Cymraeg

Oddi ar Wicipedia
Cymraeg ("Cymorth – Sain" gwrando )
Siaredir yn Baner Cymru Cymru
Baner Yr Ariannin Yr Ariannin
Rhanbarth Siaredir ar draws Cymru gyfan a rhanbarth Chubut ym Mhatagonia yn yr Ariannin.
Cyfanswm siaradwyr 721,700 o siaradwyr (2011):
Cymru: 562,000 o siaradwyr, tua 19.7% o boblogaeth Cymru (pob sgil),[1] gyda 14.6% (431,000) yn ystyried eu hunain yn rhugl
Lloegr: 150,000 [2]
Talaith Chubut, yr Ariannin: 12,500-25,000 [3]
UDA: 2,500 [4]
Canada: 2,200 [5]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Yr wyddor Ladin (Amrywiolyn Cymru)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Baner Cymru Cymru
Rheoleiddir gan Llywodraeth Cymru
Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg (ers 1 Ebrill 2019)[6]
Codau ieithoedd
ISO 639-1 cy
ISO 639-2 wel (B)  cym (T)
ISO 639-3 cym
Wylfa Ieithoedd 50-ABA

Canran o siaradwyr y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2011

Cymraeg is located in Chubut
Trelew
Rawson
Gaiman
Porth Madryn
Trevelin
Dolavon
Esquel

Aneddiadau Cymraeg yn Chubut
Map o Gymru yn 1891, gan ddangos dosbarthiad y Gymraeg yn ôl ardal mewn pum categori (o dan 10% i dros 80%)
Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Aelod o'r gangen Frythonaidd o'r ieithoedd Celtaidd a siaredir yn frodorol yng Nghymru, gan Gymry a phobl eraill ar wasgar yn Lloegr, a chan gymuned fechan yn Y Wladfa, yr Ariannin[7] yw'r Gymraeg (hefyd Cymraeg heb y fannod).

Yng Nghyfrifiad y DU (2011), darganfuwyd bod 19% (562,000) o breswylwyr Cymru (tair blwydd a throsodd) yn gallu siarad Cymraeg. O'r ffigwr hwn, darganfuwyd bod 77% (431,000) yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifennu'r iaith; dywedodd 73% o breswylwyr Cymru (2.2 miliwn) fod dim sgiliau yn y Gymraeg ganddynt.[8] Gellir cymharu hwn â Chyfrifiad 2001, a ddarganfu fod 20.8% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, gyda 57% (315,000) o'r ffigwr hon yn dweud eu bod yn rhugl yn yr iaith.[9]

Mae'r Gymraeg yn un o'r 55 o ieithoedd i gael eu cynnwys fel cyfarchiad ar Record Aur y Voyager er mwyn cynrychioli'r Ddaear yn rhaglen Voyager NASA a lansiwyd ym 1977.[10] Mae pob cyfarchiad yn unigryw i'r iaith, a dywed y Gymraeg "Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd".[11]

Mae Mesur y Gymraeg 2011 (Cymru) yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru,[12] lle mai'r Gymraeg yw'r unig iaith Geltaidd sydd yn swyddogol de jure mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.


Hanes[golygu | golygu cod]

Tarddodd y Gymraeg o'r Frythoneg yn y 6g, hynafiad cyffredin y Gymraeg, Llydaweg, Cernyweg, a'r iaith farw, Cymbreg.

Fel y mwyafrif o ieithoedd, mae cyfnodau canfyddadwy o fewn hanes y Gymraeg, ond mae'r ffiniau rhwng y rheiny yn aneglur fel arfer.

Tarddodd yr enw Saesneg ar yr iaith, sef Welsh, o'r enw a roddwyd i'w siaradwyr gan yr Eingl-Sacsoniaid, sy'n golygu "iaith estron" (gweler Walha). Yr enw brodorol ar yr iaith yw Cymraeg, a'r enw brodorol ar y wlad yw Cymru wrth gwrs.

Niferoedd[golygu | golygu cod]

Graff o ganran y boblogaeth a oedd yn gallu siarad Cymraeg, 1911–2001.

Gellir disgrifio’r tueddiadau o 1891 hyd at 1971 yn weddol syml: gydag ychydig o eithriadau, gostyngodd y ganran oedd yn siarad Cymraeg ymhob grŵp oedran o’r naill gyfrifiad i’r llall. Cynyddodd y nifer absoliwt o siaradwyr o 1891 i gyrraedd bron i filiwn (977,366) yn 1911.

Dosraniad o siaradwyr Cymraeg[golygu | golygu cod]

Marciau ffyrdd dwyieithog ar bwys Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, Bro Morgannwg.

