Neidio i'r cynnwys

Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015

Oddi ar Wicipedia
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015
               
← 2010 7 Mai 2015 (2015-05-07) 2017 →

Pob un o'r 650 sedd yn y Tŷ'r Cyffredin
326 sedd sydd angen i gael mwyafrif
Nifer a bleidleisiodd46,425,386 (66.1%; increase1.3%)
  Plaid cyntaf Yr ail blaid
  David Cameron Ed Miliband
Arweinydd David Cameron Ed Miliband
Plaid Ceidwadwyr Llafur
Arweinydd ers 6 Rhagfyr 2005 25 Medi 2010
Sedd yr arweinydd Witney Gogledd Doncaster
Etholiad diwethaf 306, 36.1% 258, 29.0%
Seddi cynt 306 258
Seddi a enillwyd 331 232[1]
Newid yn y seddi increase 25 Decrease 26
Pleidlais boblogaidd 11,334,920 9,344,328
Canran 36.9% 30.4%
Gogwydd increase 0.8 pwynt increase 1.4 pwynt

  Trydedd plaid Pedwaredd plaid
  Nicola Sturgeon Nick Clegg
Arweinydd Nicola Sturgeon Nick Clegg
Plaid SNP Democratiaid Rhyddfrydol
Arweinydd ers 14 Tachwedd 2014 18 Rhagfyr 2007
Sedd yr arweinydd Ni safodd Sheffield Hallam
Etholiad diwethaf 6, 1.7% 57, 23%
Seddi cynt 6 57
Seddi a enillwyd 56 8
Newid yn y seddi Decrease 49
Pleidlais boblogaidd 1,454,436 2,415,888
Canran 4.7% 7.9%
Gogwydd increase 3.0 pwynt Decrease 15.1 pwynt


Prif Weinidog cyn yr etholiad

David Cameron
Y Blaid Geidwadol (DU)

Prf Weinidog wedi'r etholiad

David Cameron
Y Blaid Geidwadol (DU)

Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 ar 7 Mai 2015[2] er mwyn ethol Aelod Seneddol ar gyfer pob un o'r 650 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig, sef prif siambr Senedd y Deyrnas Unedig.[3] Roedd yr etholiad cyffredinol hwn ledled y Deyrnas Unedig.

Cofir am yr etholiad hwn yn bennaf am lwyddiant Blaid Cenedlaethol yr Alban yn cipio 56 o seddau, ac yn ail am leihad yn nifer Aelodau Seneddol y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr. Daliodd Plaid Cymru eu gafael yn y tair sedd (12.1% o'r bleidlais), ond ni welwyd ymchwydd fel a fu yn yr Alban.

Yn Ionawr 2015, cyhoeddodd y cwmni arolwg barn Panelbase ganlyniadau eu hymchwiliad gan ragweld Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) yn cynyddu nifer eu haelodau Seneddol o 6 i 35; erbyn Ebrill roedd y polau pinio yn amcangyfrif hyd at 50 o seddau.[4][5]

"Etholiad yr Alban"

[golygu | golygu cod]

Cipiodd yr SNP 50% o'r bleidlais a 56 sedd - 50 yn fwy nag oedd ganddynt yn dilyn Etholiad 2010. Disodlwyd Jim Murphy, arweinydd Plaid Lafur yr Alban gan Kirsten Oswald, wedi 18 mlynedd fel Aelod Seneddol, yn ogystal â Douglas Alexander.[6]

Ymateb Alex Salmond oedd "Scottish lion has roared".

