Ieithoedd Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen synagog Caerdydd

Y Gymraeg a'r Saesneg yw dwy brif iaith Cymru: Cymraeg yw iaith frodorol y wlad, ac fe'i siaredir gan ryw 19% o'r boblogaeth, ond Saesneg yw iaith y mwyafrif o'r boblogaeth. Mae bron 100% o'r rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg yn medru'r Saesneg hefyd. Wenglish yw'r dafodiaith Saesneg a siaredir yng Nghymru.

Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg

Ystadegau Cyfrifiad 2001[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r tabl isod yn dangos data Cyfrifiad 2001 ar gyfer gwybodaeth o'r Gymraeg yng Nghymru. Mae'r rhif yn y golofn "Pob person 3 oed a throsodd" yn dynodi holl boblogaeth ardal y rhes honno oedd 3 mlwydd oed a throsodd amser y cyfrifiad; mae'r rhifau yn y colofnau eraill yn dynodi'r canran o'r boblogaeth a nododd dewis y golofn honno.[1]

Ardal Pob person 3 oed a throsodd Yn deall Cymraeg llafar yn unig Yn siarad Cymraeg ond ddim yn ei darllen na’i hysgrifennu Yn siarad a darllen Cymraeg ond ddim yn ei hysgrifennu Yn siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg Cyfuniadau eraill o sgiliau Dim gwybodaeth am Gymraeg
Cymru 2,805,701 4.93 2.83 1.37 16.32 2.98 71.57
Ynys Môn 64,679 8.73 6.39 2.94 50.51 1.82 29.60
Gwynedd 112,800 5.91 5.75 2.31 60.63 1.50 23.89
Conwy 106,316 7.84 4.03 1.94 23.23 2.63 60.33
Sir Ddinbych 90,085 7.05 3.66 1.74 20.73 2.86 63.96
Sir y Fflint 143,382 4.39 2.13 1.06 10.92 2.89 78.62
Wrecsam 124,024 5.30 2.36 1.17 1 0.90 3.17 77.10
Powys 122,473 6.07 3.19 1.67 15.97 3.18 69.91
Ceredigion 72,884 7.15 4.99 2.73 44.11 2.27 38.76
Sir Benfro 110,182 5.43 3.51 1.64 16.35 2.43 70.65
Sir Gaerfyrddin 167,373 10.45 7.22 3.89 38.96 3.07 36.41
Sir Abertawe 216,226 5.99 2.47 1.37 9.38 3.26 77.53
Castell-nedd Port Talbot 130,305 6.52 3.26 1.69 12.83 4.51 71.18
Pen-y-bont ar Ogwr 124,284 4.28 1.61 0.88 8.09 5.06 80.08
Bro Morgannwg 115,116 2.92 1.57 0.69 8.81 2.92 83.10
Caerdydd 294,208 2.93 1.40 0.71 8.75 2.52 83.69
Rhondda Cynon Taf 223,924 4.26 1.66 0.83 9.79 4.55 78.92
Merthyr Tudful 54,115 4.03 1.71 0.97 7.35 3.68 82.26
Caerffili 163,297 2.83 1.72 0.67 8.52 2.93 83.33
Blaenau Gwent 67,795 2.19 1.90 0.59 6.56 2.07 86.69
Tor-faen 88,062 1.93 1.93 0.69 8.08 1.84 85.53
Sir Fynwy 82,351 2.05 1.60 0.60 6.82 1.79 87.14
Casnewydd 131,820 1.88 1.77 0.61 7.18 1.92 86.63
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 31,730 4.89 2.23 1.24 11.98 3.34 76.31
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro 21,919 5.80 3.39 1.83 18.08 2.52 68.39
Parc Cenedlaethol Eryri 24,702 6.13 5.25 2.30 54.52 1.66 30.15

Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Dwyieithrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae pumed o boblogaeth Cymru yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cefnogir y cysyniad o "Gymru ddwyieithog" gan nifer o sefydliadau, mudiadau cymdeithasol, a phleidiau gwleidyddol, yn cynnwys Plaid Cymru,[2] Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,[3] y Ceidwadwyr Cymreig,[4] a'r cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan.[5]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Ieithoedd eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Ystadegau Allweddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru (tudalen 39, tabl KS25). Cyfrifiad 2001. Swyddfa Ystadegau Gwladol. Adalwyd ar 21 Mai, 2008.
  2.  Ein nod: Cymru Ddwyieithog. plaidcymru.org. Adalwyd ar 4 Mehefin, 2008.
  3.  Deddf Iaith Newydd 2008 - Llyfryn Esboniadol. cymdeithas.org. Adalwyd ar 4 Mehefin, 2008. "Credwn fod y tri phennawd yma yn crynhoi’r elfennau y mae’n allweddol i’r Llywodraeth eu cynnwys yn y Gorchymyn, os ydyw o ddifrif ynghylch creu deddfwriaeth effeithiol mewn perthynas â’r Gymraeg, ac adeiladu Cymru ddwyieithog."
  4.  Maniffesto ar gyfer etholiadau Cynulliad 2007. Y Ceidwadwyr Cymreig. Adalwyd ar 4 Mehefin, 2008. "Mae angen i ni gymryd cam mentrus arall ac ymrwymo ein hunain i greu cenedl gwbl ddwyieithog."
  5.  David Collins a'i 'brain-dead language'. cymdeithas.org. Adalwyd ar 4 Mehefin, 2008. "Our policy is to promote a healthy bilingual Wales where the rights of people to speak Welsh and English are guaranteed. We want to see a bilingual future for Wales."