Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cyfnod o hanes, digwyddiad ![]() |
Math | Hanes Cymru ![]() |
Daeth i ben | 24 Mawrth 1603 ![]() |
Dechreuwyd | 1485 ![]() |
Sylfaenydd | Harri VII ![]() |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Dechreuodd y cyfnod hwn gyda theyrnasiad Harri Tudur ar goron Lloegr ar ôl iddo ennill Brwydr Bosworth yn 1485, a daeth i ben gyda marwolaeth Elisabeth I yn 1603 a hithau'n ddiblant.
Roedd yn gyfnod cythryblus yn grefyddol gyda Harri VIII o Loegr yn cweryla gyda'r Pab a sefydlu Eglwys Loegr. Fel adwaith yn erbyn y Diwygiad Protestannaidd cafwyd cyfnod o geisio adfer y ffydd Gatholig gan y frenhines Mari I o Loegr. Ceisiodd ei olynydd Elisabeth I ddilyn polisi cymhedrol o oddefgarwch ar y dechrau ond cododd to o Gatholigion milwriaethus. Dyma gyfnod y Gwrthddiwygiad Catholig, cyfnod o erlid pobl fel Rhisiart Gwyn a William Davies. Roedd Owen Lewis, Gruffydd Robert a Morys Clynnog ymysg Cymry Catholigaidd eraill y cyfnod.
Bu erlid ar y Piwritaniaid hefyd, ar bobl fel John Penry.
Dyma gyfnod Deddf Uno 1536 a hefyd diddymu'r mynachlogydd a chyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.