Ceir dadansoddiad cynhwysfawr o sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru yn adroddiad 5-mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, "[13], sy'n gwneud defnydd o arolwg [14] ynghyd â ffynonellau eraill. Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 19.0% yn gallu siarad Cymraeg, gostyngiad o 1.8% ers Cyfrifiad 2001, ond yn uwch na'r 18.7% ym 1991. Dangosodd cyfrifiad 2011 y ganwyd tua 25% o breswylwyr Cymru y tu allan i Gymru. Nid oes ystadegau ar faint o bobl sy'n siarad Cymraeg yng ngweddill Prydain ond adroddodd Cyfrifiad 2011 fod 8,248 o bobl (3 oed a throsodd) yn Lloegr yn ystyried y Gymraeg yn brif iaith iddynt.[15] Ym 1993, cyhoeddodd S4C ganlyniadau arolwg ar faint o bobl a allai siarad neu ddeall Cymraeg. Darganfu'r arolwg yma fod tua 133,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn Lloegr, gyda thua 50,000 ohonynt yn byw yn Llundain Fawr.[16] Amcangyfrifodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod 110,000 o bobl yn 2001 a oedd yn gallu siarad Cymraeg ar ddyddiad cynharach yn byw yn Lloegr.[17]

Yn sgil mudo a thwf yn nylanwad y Saesneg ar fröydd Cymraeg, cafwyd lleihad yn y niferoedd sy'n siaradwyr uniaith Cymraeg[18]. Bellach nid oes siaradwyr uniaith y Gymraeg i gael. Ar y cyfan, mae siaradwyr Cymraeg hefyd yn siarad y Saesneg (yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, Sbaeneg yw iaith y mwyafrif - gweler Y Wladfa). Serch hynny, mae llawer o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn fwy cyffyrddus yn mynegi eu hunain drwy gyfrwng y Gymraeg na'r Saesneg. Gall yr iaith y mae siaradwyr yn ei dewis amrywio yn ôl yr angen, pwnc, cyd-destun cymdeithasol, ac o fewn mynegiant (a elwir yn ieithyddiaeth yn cyfnewid côd).

Caiff y Gymraeg ei siarad yn iaith gyntaf yng Ngogledd a Gorllewin Cymru yn bennaf, yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ynys Môn, Sir Gâr, gogledd Sir Benfro, Ceredigion, ardaloedd ym Morgannwg, a gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain eithafol Powys, ond canfyddir siaradwyr iaith gyntaf a siaradwyr rhugl ar draws Cymru gyfan.

Ymgyrchu dros y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Trefnodd Cymdeithas y Cymmrodorion sesiynau yng Nghapel Penlan yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1925 i drafod "Cadwraeth yr Iaith". Roedd y Parchedig Ddr. G Hartwell Jones, Elfed a Phedrog yn pwysleisio creu ewyllys da tuag at y Gymraeg tra roedd Thomas Gwynn Jones a J.H. Jones, golygydd Y Brython, yn mynnu nad oedd gobaith ei chynnal heb wleidyddiaeth ymosodol o'i phlaid.

Roedd Syr John Morris-Jones yn cyfiawnhau darlithio i'w fyfyrwyr yn Saesneg am ei fod am weld y Cymry yn genedl ddwyieithog ac nad oedd ar y Gymraeg angen termau ar gyfer trafod y byd cyfoes. Mynnai Prosser Rhys, Edward Morgan Humphreys a'r Parch D. Tecwyn Evans y dylid hyrwyddo'r Gymraeg mewn storïau poblogaidd i'r ifanc, mewn drama a ffilm a rhaglenni radio.[19] [20]

Statws swyddogol[golygu | golygu cod]

Er mai iaith leiafrifol ydyw'r Gymraeg, cynyddodd y gefnogaeth iddi yn ystod ail hanner y 20g, ynghyd â chynnydd mewn sefydliadau megis y blaid wleidyddol genedlaethol, Plaid Cymru ers 1925, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ers 1962.

Yn ôl Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Deddf Llywodraeth Cymru 1998, roedd yn rhaid i'r sector gyhoeddus drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, cyn belled ag oedd hynny'n rhesymol ac ymarferol. Roedd yn rhaid i gyrff cyhoeddus ysgrifennu Cynllun yr Iaith Gymraeg, oedd yn rhaid ei gymeradwyo ymlaen llaw, oedd yn nodi ymrwymiad i drin y Gymraeg yn gyfartal. Anfonwyd y drafft hwn am ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o dri mis, lle gellid cynnwys sylwadau awgrymedig yn y fersiwn derfynol. Wedyn, roedd angen ar Fwrdd yr Iaith ei gymeradwyo cyn iddo gael ei dderbyn yn derfynol gan y cwmni dan sylw. Ar ôl hynny, roedd yn rhaid i'r corff cyhoeddus weithredu ei rwymedigaethau yn unol â'i Gynllun.

Ar 7 Rhagfyr 2010, cymeradwyodd y Cynulliad yn unfrydol set o fesurau i'w defnyddio er mwyn datblygu defnydd y Gymraeg yng Nghymru.[21] Ar 9 Chwefror 2011, derbyniodd y mesur hwn Gydsyniad Brenhinol a chafodd ei gymeradwyo, a chan hynny yn gwneud y Gymraeg yn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yng Nghymru.[22] Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn:

  • cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg;
  • creu system newydd i roi dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
  • creu comisiynydd yr Iaith Gymraeg newydd a chanddo bwerau cryf i orfodi cydymffurfiaeth, er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
  • sefydlu Tribiwnlys Iaith Gymraeg newydd;
  • rhoi’r hawl i unigolion a chyrff i apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
  • creu cyngor Partneriaeth Iaith Gymraeg newydd i gynghori’r Llywodraeth ar effeithiau ei pholisïau ar y Gymraeg;
  • caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio’n swyddogol i achosion lle gwelir ymgais i amharu ar ryddid unigolion i siarad Cymraeg gyda’i gilydd.[23]