Fis cyn yr etholiad, galwodd un o golofnwyr The Guardian, Jonathan Freeland, yr Etholiad Cyffredinol yn "Etholiad yr Alban", oherwydd yr holl amser a roddwyd i'r Alban gan y pleidiau yn ystod y misoedd a oedd yn arwain at yr etholiad. Mae'n bosibl fod y cynnydd aruthrol hwn yn aelodaeth a thwf yr SNP yn ganlyniad i sawl ffactor: 1. Poblogrwydd Nicola Sturgeon 2. Partneriaeth Llafur / Ceidwadwyr yn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, gydag aelodau Llafur o'r farn fod Llafur wedi bradychu sosialaeth drwy droi at y Ceidwadwyr 3. Adwaith i ymateb negyddol pleidiau Lloegr e.e. Piers Morgan yn The Sun yn ysgrifennu: "the world’s most dangerous woman that few outside Britain have ever heard of”." neu David Cameron yn trin a thrafod hawliau a phwerau Lloegr yn hytrach na'r Alban.[7]

Cerrig filltir yn arwain at yr etholiad

[golygu | golygu cod]

Roedd dylanwad Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 yn fawr, yn bennaf oherwydd fod y polau piniwn yn rhagweld nifer helaeth o Aelodau Seneddol yr Plaid Genedlaethol yr Alban (yr 'SNP') yn cael eu hethol - fel adwaith i'r Refferendwm. Sylweddolwyd hefyd fod y frwydr rhwng y ddwy blaid fwyaf - Llafur a'r Ceidwadwyr - yn agos; golyga'r ddau beth yma y gall yr ASau SNP newydd, felly, ffurfio clymblaid gyda Llafur. Hyd yn oed 4 mis cyn yr etholiad daeth hi'n eglur yn y polau piniwn fod y nifer aelodau SNP am godi o 6 i fwy na 40.

Roedd ymateb y Ceidwadwyr i'r posibilrwydd hwn yn negyddol; dywedodd Cameron, ar 20 Mai, mai yn uffern y ffurfiwyd unrhyw glymblaid SNP-Llafur a rhagwelodd y perygl i'r Deyrnas Unedig o gael ASau SNP yr Alban yn rheoli gwledidyddiaeth Lloegr. Cafwyd sylwadau tebyg gan John Major ac eraill. Twt-twtian y fath bartneriaeth wnaeth y Blaid Lafur, ond ni chlowyd y drws yn glep.

Ar 9 Ebrill trodd sylwadau negyddol y Gweinidog Amddiffyn Michael Fallon yn ei wyneb, pan ymosododd ar Milliband; dywedodd fod Milliband wedi rhoi cyllell yng nghefn ei frawd ac y byddai'n rhoi cyllell arall yng nghefn y DU os cytuna gyda'r SNP i ddiddymu arfau niwclear Trident. Hyd yn oed gan rai aelodau Ceidwadol, sylweddolwyd fod sylwadau fel hyn yn gwneud mwy o ddrwg i'r blaid a'i llefarodd nag i'r gwrthrych-darged, a gwelwyd y Ceidwadwyr yn colli llawer o bleidleisiau yn y polau a ddilynodd hyn.

Ar 20 Ebrill cyhoeddwyd maniffesto'r SNP, a oedd yn cynnwys nifer o feysydd y tu allan i'r Alban, gan gynnwys diddymu Trident, canslo 'treth y stafell wely' lleihau ffioedd Lloegr o £9,000 i £6,000, codi 100,000 o dai newydd ym Mhrydain, diddymu gwaith 'oriau sero' a chodi lleiafswm cyflogau. Ar hyd y bedlan, mae'r SNP wedi siarad yn gryf o ran gwario yn hytrach na thoriadau ariannol. Roedd hyn yn ymgais i leddfu ofnau rhai Saeson a gwneud ei phlaid yn fwy derbyniol pe ffurfiwyd clymblaid.

Union wythnos cyn yr etholiad cyhoeddwyd canlyniadau pôl piniwn IPSOS Mori, rhagwelwyd y posibilrwydd y gallai'r SNP ennill pob sedd yn yr Alban: 54% o'r bleidlais.[8]

Etholiad 2001
Etholiad 2005
Etholiad 2010

Dosbarthiad y pleidiau yn Nhy'r Cyffredin o 2015 ymlaen

[golygu | golygu cod]

Ar ôl i'r 650 canlyniad gael eu cyhoeddi, gwelwyd fod sefyllfa'r pleidiau fel a ganlyn:[9][10]

