Llywodraeth leol yng Nghymru
| Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
I bwrpas llywodraeth leol, ers 1 Ebrill 1996 rhennir Cymru yn 22 o awdurdodau unedol a elwir yn "brif ardaloedd". O fewn yr haen uchaf hwn, ceir sawl math o sir sefː sir, bwrdeistrefi sirol a dinasoedd (gyda statws sirol).[1] Yn aml gelwir nhw o dan un enw - sir, er bod hyn yn dechnegol anghywir. Cynrychiolir yr awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r siroedd hyn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae cynghorau etholedig yr awdurdodau hyn yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau o fewn eu prif ardaloedd: addysg, gwaith cymdeithasol, cadwraeth yr amgylchedd a thraffyrdd.
O dan yr haen hwn ceir cynghorau cymuned; dirprwyir rhai cyfrifoldebau iddynt hwy, er enghraifft torri gwair, cynnal a chadw parciau lleol.
Fe benodir Arglwydd Raglaw gan Frenhines y DU, i'w chynrychioli yn yr wyth Sir cadwedig sef yr ardaloedd cyfredol a ddefnyddir yng Nghymru at ddibenion seremonïol Rhaglawiaeth a Siryfiaeth.
Yn Ebrill 2013 cyhoeddwyd fod Llywodraeth Cymru am gynnal Ad-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru gyda'r bwriad o dorri'r nifer o siroedd o 22 i tua 12.
Dinasoedd
[golygu | golygu cod]Saith dinas sydd yng Nghymru: yn ogystal â'r tri awdurdod unedol sydd â statws dinas, mae gan gymunedau Bangor, Llanelwy a Thyddewi statws dinas a gadarnheir gan freintlythyrau.
Yn hanesyddol roedd Llanelwy yn ddinas, gan iddi fod yn ganolfan esgobaeth, a chyfeirir ati fel dinas yn Encyclopædia Britannica 1911. Er hyn nid oedd statws dinas swyddogol gan Lanelwy. Pan roddwyd statws dinas i Dyddewi ym 1994 fe ymgeisiodd Cyngor Cymuned Llanelwy am yr un statws, trwy ddeiseb. Gwrthodwyd y ddeiseb gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o siarter neu freintlythyrau yn cael eu rhoi i'r dref yn y gorffennol, fel yn achos Tyddewi. Aflwyddiannus oedd ceisiadau am statws dinas mewn cystadlaethau yn 2000 a 2002.[2]
Ar 14 Mawrth 2012, fodd bynnag, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai Llanelwy yn ennill statws dinas. Ymgeisiodd sawl tref, a dewiswyd Llanelwy "i gydnabod ei chyfoeth o hanes, ei chyfraniad diwylliannol a’i statws metropolitan fel canolbwynt ar gyfer technoleg, masnach a busnes."[3]
Enillodd Wrecsam gystadleuaeth i gael statws dinas yn 2022. Roedd hyn yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines a gwobrwyd 8 tref ar draws y DU. Cafodd Wrecsam ei wneud yn ddinas yn swyddogol ar 1 Medi 2022.[4]
Prif ardaloedd
[golygu | golygu cod]Cymunedau
[golygu | golygu cod]Cymuned yw'r uned leiaf o lywodraeth leol yng Nghymru.
Siroedd cadwedig
[golygu | golygu cod]- Prif: Siroedd cadwedig Cymru
Pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1974 diddymwyd yr hen siroedd gweinyddol a chreuwyd wyth sir newydd yn eu lle. O'r siroedd hyn, mae Powys a Gwynedd yn dal i fodoli ond gyda newidiadau i'w ffiniau, yn enwedig yn achos Gwynedd a chollodd Ynys Môn ac a welodd yr ardaloedd gogledd-ddwyreiniol yn mynd yn rhan o Fwrdeistref Sirol Conwy. Mae siroedd 1974-1996 yn cael eu disgrifio'n swyddogol fel siroedd cadwedig ar gyfer rhai pwrpasau seremonïol ond heb unrhyw ran mewn llywodraeth leol.