O ganlyniad i gymeradwyo'r mesur hwn, y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond ni wyddys eto'r pa gwmnïau a fydd yn gorfod cydymffurfio. Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, "Mae’r Gymraeg yn destun balchder i bobl Cymru, p’un a ydynt yn ei siarad neu beidio ac rwy’ wrth fy modd felly bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r Mesur. Rwy’n falch fy mod wedi cael llywio’r ddeddfwriaeth trwy’r Cynulliad sy’n cadarnhau statws swyddogol yr iaith; sy’n creu eiriolydd cryf dros siaradwyr y Gymraeg ac a fydd yn cynyddu’n sylweddol nifer y gwasanaethau fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n credu dylai pawb sydd eisiau derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gael y cyfle i wneud hynny, a dyna beth mae’r llywodraeth yma wedi bod yn gweithio tuag ato. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam pwysig a hanesyddol ymlaen i’r iaith, eu siaradwyr ac i’r genedl."[23] Ni dderbyniwyd y mesur gan bawb; ysgogodd Bethan Williams, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ymateb cymysg, gan ddweud, "Through this measure we have won official status

for the language and that has been warmly welcomed. But there was a core principle missing in the law passed by the Assembly before Christmas. It doesn't give language rights to the people of Wales in every aspect of their lives. Despite that, an amendment to that effect was supported by 18 Assembly Members from three different parties, and that was a significant step forward."[24]

Ar 5 Hydref 2011, penodwyd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn Gomisiynydd newydd dros y Gymraeg.[25] Mewn datganiad a ryddhawyd ganddi, dywedodd ei bod "wrth ei bodd" i gael ei phenodi i'r "rôl bwysig bwysig," hon, gan ychwanegu, "Bydda i'n adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn cryfhau'r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu." Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, y byddai Meri yn "eiriolwr ardderchog dros y Gymraeg," ond roedd pryderon gan ambell i berson; dywedodd Bethan Jenkins o Blaid Cymru, "I have concerns about the transition from Meri Huws's role from the Welsh Language Board to the language commissioner, and I will be asking the Welsh government how this will be successfully managed. We must be sure that there is no conflict of interest, and that the Welsh Language Commissioner can demonstrate how she will offer the required fresh approach to this new role."[26] Cychwynnodd Meri ei gwaith fel Comisiynydd Iaith ar 1 Ebrill 2012.

Defnyddia cynghorau lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru y Gymraeg yn iaith lled-swyddogol, gan ddosbarthu deunydd llenyddol a hyrwyddol yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg (e.e., llythyron at rieni o'r ysgol, gwybodaeth llyfrgelloedd, gwybodaeth cynghorau ac ati) ac mae'r mwyafrif o arwyddion ffyrdd yng Nghymru yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys enwau lleoedd. Serch hynny, defnyddir yr enw Saesneg yn unig am leoedd mewn rhai mannau yn Lloegr er bod enwau Cymraeg arnynt ers llawer dydd (e.e. London: Llundain; The [English] Midlands: Canolbarth Lloegr).

Ers 2000, mae hi'n orfodol i addysgu'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion hyd at 16 oed, ac mae hyn wedi cyfrannu at sefydlogi ac i ryw raddau at wrthdroi dirywiad yr iaith mewn rhai mannau.

Er bod arwyddion ffyrdd dwyieithog yng Nghymru, mae'r geiriad ar arian o hyd yn uniaith Saesneg. Yr unig eithriad i hyn fu'r arysgrif ar bunnoedd Cymru yn 1985, 1990, a 1995, a ddywedai, Pleidiol wyf i'm gwlad o anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad fy Nhadau. Nid yw'r Gymraeg ar y ceiniogau Prydeinig newydd (2008 ymlaen), er iddynt gael eu dylunio gan Ogleddwr a'u bathu yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, yn ne Cymru. Er bod llawer o siopau yn arddangos arwyddion dwyieithog, prin ydy'r defnydd o'r Gymraeg ar ddeunydd pacio a chyfarwyddiadau.

Geirfa[golygu | golygu cod]

Mae geirfa'r Gymraeg yn tarddu o eiriau'r Frythoneg yn bennaf (megis wy a carreg), gydag ambell i air benthyg o'r Lladin (megis ffenestr < Lladin fenestra a gwin < Lladin vinum), a'r Saesneg (megis silff a gât). Mae'r Gymraeg, fel ieithoedd eraill y byd, yn benthyca geirfa oddi ar ieithoedd eraill. Benthyciwyd i'r Gymraeg o'r Lladin, yr Wyddeleg, y Ffrangeg, a'r Saesneg yn bennaf. Ceir rhai geiriau Cymraeg sy'n tarddu o'r Hen Norseg, y Roeg, a'r Hebraeg. Ar hyn o bryd, o'r Saesneg y benthycir gan fwyaf, ac o ieithoedd eraill y byd drwy'r Saesneg.