Plaid Arweinydd Nifer y Pleidleisiau Seddi
Ceidwadwyr David Cameron 11,334,920 (36.9%)
330 (50.8%)
330 / 650
Llafur Ed Miliband 9,344,328 (30.4%)
232 (35.7%)
232 / 650
UKIP Nigel Farage 3,881,129 (12.6%)
1 (0.2%)
1 / 650
Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg 2,415,888 (7.9%)
8 (1.2%)
8 / 650
Plaid Genedlaethol yr Alban Nicola Sturgeon 1,454,436 (4.7%)
56 (8.6%)
56 / 650
Y Blaid Werdd Natalie Bennett 1,154,562 (3.8%)
1 (0.2%)
1 / 650
Unoliaethwyr Democrataidd Peter Robinson 184,260 (0.6%)
8 (1.2%)
8 / 650
Plaid Cymru Leanne Wood 181,694(0.6%)
3 (0.5%)
3 / 650
Sinn Féin Gerry Adams 176,232 (0.6%)
4 (0.6%)
4 / 650
Plaid Unoliaethol Ulster Mike Nesbitt 114,935 (0.4%)
2 (0.3%)
2 / 650
SDLP Alasdair McDonnell 99,809 (0.3%)
3 (0.5%)
3 / 650
Eraill N/A 349,487 (1.1%)
1 (0.2%)
1 / 650
Y Llefarydd John Bercow 1 (0.2%)
1 / 650

Dosbarthiad y pleidiau yn Nhy'r Cyffredin 2010-15

[golygu | golygu cod]
Cyswllt Nifer Aelodau Seneddol
(yn union wedi'r etholiad)[11]
6 Mai 2010 7 Mai 2015 1
Ceidwadwyr 306 330 2
Llafur 258 256 2
SNP 6 56
DUP 8 8
Democratiaid Rhyddfrydol 57 8
Sinn Féin 5 3 5 3
  Annibynnol
1 3
Plaid Cymru 3 3
SDLP 3 3
UKIP 0 2
Cynghrair G.I. 1 1
Y Blaid Werdd 1 1
Y Blaid Respect 0 1
  Llefarydd
1 1 4
 Cyfanswm y seddi
650 650
 Mwyafrif gwirioneddol y Llywodraeth 5
83 75
  • ^1 Gweler Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 am ychwaneg o wybodaeth parthed tymor 2010-15.
  • ^2 Etholwyd Lindsay Hoyle (Llafur), Eleanor Laing (Ceidwadwyr) a Dawn Primarolo (Llafur) yn Gadeirydd, Is-gadeirydd ac ail Ddirprwy Gadeirydd Ways and Means. Nid ydynt yn ymddiswyddo o'u plaid, ond maent yn rhoi'r gorau i bleidleisio. Caniateir peidleisio i hollti'r ddadl. Nid ydynt ychwaith yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid, nes y daw'n etholiad.
  • ^3 Mae gan Sinn Féin swyddfeydd yn San Steffan, ond maent yn ymatal rhag cymryd rhan yn Nhŷ'r Cyffredin oherwydd nad ydynt yn cydnabod y Frenhines ayb.[12]
  • ^4 Ail-etholiwyd John Bercow i etholaeth Buckingham fel Llefarydd.[13]
  • ^5 Mae 'Mwyafrif gwirioneddol y Llywodraeth' yn cynnwys y Glymblaid Ceidwadwyr / Democratiaid Rhyddfrydol ac yn anwybyddu Aelodau nad ydynt yn pleidleisio (Sinn Féin, y Llefarydd a'i ddirprwyon) a seddi gweigion.

Dadleuon a ddarlledwyd

[golygu | golygu cod]

Dyma'r ail etholiad cyffredinol lle gwelwyd dadleuon ffurfiol wedi'u trefnu ar y teledu rhwng arweinyddion y prif bleidiau. Yn rhan o'r gyfres o ddadleuon, rhwng gwahanol bleidiau, ar 2 Ebrill, cafwyd dadl a oedd yn cynnwys 7 plaid gan gynnwys tair merch: Nicola Sturgeon (SNP), Natalie Bennett (Y Blaid Werdd) a Leanne Wood (Plais Cymru).[14] Am ryw reswm ni wahoddwyd arweinwyr pleidiau Gogledd Iwerddon, ac mae'r DUP yn ystyried mynd i gyfraith oherwydd hyn.[15] Yn gyffredinol, mae sawl beirniad / gwleidydd wedi awgrymu Nicola Sturgeon oedd y gorau o'r saith a bod y tair merch wedi trawsnewid gwleidyddiaeth gonfensiynol (tair-plaid) drwy'r darllediad.