Dyma'r siroedd:
Hanes "Siroedd" Cymru
[golygu | golygu cod]Erbyn 1066 roedd Lloegr gyfan wedi cael ei rhannu'n siroedd, ond nid oedd gan Gymru siroedd tan y 13g. Aberteifi a Chaerfyrddin a sefydlwyd yn gyntaf a hynny yn y 1240au. Ym 1284 rhannwyd "Tywysogaeth Gwynedd" yn dair sir: Môn, Caernarfon a Meirionnydd. Gellir edrych ar y drefn newydd hon felly fel trefn Seisnig a fwriwyd ar Gymru wedi syrthio'ryn ystod blynyddoedd olaf y Tywysog Llywelyn II. Cyn diwedd y ganrif roedd y Fflint hithau wedi'i chlensio'n sir a olygai fod bron i hanner tiriogaeth Cymru o dan reolaeth coron Lloegr. Y Mers oedd yn weddill, a chafwyd gwared a nhw trwy ddefnyddio y Ddeddf Uno1536 gan greu Sir Benfro, Sir Drefaldwyn, Sir Ddinbych, Sir Faesyfed, Sir Forgannwg, Sir Frycheiniog a Sir Fynwy. Dyna gyfanswm o 13 sir. Y mwyaf oedd Sir Gaerfyrddin (246,168ha) a Sir y Fflint (65,975ha). Cawsant eu mapio gan John Speed ac eraill ac fe'u derbyniwyd yn frwd gan y Boneddigion.
Yn 1974 diddymwyd yr 13 sir. Yn eu lle sefydlwyd y siroedd cadwedig uchod.
NUTS gan Eurostat
[golygu | golygu cod]O fewn Eurostats yr Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth(Nomenclature of Territorial Units for Statistics, NUTS), ystyrir Cymru yn rhanbarth lefel-1, gyda'r côd "UKL", ac a isrennir fel a ganlyn:
| NUTS 1 | Côd | NUTS 2 | Côd | NUTS 3 | Côd |
|---|---|---|---|---|---|
| Cymru | UKL | Gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru | UKL1 | Ynys Môn | UKL11 |
| Gwynedd | UKL12 | ||||
| Conwy a Sir Ddinbych | UKL13 | ||||
| De-orllewin Cymru (Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro) | UKL14 | ||||
| Cymoedd Canol (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf) | UKL15 | ||||
| Cymoedd Gwent (Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen) | UKL16 | ||||
| Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-nedd Port Talbot | UKL17 | ||||
| Abertawe | UKL18 | ||||
| Dwyrain Cymru | UKL2 | Sir Fynwy a Chasnewydd | UKL21 | ||
| Caerdydd a Bro Morgannwg | UKL22 | ||||
| Sir y Fflint a Wrecsam | UKL23 | ||||
| Powys | UKL24 | ||||
Heddluoedd a gwasanaethau tân
[golygu | golygu cod]Heddluoedd
[golygu | golygu cod]- Prif: Heddluoedd Cymru
Ceir pedwar heddlu yng Nghymru:
Gwasanaethau tân ac achub
[golygu | golygu cod]Ceir tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru:
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ad-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru, 2015
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cymunedau Cymru (Trefi a Chymunedau Cymru)
- Rhestr Siroedd a Dinasoedd Cymru yn ôl y canran o siaradwyr Cymraeg
- Siroedd Cymru cyn ad-drefnu 1974
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Local Government (Wales) Act 1994
- ↑ Beckett, J V (2005). City Status in the British isles, 1830 - 2002. Aldershot: Ashgate Publishing, tud. 133 - 135. ISBN 0754650677
- ↑ Gwefan www.gov.uk; adalwyd 6 Ionawr 2014
- ↑ Wrexham officially becomes Wales' seventh city after Platinum Jubilee award (en) , WalesOnline, 1 Medi 2022.
| |||||||||||||