Orgraff[golygu | golygu cod]

Ysgrifennir y Gymraeg gyda gwyddor Ladin, sydd defnyddio 28 llythyren yn draddodiadol, lle bo wyth ohonynt yn ddeugraffau (dwy lythyren a drinnir yn un) ar gyfer coladiad:

a, b, c, ch, d, dd, e, f, ff, g, ng, h, i, l, ll, m, n, o, p, ph, r, rh, s, t, th, u, w, y

Yn wahanol i'r Saesneg, ystyrir "w" ac "y" yn llafariaid yn y Gymraeg, ynghyd ag "a", "e", "i", "o" ac "u".

Defnyddir y llythyren "j" mewn geiriau benthyg o'r Saesneg, megis jam, jôc, a garej. Prin iawn yw'r defnydd o "k", "q", "v", "x", a "z", ond fe'u defnyddir o fewn rhai cyd-destunau technegol, megis kilogram, volt a zero, ond defnyddir amnewidiadau Cymraeg fel arfer: cilogram, folt a sero.[27] Roedd y llythyren "k" yn gyffredin hyd y 16g, ond fe'i collwyd adeg cyhoeddi'r Testament Newydd yn y Gymraeg, fel yr eglurodd William Salesbury: "C for K, because the printers have not so many as the Welsh requireth". Nid oedd y newid yma yn boblogaidd ar y pryd.[28]

Yr acen grom yw'r marc diacritig mwyaf cyffredin, sy'n gwahaniaethu llafariaid hir a byr, fel arfer gyda homograffau yn bennaf, lle bo'r llafariad yn fyr mewn un gair ac yn hir yn y llall: e.e., man a mân.

Gramadeg y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Ffonoleg[golygu | golygu cod]

Nodweddir ffonoleg y Gymraeg gan nifer o synau nad ydynt yn bodoli yn y Saesneg ac sy'n deipolegol brin mewn ieithoedd Ewropeaidd. Mae'r acen bwys fel arfer yn disgyn ar y goben (y sillaf olaf ond un) mewn geiriau aml-sillafog.

Morffoleg[golygu | golygu cod]

Cystrawen[golygu | golygu cod]

Cymraeg ysgrifenedig[golygu | golygu cod]

Arwyddion dwyieithog yng Nghaerfyrddin

Aethpwyd ati i ysgrifennu Cymraeg yn gynnar o’i chymharu ag ieithoedd eraill canolbarth a gogledd Ewrop (heblaw am Ladin a Groeg), efallai cyn gynhared ag OC 600, er nad oes ysgrifau wedi goroesi o’r adeg honno. Ar garreg yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn y ceir y geiriau Cymraeg cynharaf i oroesi, carreg a naddwyd tua’r flwyddyn OC 700.

Perthynas Cymraeg ysgrifenedig a Chymraeg llafar[golygu | golygu cod]

Gan fod datblygiad Cymraeg Fodern ysgrifenedig yn lled araf mae gagendor eang wedi agor rhyngddi a Chymraeg llafar. Yn wir, mae rhai o'r gwahaniaethau rhwng yr ysgrifenedig a'r llafar yn hen iawn. Ysgrifennir ffurf trydydd person lluosog y ferf yn –ant ond fe'i hyngenir yn –an. Dengys barddoniaeth y 12g, lle odlid geiriau'n diweddu ag –ant gyda rhai yn diweddu ag –an, fod y gwahaniaeth hwn eisoes yn bodoli bryd hynny. Dim ond yn ddiweddar y cydnabuwyd llawer o newidiadau yr iaith lafar yn y Gymraeg ysgrifenedig newydd a elwir yn Gymraeg Cyfoes.

Tafodieithoedd ac iaith lafar[golygu | golygu cod]

Cymraeg llafar yw'r iaith fel y'i siaredir yn hytrach na'i hysgrifennu. Mae hi'n wahanol i'r iaith ysgrifenedig o ran geirfa, gramadeg a morffoleg. Ceir ynddi sawl cywair ieithyddol tra gwahanol, a sawl tafodiaith.

Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Credir bod tua 90% o boblogaeth Cymru yn Gymry Cymraeg ddechrau'r 19g a rhyw 70% yn Gymry uniaith. Erbyn 2001, mae rhyw 20.5% o bobl yn siarad Cymraeg (un mewn pump),[29] sef rhyw 580,000 o bobl yn ôl y cyfrifiad.

Allwedd: • Cymraeg      • Dwyieithog      • Saesneg     

Y Wladfa[golygu | golygu cod]

Arwydd dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg yn Nhrelew, yr Ariannin.

Mae cymuned fechan o ddisgynyddion i Gymry Cymraeg wedi goroesi yn y Wladfa, ym Mhatagonia, yr Ariannin. Siaredir Cymraeg ym Mhatagonia er 1865 pan aeth grŵp o ymsefydlwyr o Gymru yno i fyw, i chwilio am fywyd gwell ac i gael byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn rhydd o orthrwm.