Roedd y drydedd dadl, a gynhaliwyd ar 16 Ebrill yn cynnwys y "cystadleuwyr" i'r Llywodraeth h.y. heb Cameron a Clegg. Unwaith eto, y sylwadau mwyaf cyffredin oedd mai'r merched a enillodd y ddadl: Wood, Sturgeon a Bennette. Bydd dwy ddadl arall yn dilyn hyn: y naill rhwng Cameron a Miliband a'r llall rhwng Cameron, Miliband a Clegg ble bydd y gwleidyddion yn ateb cwestiynnau'n hytrach nag yn dadlau gyda'i gilydd.

Sgrinlun o drydariadau positif Twitter yn ystod y ddadl a gynhalwiyd 2 Ebrill 2015
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015


Map o etholaethau yn ôl lliw plaid yn ystod y Senedd presennol. Nodyn: Mae Plaid Cymru'n cael eu dangos mewn gwyrdd, eu lliw hanesyddol.

Trosolwg o'r canlyniadau yn ôl plaid

[golygu | golygu cod]

Ceir rhestr gyflawn o'r canlyniadau ar House of Commons Library General Elections Online.[16] Daw'r canlynol o wefan y BBC:[17]

Plaid Seddau Pleidleisiau
CyfanswmEnillwydCollwyd Net Cyfanswm % Newid (%)
  Llafur1 25 1 2 −1 552,473 36.9 +0.6
  Ceidwadwyr 11 3 0 +3 407,813 27.2 +1.1
  UKIP 0 0 0 0 204,330 13.6 +11.2
  Plaid Cymru 3 0 0 0 181,704 12.1 +0.8
  Democratiaid Rhyddfrydol 1 0 2 −2 97,783 6.5 −13.6
  Y Blaid Werdd 0 0 0 0 38,344 2.6 +2.1
  Y Blaid Sosialaidd 0 0 0 0 3,481 0.2 +0.2
  TUSC 0 0 0 0 1,780 0.1 +0.1
  Eraill 0 0 0 0 10,355 0.7 −0.5
Total40 1,498,063

1 Cyhwysir Llafur a’r Blaid Gydweithredol hefyd yn ffigurau'r Blaid Lafur.

Y Bleidlais Boblogaidd
Llafur
  
36.87%
Ceidwadwyr
  
27.22%
UKIP
  
13.64%
Plaid Cymru
  
12.13%
Dem. Rhyddfrydol
  
6.53%
Y Blaid Werdd
  
2.56%
Eraill
  
1.05%
Seddau
Llafur
  
62.50%
Ceidwadwyr
  
27.50%
Plaid Cymru
  
7.50%
Dem. Rhyddfrydol
  
2.50%

Rhestr o'r ymgeiswyr llwyddiannus

[golygu | golygu cod]

Mae 40 Etholaeth Seneddol yng Nghymru. Rhestrir yr ymgeiswyr ar eu cyfer isod gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus mewn lythrennau bras. Dynodir Aelodau Seneddol oedd yn ail-sefyll i gadw eu seddi gyda *. Yna, yn dilyn, gwelir rhestr o'r ASau a etholwyd yn 2015.

