Beirdd yr Uchelwyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Beirdd yr Uchelwyr yw'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at y dosbarth o feirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr Cymru am gyfnod o dair canrif ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern. Daethant i'r amlwg ar ôl i'r beirdd proffesiynol golli nawdd y tywysogion Cymreig yn sgîl cwymp Llywelyn Ein Llyw Olaf yn 1282 a'r goresgyniad Seisnig. Roedd Beirdd y Tywysogion wedi canu i'r tywysog a'i lys (yn bennaf) ond canai'r to newydd i'r uchelwyr a etifeddasant gyfran o rym gweinyddol y tywysogion ar lefel lleol dan y gyfundrefn newydd. Am fod y cywydd yn gyfrwng mor nodweddiadol o'u gwaith cyfeirir atynt weithiau fel y Cywyddwyr, olynwyr y Gogynfeirdd, ond mae hyn yn gamarweiniol braidd am eu bod yn canu ar sawl mesur arall heblaw'r cywydd, gan gynnwys rhai o hoff fesurau Beirdd y Tywysogion. Cedwir gwaith dros 150 o'r beirdd hyn yn y llawysgrifau ac erys canran sylweddol o'u gwaith heb ei gyhoeddi.

Arolwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Canu mawl i'r uchelwyr a'u teuluoedd yw trwch cerddi Beirdd yr Uchelwyr, ond ceir nifer mawr o gerddi eraill yn ogystal ar bynciau amrywiol fel serch, natur, clera, ymryson barddol, dychan ac ati. Roedd rhai o'r beirdd yn perthyn i'r un dosbarth â'u noddwyr ac yn gyfarwydd iawn â'u byd, tra bod eraill yn gymharol ddistadl ac yn gorfod wynebu cystadleuaeth gan y Glêr i ennill eu bywoliaeth.

O blith yr enwocaf o Feirdd yr Uchelwyr oedd Dafydd ap Gwilym, un o feistri mwyaf y canu serch yn Ewrop gyfan. Yn y 14g a'r ganrif olynol mae Iolo Goch a ganai i Owain Glyndŵr, Siôn Cent a feirniadai fawrion y byd yn hallt, Gutun Owain, Dafydd Nanmor, un o feistri mawr y canu mawl, Lewys Glyn Cothi a Dafydd ab Edmwnd yn sefyll allan. Mae beirdd mawr cyfnod y Tuduriaid yn cynnwys Tudur Aled, Gruffudd Hiraethog, Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal. Dirywiodd y traddodiad barddol ar ddiwedd yr 16g, ond ni ddiflanodd yn llwyr tan ganol yr 17g pan gollwyd y nawdd draddodiadol gan yr ychydig feirdd broffesiynol olaf.

Ystyriai Saunders Lewis fod y beirdd hyn a'u noddwyr yn cynrychioli'r diwylliant Cymraeg ar ei berffeithiaf. Mae ei feirniadaeth a dadansoddiad yn ei gyfrol Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (1931) ymhlith y mwyaf dylanwadol o'r gwaith ysgolheigaidd ar ganu Beirdd yr Uchelwyr.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gyfres arloesol 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr', a gyhoeddir gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, yn cynnwys gwaith rhai dwsinau o'r beirdd hyn a daw cyfrolau newydd allan yn rheolaidd. Ar y cyfnod yn gyffredinol, gweler hefyd:

  • D. J. Bowen, Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd, 1957)
  • Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1931)
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1945)
  • Gwyn Thomas, 'Beirdd yr Uchelwyr', yn Y Traddodiad Barddol (Caerdydd, 1976)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]