Diwylliant Cymraeg[golygu | golygu cod]

Adeg twf Anghydffurfiaeth yn ystod y 19g, daeth y capeli yng Nghymru yn ganolbwynt bywyd Cymraeg. Ymysg y llu o weithgareddau cymdeithasol a drefnwyd gan y capeli ceid eisteddfodau, corau a theithiau gwib. Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif yn yr ardaloedd diwydiannol roedd gan y boblogaeth arian yn eu pocedi a'r gallu i dalu am adloniant y tu allan i furiau'r capel. Roedd difyrrwch ar gael yn y theatr, yn y trefi gwyliau, ac yn ddiweddarach mewn ffilm, ar y radio ac ar y teledu. Tanseiliwyd lle'r capeli Cymraeg, a fu'n ganolbwynt cymdeithas, gan yr adloniant newydd hudolus. Erbyn dechrau'r 20g, cyrhaeddai'r diwylliant Eingl-Americanaidd y byd a'r betws drwy ffilm, radio a theledu gan gystadlu ag adloniant a diwylliant traddodiadol y cartref a'r gymuned leol.

Sefydlwyd rhai mudiadau cenedlaethol Cymraeg eu cyfrwng yn ystod yr 20g, sydd i raddau yn llenwi'r bwlch a adawyd wrth i weithgaredd cymdeithasol y capeli ddihoeni. Mudiad yr Urdd a ffurfiwyd ym 1922 yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae Merched y Wawr a'r Ffermwyr Ifainc hefyd yn fudiadau o bwys yn cynnal gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir nifer o fudiadau cenedlaethol eraill Cymraeg eu hiaith megis Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, Cymdeithas Edward Llwyd, a'r Gymdeithas Wyddonol. Sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1751 gan Forrisiaid Môn yn gymdeithas lenyddol i amddiffyn y Gymraeg.

Eisteddfodau[golygu | golygu cod]

Mae gan eisteddfodau le canolog yn niwylliant Cymru a'r Gymraeg. Wedi nychdod yr hen gyfundrefn eisteddfodol yn y canrifoedd wedi'r Deddfau Uno adnewyddwyd yr eisteddfod gyda chyfarfodydd taleithiol yn ystod y 19eg ganrif. Sefydlwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1860au ond defnyddiwyd mwy a mwy o Saesneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda threigl y blynyddoedd. Erbyn 1931 Saesneg oedd prif iaith y llwyfan, y beirniadaethau a seremonïau gorsedd y Beirdd, sefyllfa annerbyniol i lawer. Gwnaethpwyd y Gymraeg yn iaith swyddogol yr Eisteddfod ym 1937 ond parhau wnaeth y defnydd o'r Saesneg ar lwyfan yr eisteddfod tan 1952 pan gyflwynwyd y Rheol Gymraeg. O hyn ymlaen, y Gymraeg yn unig a glywid ar lwyfan yr Eisteddfod (heblaw am rai anerchiadau gan westeion gwadd). Mae'r Rheol Gymraeg hithau'n bwnc llosg sydd wedi peri i rai awdurdodau lleol atal eu cyfraniad ariannol tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol. Beirniedir yr Eisteddfod Genedlaethol gan rai am safon anwastad y llenyddiaeth a wobrwyir. Ar y llaw arall, clodforir yr Eisteddfod am ei bod yn ŵyl ddiwylliannol i'r werin, am roi llwyfan cenedlaethol i artistiaid Cymru, am feithrin barddoni, ac am hybu dysgu Cymraeg.

Trefnir eisteddfodau gan gymdeithasau megis yr Urdd, Mudiad y Ffermwyr Ifainc, ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Cynhelir rhai eisteddfodau taleithiol o hyd, megis eisteddfod Pontrhydfendigaid ac ambell eisteddfod drefol neu bentrefol, ond nid oes cymaint o fri ar y rhain ag a fu ac nid yw'r capeli'n trefnu eisteddfodau fel ag y buont ychwaith.

Llenyddiaeth Gymraeg[golygu | golygu cod]

Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Llyfrau argraffedig Cymraeg[golygu | golygu cod]

Dyfyniadau Ynglŷn â'r Iaith Gymraeg

Argraffwyd llyfrau Cymraeg yn gynnar o gymharu â llawer o ieithoedd eraill Ewrop nad oeddent yn ieithoedd gwladwriaeth. Nifer fechan o lyfrau a gyhoeddwyd, cyfanswm o 116 rhwng 1546 a 1670. Crefydd oedd pwnc mwyafrif y llyfrau hyn. Yna cynyddodd nifer y llyfrau a gyhoeddwyd i gyfartaledd o 4 y flwyddyn rhwng 1670 a 1700 a 14 y flwyddyn rhwng 1700 a 1730, yn rhannol drwy nawdd y Welsh Trust a'r SPCK. Erbyn y 18g, roedd pris llyfr wedi disgyn yn sylweddol, ac o fewn cyrraedd y werin. Ymhlith y llyfrau a gyhoeddwyd yr oedd rhai o glasuron y Dadeni Dysg a llenyddiaeth grefyddol Cymru: Cannwyll y Cymry gan y Ficer Prichard (1681) a Gweledigaetheu y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne (1703). Esgorodd cynnydd aruthrol llythrennedd yn ystod y 18g yn esgor ar alw am lyfrau o bob math, yng Nghymru fel ag yn Lloegr. Sefydlwyd nifer o argraffdai yng Nghymru i gyflenwi'r farchnad newydd â llyfrau. Cyhoeddwyd dros 2,500 o lyfrau Cymraeg yn ystod y 18g.