Cod SYGEtholaethPlaid CymruLlafurCeidwadwyrY Democratiaid Rhyddfrydol
W07000049AberafanDuncan HiggittStephen KinnockEdward Yi HeHelen Ceri Clarke
W07000058AberconwyDafydd MeurigMary WimburyGuto Bebb*Victor Babu
W07000043Alun a Glannau DyfrdwyJacqueline Hurst Mark Tami*Laura KnightlyTudor Jones
W07000057ArfonHywel Williams*Alun PughAnwen Barry Mohammed Shultan
W07000072Blaenau GwentSteffan LewisNick Smith*Tracey WestSam Rees
W07000078Bro MorgannwgIan JohnsonChris ElmoreAlun Cairns*
W07000068Brycheiniog a Sir FaesyfedFreddy GreavesMatthew DorranceChris DaviesRoger Williams*
W07000076CaerffiliWayne David*Aladdin Ayesh
W07000050Canol CaerdyddJo StevensJenny Willott*
W07000069Castell-neddDaniel ThomasChristina ReesClare Bentley
W07000064CeredigionMike ParkerHuw ThomasMark Williams*
W07000070Cwm CynonCerith GriffithsAnn Clwyd
W07000080De Caerdydd a PhenarthStephen Doughty*Nigel Howells
W07000062De ClwydMabon ap GwynforSusan Jones*David Nicholls Bruce Roberts
W07000042DelynPaul Rowlinson David Hanson*Mark IsherwoodTom Rippeth
W07000061Dwyfor MeirionnyddLiz SavilleMary ClarkeSteve Churchman
W07000048Dwyrain AbertaweCarolyn HarrisAmina Jamal
W07000067Dwyrain Caerfyrddin a DinefwrJonathan Edwards*Calum Higgins
W07000055Dwyrain CasnewyddJessica Morden*Paul Halliday
W07000060Dyffryn ClwydMair RowlandsJames Davies
W07000051Gogledd CaerdyddMari WilliamsCraig Williams
W07000047Gorllewin AbertaweGeraint Davies*Chris Holley
W07000079Gorllewin CaerdyddKevin Brennan*Cadan ap Tomos
W07000066Gorllewin Caerfyrddin a De Sir BenfroDelyth EvansSimon Hart*Selwyn Runnett
W07000056Gorllewin CasnewyddPaul Flynn*Ed Townsend
W07000059Gorllewin ClwydMarc JonesGareth ThomasDavid Jones*
W07000046GŵyrLiz EvansByron DaviesMike Sheehan
W07000077IslwynChristopher Evans*Brendan D'Cruz
W07000045LlanelliVaughan WilliamsNia Griffith*Cen Phillips
W07000063MaldwynGlyn Davies*Jane Dodds
W07000071Merthyr Tudful a RhymniGerald JonesBob Griffin
W07000054MynwyRuth JonesDavid Davies*Veronica German
W07000074OgwrChris ElmoreGerald Francis
W07000073Pen-y-bont ar OgwrMadeleine Moon*Anita Davies
W07000075PontypriddOsian LewisOwen Smith*Mike Powell
W07000065Preseli PenfroPaul MillerStephen Crabb*
W07000052RhonddaShelley Rees-OwenChris Bryant*George Summers
W07000053TorfaenNick Thomas-SymondsAlison Willott
W07000044WrecsamCarrie HarperIan Lucas*Andrew Atkinson Rob Walsh
W07000041Ynys MônJohn RowlandsAlbert Owen*Michelle Willis Mark Rosenthal

