhwng gogledd a de Cymru yn gweithredu drwy ddinasoedd Lloegr Caer a Henffordd a threfi Amwythig, Croesoswallt a Threfyclo ar hyd Lein y Gororau. Mae trenau yng Nghymru yn cael eu pweru gan ddisel yn bennaf ond mae cangen Prif Linell De Cymru o Brif Linell Great Western a ddefnyddir gan wasanaethau o Paddington Llundain i Gaerdydd yn cael ei thrydaneiddio, er bod y rhaglen wedi profi oedi sylweddol a gorwario costau.[20][21][22]

Maes Awyr Caerdydd yw maes awyr rhyngwladol Cymru. Yn darparu cysylltiadau â chyrchfannau Ewropeaidd, Affrica a Gogledd America, mae tua 12 milltir (19 km) i'r de-orllewin o ganol dinas Caerdydd, ym Mro Morgannwg. Roedd hediadau o fewn Cymru yn arfer rhedeg rhwng Ynys Môn (y Fali) a Chaerdydd, ac fe’u gweithredwyd ers 2017 gan Eastern Airways.[23] Nid yw’r hediadau hynny ar gael mwyach, o 2022 ymlaen. Mae hediadau mewnol eraill yn gweithredu i ogledd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan Gymru bedwar porthladd fferi masnachol. [24]

Mae gwasanaethau fferi rheolaidd i Iwerddon yn gweithredu o Gaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun. Cafodd y gwasanaeth o Abertawe i Gorc ei ganslo yn 2006, ei adfer ym mis Mawrth 2010, a’i dynnu’n ôl eto yn 2012.[25][26]

Demograffeg

Searchtool.svg Prif erthygl: Demograffeg Cymru

Yn ôl Cyfrifiad 2021 yr oedd 3,107,500 o bobl yn byw yng Nghymru, sy'n rhoi dwysedd o 149.6/km².[27]

Graff yn dangos poblogaeth Cymru (cyn 1600 i presennol)

Diwylliant

Searchtool.svg Prif erthygl: Diwylliant Cymru

Dylanwadwyd ar ddiwylliant Cymru gan lu o bethau: cenedl, iaith, crefydd, a daearyddiaeth. Diwylliant arbennig y Cymry Cymraeg yw diwylliant Cymraeg. Mae'n rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru ond hefyd yn rhan o hanes Y Wladfa ym Mhatagonia, a chymunedau eraill yn y byd sy'n Gymraeg eu hiaith. Nodir diwylliant traddodiadol Cymru gan etifeddiaeth y Celtiaid wedi ei chyfuno â Christnogaeth, hen chwedlau a straeon sydd wedi ymgynefino â'r llên gwerin a'r traddodiad llenyddol, a bywyd y werin yn y cefn gwlad.

Cerdd a llên

Searchtool.svg Prif erthyglau: Cerddoriaeth Cymru, Llenyddiaeth Gymraeg, a Llenyddiaeth Saesneg Cymru

Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel "Gwlad y Gân", yn ystrydebol braidd.

Ac eithrio llenyddiaeth glasurol, llenyddiaeth Gymraeg yw'r hynaf yn Ewrop. Mae gan y Gymraeg draddodiad cyfoethog o lenyddiaeth sy'n dyddio o'r 6g hyd heddiw. Oherwydd eu bod yn ysgrifennu mewn iaith â mwy o bobl yn ei deall, mae ysgrifenwyr llenyddiaeth Saesneg Cymru yn aml wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd llawer mwy na'u cyd-wladwyr sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn unig. Dwy enghraifft adnabyddus o hyn yw'r beirdd byd-enwog Dylan Thomas ac R. S. Thomas.

Chwaraeon

Monolith o fathodyn pêl-dored Cymru a Gareth Bale yng Ngastell Caerdydd.
Searchtool.svg Prif erthygl: Chwaraeon yng Nghymru

Dywedir yn aml taw rygbi'r undeb yw mabolgamp genedlaethol Cymru, er mae pêl-droed yn denu mwy o wylwyr i'r maes. Bu'r Cymry hefyd yn dangos eu medr yn snwcerdartiaugolffpaffio, ac athletau. Ymhlith yr hen chwaraeon bu cnapanbando, pêl-droed traddodiadol, a chwarae pêl.