Heddiw, cyhoeddir 500-600 llyfr Cymraeg yn flynyddol, llawer ohonynt yn lyfrau i blant. Ymysg y cyhoeddwyr pennaf mae Gwasg Gomer, Gwasg Prifysgol Cymru a'r Lolfa (rhestr gyflawn o gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg). Ariennir y gwaith o gyhoeddi llawer o lyfrau Cymraeg a Chymreig gan y Llywodraeth drwy Gyngor Llyfrau Cymru a sefydlwyd fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg ym 1961. Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn dosbarthu llyfrau Cymreig yn Saesneg.

Ceir casgliad helaeth o lawysgrifau, cyfnodolion a llyfrau Cymraeg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o swyddogaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw rhoi ar gadw copi o bob llyfr gaiff ei gyhoeddi ym Mhrydain. Yn ogystal â deunydd ar bapur cesglir yno ddeunydd ar gyfryngau sain a llun.

Llenyddiaeth am y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Mae'r Gymraeg wedi bod yn elfen flaenllaw yn yr ymwybyddiaeth o'r hunaniaeth Gymreig. Mae'r ymwybyddiaeth hon yn treiddio i waith llenorion Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Efallai mai'r man lle mae'r Gymraeg yn fwyaf amlwg yw'r anthem genedlaethol 'Hen Wlad fy Nhadau': 'a bydded i'r heniaith barhau.' Mae'r Gymraeg, Cymreictod a cholli iaith yn themâu i nifer o weithiau llenyddol. Ymhlith y mwyaf amlwg o'r rhain yw nofel Islwyn Ffowc Elis Wythnos yng Nghymru Fydd, a cherddi Gerallt Lloyd Owen gan gynnwys 'Etifeddiaeth', cerdd Gwyneth Lewis Y Llofrudd Iaith, cerddi Jac Glan-y-gors 'Dic Siôn Dafydd', a cherddi Waldo Williams 'Yr Heniaith' a 'Cymru a Chymraeg'. Dylid hefyd grybwyll cerdd arall gan Waldo Williams, 'Cofio', sy'n alarnad i ieithoedd a phobloedd golledig y ddaear gyfan.

Yn ogystal â cherddi sy'n moli'r Gymraeg neu weithiau yn galaru amdani neu'n ymgyrchu trosti, ceir hefyd weithiau sy'n mynegi'r profiad o fod yn Gymro Cymraeg. Mae'r profiad hwn yn annatod glwm wrth ddylanwad cenedligrwydd, cenedlaetholdeb, galar, cymhleth israddoldeb, rhamant y gorffennol, gwawd y Sais, ymgecru ymysg y Cymry, perthyn i draddodiad hir a gwerthfawr, a pherthyn i fro.[30]

Ceir ymateb cymhleth i'r Gymraeg a'r ymwybyddiaeth o Gymreictod hefyd yng ngweithiau rhai llenorion Cymreig yn ysgrifennu yn Saesneg yn enwedig o'r 1930au ymlaen. Yn eu plith mae gweithiau Caradoc Evans, Cymro Cymraeg, megis My People, gweithiau R. S. Thomas a ddysgodd Gymraeg (megis 'Reservoirs' yn ei Collected Poems 1945-1990), a Gwyn Thomas, yn Gymro di-Gymraeg o'r union genhedlaeth na fagwyd yn Gymry Cymraeg. Rhoddwyd mynegiant am y tro cyntaf i ymdeimlad o Gymreictod di-Gymraeg gan rai o'r llenorion hyn. Ffenomenon yn perthyn i Gymru'r 20g yw'r diwylliant Cymreig di-Gymraeg a dyfodd yn sgil y mewnlifiad mawr i'r cymoedd diwydiannol yn ystod y ddau ddegawd cyntaf o'r ganrif. Diddorol sylwi bod T. Llew Jones, a hanai o'r un ardal â Caradoc Evans, wedi galw ei hunangofiant o fwriad yn Fy Mhobol i ; ynddo mae'n trafod ymateb Caradoc Evans i'r Gymraeg.

Er mai digon gelyniaethus oedd rhai o'r llenorion Cymraeg a Saesneg tuag at ei gilydd ar ddechrau'r 20g, ond erbyn diwedd y ganrif roeddynt yn tueddi i gymodi yn lle ymgecru. Llwyddwyd i gyhoeddi casgliad o farddoniaeth yn The Oxford Book of Welsh Verse in English ym 1977 a gynhwysai gerddi Saesneg a cherddi a gyfieithwyd o'r Gymraeg mewn un gyfrol. Ym 1986 cyhoeddwyd Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru ar y cyd â The Oxford Companion to the Literature of Wales. Erbyn hyn, ceir nifer o gyfrolau a gyhoeddir yn Saesneg a Chymraeg ar y cyd, megis llyfrau yn adrodd hanes bro neu'n dathlu digwyddiad hanesyddol.

