Y deunydd mytholegol y gwelir ei olion yn llenyddiaeth gynnar a chanoloesol Cymru a hefyd, i ryw raddau, yn ei chwedlau gwerin yw mytholeg Gymreig. Mae'n rhan o draddodiad hynafol Cymru ond mae'n perthyn hefyd i fyd ehangach mytholeg Geltaidd a mytholeg ryngwladol.