Coginiaeth

Searchtool.svg Prif erthygl: Coginiaeth Cymru

Mae bwydydd Cymreig yn cynnwys cawlteisen gribara lawrbara brithselsig Morgannwg, a Welsh rarebit.

Symbolau cenedlaethol

Baner y Ddraig Goch

Mae'n debyg taw'r Ddraig Goch, sy'n ymddangos ar y faner genedlaethol, yw symbol amlycaf Cymru. Ceir hefyd y genhinen Bedr a'r genhinen. "Hen Wlad fy Nhadau" yw'r anthem genedlaethol.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Hanes Cymru gan John Davies (1994) tud. 54
  2. Cyfrifiad 2021: Poblogaeth Cymru yr uchaf erioed , BBC Cymru Fyw, 28 Mehefin 2022. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2022.
  3.  Cymro. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
  4. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CADWALLON AP CADFAN", tud. 112.
  5. 5.0 5.1 Bedwyr Lewis Jones. Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad) (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 4.
  6. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CYMRU (yr enw)", tud. 239.
  7. Jones, Barri; Mattingly, David (1990). "The Economy". An Atlas of Roman Britain. Caergrawnt: Blackwell Publishers (cyhoeddwyd 2007). tt. 179–196. ISBN 9781842170670.
  8. Green, Mick (2007). "Wales Ring Ouzel Survey 2006" (PDF). Ecology Matters Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 11 March 2012. Cyrchwyd 6 September 2010.
  9. "Black ravens return to the roost". BBC. 24 January 2006. Cyrchwyd 6 September 2010.
  10. "Red kite voted Wales' Favourite Bird". Royal Society for the Protection of Birds. 11 October 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 August 2010. Cyrchwyd 6 September 2010.
  11. Davies (2008) p. 533
  12. Vidal, John (13 November 2006). "Goats have roamed Snowdonia for 10,000 years; now they face secret cull". guardian.co.uk. London. Cyrchwyd 14 August 2011.
  13. Grug, Mari (30 March 2021). "Licensed beavers released in Wales for the first time". BBC News. Cyrchwyd 31 March 2021.
  14. Davies (1994) pp. 286–288
  15. Perring, E.H.; Walters, S.M., gol. (1990). Atlas of the British Flora. Melksham, Great Britain: BSBI. t. 43. ISBN 978-0-901158-19-2.
  16. "One of the most important roads in Wales". Roads.org.uk. Cyrchwyd 21 July 2020.
  17. Owen, Cathy (6 June 2014). "The A470 is Britain's favourite road". Wales Online.
  18. "Transport for Wales – Design of Wales and Borders Rail Service Including Metro" (PDF). Welsh Government. 28 February 2017. Cyrchwyd 16 July 2020.
  19. "Ferry connections". Transport for Wales. Cyrchwyd 21 July 2020.
  20. Barry, Sion (19 March 2020). "Final bill for electrifying the Great Western Mainline from South Wales to London £2bn over original budget". Business Live. Cyrchwyd 21 July 2020.
  21. "Business leaders back electric railway demand". WalesOnline.co.uk. 25 January 2011. Cyrchwyd 7 June 2012.
  22. "Britain's Transport Infrastructure, Rail Electrification" (PDF). Department for Transport. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 April 2010. Cyrchwyd 7 June 2012.[angen y dudalen]
  23. Harding, Nick (11 March 2017). "Eastern Airways take over Cardiff to Anglesey route". UK Aviation News. Cyrchwyd 16 July 2020.
  24. "Cardiff Airport-Destinations". Cardiff Airport – maes awyr caerdydd. Cyrchwyd 21 July 2020.
  25. "Revived Swansea-Cork ferry service sets sail". BBC News website. BBC. 10 March 2010. Cyrchwyd 19 June 2010.
  26. "Swansea-Cork ferry: Fastnet Line to close service with loss of 78 jobs". BBC News website. BBC. 2 February 2012. Cyrchwyd 15 April 2012.
  27. "Cyfrifiad 2021: Poblogaeth Cymru yr uchaf erioed". BBC Cymru Fyw. 2022-06-28. Cyrchwyd 2022-07-22.

Dolenni allanol

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Cymru
yn Wiciadur.