Celfyddydau eraill[golygu | golygu cod]

Cymraeg a'r cyfryngau[golygu | golygu cod]

Yn gyffredinol mae datblygiadau technolegol yn y cyfryngau cyfathrebu wedi hyrwyddo'r Saesneg yng Nghymru, fel ag yn y byd yn gyffredinol. Galluogai'r dechnoleg newydd, yn bapur newydd ac yna'n radio, teledu a'r rhyngrwyd, i'r Saesneg dreiddio i aelwydydd Cymraeg, lle na chlywsid erioed Saesneg gynt. Dylanwadai'r radio a'r teledu, a gyrhaeddai aelwydydd Prydain gyfan, ar agweddau ac arferion gwrandawyr a gwylwyr.[31]

Ym mhob un o'r cyfryngau newydd fe geisiai rhai sicrhau bod y Gymraeg yn ennill ei phlwyf yn wyneb y gystadleuaeth Saesneg, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus.

Papurau newydd[golygu | golygu cod]

Yn ystod y 19g tyfodd diwydiant papur newydd ffyniannus yng Nghymru. Erbyn 20au a 30au'r 20g, fodd bynnag, roedd y farchnad papurau newydd drwy Brydain yn mynd yn fwy-fwy canolog dan bwysau'r farchnad a bu cwymp yn nifer y papurau newydd a gyhoeddid. Peidiodd Y Darian ym 1934, traflyncwyd Y Genedl Gymreig gan gwmni'r Herald ym 1932, a pheidiodd Y Faner ym 1992.

Heddiw, mae nifer o bapurau a chylchgronau Cymraeg wythnosol neu fisol ar gael megis Golwg, Y Cymro a Barn ond does dim un papur dyddiol. Cafwyd ymdrech i lansio papur wythnosol o'r enw 'Y Byd', ond yn 2007 rhoddwyd y gorau i'r syniad oherwydd diffyg nawdd cyhoeddus. Noddir nifer o gylchgronau arbenigol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Erbyn heddiw, mae'r galw am newyddion lleol trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ddiwallu gan y papurau bro. Mae'r papurau bro yn aelodau o'r Gymdeithas Papurau Bro, ac yn derbyn nawdd o'r llywodraeth i ariannu'r papurau hyn. Mae dau gylchgrawn ar gyfer dysgwyr ar gael - Lingo (Golwg) ac Acen ar gyfer dysgwyr ar y lefelau isaf.

Radio[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

logo S4C
Prif: S4C

Darlledwr sy'n darparu gwasanaethau teledu yn y Gymraeg yw Sianel Pedwar Cymru neu S4C. Dechreuodd ddarlledu ar y 1af Tachwedd 1982. Ei gyfrifoldeb yw darparu gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg. Cyn sefydlu S4C roedd Cymry Cymraeg yn ddibynnol ar raglenni achlysurol ar BBC Cymru a HTV Cymru, yn aml yn hwyr yn y nos neu ar adegau amhoblogaidd eraill. Roedd hyn yn annerbyniol i'r Cymry Cymraeg ac i'r di-Gymraeg hefyd am fod rhaglenni Saesneg o weddill Prydain yn cael eu disodli neu'n cael ei darlledu ar amseroedd gwahanol.

Datblygiadau Technoleg yn yr Iaith Gymraeg[golygu | golygu cod]

Cymraeg ar y rhyngrwyd[golygu | golygu cod]

Yn ôl ymchwil diweddar,[32] postiwyd y neges gyntaf ag unrhyw destun Cymraeg ynddi ar Usenet ar 15 Awst 1989[33] Ar 13 Tachwedd 1992, agorwyd y rhestr e-bost WELSH-L, sef y Welsh Language Bulletin Board.[34] Hwn oedd y man trafod cyntaf penodedig ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ers hynny, gwelwyd defnydd o'r Gymraeg mewn nifer fawr o feysydd ar y rhyngrwyd, ac yn arbennig felly ar y we.

Yn sgil goblygiadau Deddf Iaith 1993, mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog. Mae rhai busnesau a chymdeithasau, yn enwedig y rhai mawrion a'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg hefyd yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog, yn ôl eu polisi iaith unigol eu hunain.

O ran y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg, mae dros 300 o flogiau Cymraeg[35] erbyn 2015, a thros 4,500 o gyfrifon yn defnyddio Cymraeg ar Twitter.[36] Nid yw'n glir beth yn union yw'r defnydd o Facebook, ond adnabu ymchwil a gynhaliwyd yn 2008[37] bod 238 grŵp Facebook lle roedd defnydd o'r Gymraeg.

Mae llenyddiaeth Gymraeg wedi hawlio ei le ar y we hefyd. Yn 1996 rhoddwyd holl farddoniaeth y Prifardd Robin Llwyd ab Owain ar y we fyd eang dan yr enw Rebel ar y We[38]; dyma oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg ar y rhyngrwyd.[39][40] Bu Gwasg y Lolfa, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn flaenllaw iawn yn y dyddiau cynnar hyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau a throednodion[golygu | golygu cod]

  1. Swyddfa Ystadegau Gwladol http://ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html
  2.  United Nations High Commissioner for Refugees. Refworld | World Directory of Minorities and Indigenous Peoples - United Kingdom : Welsh. UNHCR.
  3.  Wales and Argentina. gwefan Wales.com. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2008).
  4.  Table 1. Detailed Languages Spoken at Home and Ability to Speak English for the Population 5 Years and Over for the United States: 2006-2008 Release Date: April, 2010 (xls). United States Census Bureau (27 Ebrill 2010).
  5.  2006 Census of Canada: Topic based tabulations: Various Languages Spoken (147), Age Groups (17A) and Sex (3) for the Population of Canada, Provinces, Territories, Census Metropolitan Areas and Census Agglomerations, 2006 Census - 20% Sample Data. Statistics Canada (7 Rhagfyr 2010).
  6. "Comisiynydd y Gymraeg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-17. Cyrchwyd 2020-10-16.
  7. Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf new: mae'r paramedr teitl yn angenrheidiol.
  8. Adroddiad 2012 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: http://ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html
  9.  2004 Welsh Language Use Survey: the report.
  10. (Saesneg) Greetings to the Universe in 55 Different Languages. NASA.
  11. (Saesneg) Welsh greetings. NASA.
  12. (Cymraeg) Llywodraeth Cymru - Mesur Iaith Gymraeg yn derbyn Cydsyniad Brenhinol.
  13. "Sefyllfa’r Iaith Gymraeg 2012–2015" Archifwyd 2016-10-11 yn y Peiriant Wayback.
  14. "Y Defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru, 2013-2015"Archifwyd 2018-05-02 yn y Peiriant Wayback.
  15. Cyfrifiad 2011 QS204EW
  16.  Nigel Callaghan (1993). ''More Welsh Speakers than Previously Believed'' (ar-lein). Cyrchwyd 21 Mawrth 2010.
  17. [1]
  18. Janet Davies, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerfaddon (1993). The Welsh Language, t. 34
  19. Yr Eisteddfod Genedlaethol a Phwllheli Hywel Teifi Edwards, Clwb y Bont, Pwllheli 1987
  20. Cadwraeth yr Iaith Trafodion y Commrodorion 1924-5
  21. 'Historic' assembly vote for new Welsh language law, BBC News Online, 7 Rhagfyr 2010
  22. Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) Archifwyd 2011-01-22 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd: 13 Chwefror 2011]
  23. 23.0 23.1 Llywodraeth Cynulliad Cymru | Mesur Iaith Gymraeg yn derbyn Cydsyniad Brenhinol Adalwyd: 13 Chwefror 2011]
  24. Royal Assent for official status of Welsh language - Wales News - News - WalesOnline Adalwyd: 13 Chwefror 2011]
  25. BBC Newyddion - Meri Huws yw'r Comisiynydd Iaith newydd (cyrchwyd 5 Hydref 2011)
  26. BBC News - Language board chief Meri Huws is Welsh commissioner (cyrchwyd 5 Hydref 2011)
  27. Thomas, Peter Wynn (1996) Gramadeg y Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru: 757.
  28. English and Welsh Archifwyd 2008-04-09 yn y Peiriant Wayback., traethawd gan J. R. R. Tolkien
  29. BBC NEWS| Wales - Census shows Welsh language rise (Saesneg)
  30. R. M. Jones, Ysbryd y Cwlwm: Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
  31. Eu Hiaith a Gadwant? Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif, goln R Geraint Jenkins a Mari A. Williams (Prifysgol Cymru, 2000)
  32. Jones, R.J., (2010). 'Cilfachau Electronig: geni'r Gymraeg ar-lein, 1989-1996' yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, Cyfrol 7
  33. need_Welsh_translation - soc.culture.celtic | Google Groups
  34. Jones, R.J., (2010, 28-31)
  35. Gwybodaeth ar flogiau Cymraeg ar Hedyn
  36. "Gwybodaeth ar tweets Cymraeg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-03. Cyrchwyd 2011-12-16.
  37. The Use of Welsh language on Facebook gan Courtenay Honeycutt a Daniel Cunliffe
  38. Gwefan Robin Llwyd ab Owain
  39. Llais Llyfrau, Hydref 1997: Erthygl gan Dafydd John Pritchard; Cyhoeddwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru.
  40. Trafodaeth ar Welsh-L yn Chwefror 1997.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

  • H Pedersen, Vergleichende Grammatik dêr keltischen Sprachen, 1909-1913, (yn Almaeneg)
  • Henry Lewis & Holger Pedersen, A Concise Comparitive Celtic Grammar (1937)
  • Canu Heledd – testun a nodiadau Canu Llywarch Hen, Gol. Ifor Williams (1935)
  • Ifor Williams, Y Gododdin: testun a thrafodaeth ragarweiniol Canu Aneirin, (1938)
  • Glyn Jones, The Dragon Has Two Tongues (1968) sy'n trafod gwaith a hanes yr awduron Eingl-*Gymreig yn hanner cyntaf yr 20g.
  • Llyfryddiaeth yr Iaith Gymraeg, JE Caerwyn Williams (gol), (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988)

Gwefannau[golygu | golygu cod]

Dysgu Cymraeg[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wicillyfrau
Wicillyfrau
Mae gan Wicilyfrau gwerslyfr neu lawlyfr ar y pwnc yma:
Chwiliwch am Cymraeg
yn Wiciadur.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011[golygu | golygu cod]

Ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.


v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Llydaweg ·Cernyweg ·Cymraeg |Gwyddeleg ·Manaweg ·Gaeleg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o wefan Comisiynydd y Gymraeg. Caniateir atgynhyrchu deunydd y Comisiynydd am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â’i fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Uwchlwythwyd y gwaith hwn i'r Wicipedia Cymraeg o dan hawliau trwydded 'Defnydd Teg'.