Rhestr o'r ASau a etholwyd yn Etholiad 2015

[golygu | golygu cod]
ASEtholaethPlaidYn yr etholaeth ers
Guto Bebb Aberconwy Y Blaid Geidwadol 2010
Kevin Brennan Gorllewin Caerdydd Y Blaid Lafur 2001
Chris Bryant Rhondda Y Blaid Lafur 2001
Alun Cairns Bro Morgannwg Y Blaid Geidwadol 2010
Ann Clwyd Cwm Cynon Y Blaid Lafur Is-etholiad 1984
Stephen Crabb Preseli Penfro Y Blaid Geidwadol 2005
Wayne David Caerffili Y Blaid Lafur 2001
Byron Davies Gŵyr Y Blaid Geidwadol 2015
Christopher Davies Brycheiniog a Sir Faesyfed Y Blaid Geidwadol 2015
David Davies Mynwy Y Blaid Geidwadol 2005
Geraint Davies Gorllewin Abertawe Y Blaid Lafur 2010
Glyn Davies Maldwyn Y Blaid Geidwadol 2010
James Davies Dyffryn Clwyd Y Blaid Geidwadol 2015
Stephen Doughty De Caerdydd a Phenarth Y Blaid Lafur Is-etholiad 2012
Jonathan Edwards Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Plaid Cymru 2010
Chris Evans Islwyn Y Blaid Lafur 2010
Paul Flynn Gorllewin Casnewydd Y Blaid Lafur 1987
Stephen Kinnock Aberafan Y Blaid Lafur 2015
Nia Griffith Llanelli Y Blaid Lafur 2005
Christina Rees Castell-nedd Y Blaid Lafur 2015
David Hanson Delyn Y Blaid Lafur 1992
Simon Hart Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Y Blaid Geidwadol 2010
Gerald Jones Merthyr Tudful a Rhymni Y Blaid Lafur 2015
Huw Irranca-Davies Ogwr Y Blaid Lafur Is-etholiad 2002
Carolyn Harris Dwyrain Abertawe Y Blaid Lafur 2015
David Jones Gorllewin Clwyd Y Blaid Geidwadol 2005
Susan Jones De Clwyd Y Blaid Lafur 2010
Liz Saville-Roberts Dwyfor Meirionnydd Plaid Cymru 2015
Ian Lucas Wrecsam Y Blaid Lafur 2001
Madeleine Moon Pen-y-bont ar Ogwr Y Blaid Lafur 2005
Jessica Morden Casnewydd Y Blaid Lafur 2005
Nick Thomas-Symonds Torfaen Y Blaid Lafur 2015
Albert Owen Ynys Môn Y Blaid Lafur 2001
Nick Smith Blaenau Gwent Y Blaid Lafur 2010
Owen Smith Pontypridd Y Blaid Lafur 2010
Jo Stevens Canol Caerdydd Y Blaid Lafur 2015
Mark Tami Alun a Glannau Dyfrdwy Y Blaid Lafur 2001
Craig Williams Gogledd Caerdydd Y Blaid Geidwadol 2015
Hywel Williams Arfon Plaid Cymru 2001
Mark Williams Ceredigion Y Democratiaid Rhyddfrydol 2005
Etholiad 2005
2005
2005  
Etholiad 2010
2010
2010 
Etholiad 2015
2015
2015 

Yr Alban

[golygu | golygu cod]
Etholiadau Cyffredinol yn yr Alban
Etholiad 2005
2005
2005  
Etholiad 2010
2010
2010 
Etholiad 2015
2015
2015 

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Live election results". BBC. 8 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-10. Cyrchwyd 8 Mai 2015.
  2. ↑ "Election 2015". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Mai 2026.
  3. ↑ "General election timetable 2015". Senedd y Deyrnas Unedig. Cyrchwyd 10 Awst 2014.
  4. ↑ www.heraldscotland.com; adalwyd 18 Ionawr 2015
  5. ↑ Adroddiad yn y Guardian On-line; dyddiedig 23 Ebrill 2015 adalwyd 26 Ebrill 2015
  6. ↑ Y Daily Record; pennawd - Election 2015: Jim Murphy loses grip on East Renfrewshire as Kirsten Oswald wins seat for SNP; adalwyd 8 Mai 2015
  7. ↑ Jonathan Freeland; The Guardian; Dydd Sadwrn 25 Ebrill 2015; tudalen 35.
  8. ↑ Gwefan news.stv.tv Archifwyd 2015-05-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 01 Mai 2015
  9. ↑ "Live UK election results". The Guardian. Cyrchwyd 8 Mai 2015.
  10. ↑ "Election 2015 results". BBC. Cyrchwyd 8 Mai 2015.
  11. ↑ "Sefyllfa Gyfoes y Pleidiau". Parliament.gov. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2014.
  12. ↑ Walker, Aileen; Wood, Ellen (14 Chwefror 2000). "The Parliamentary Oath" (PDF). House of Commons Library. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2010.
  13. ↑ "Election 2010: Results: Buckingham". BBC News. 7 Mai 2010. t. 29. Cyrchwyd 9 Mai 2010.
  14. ↑ "Will There Be Election Debates In 2015, And Who Will Fight Them?". Cyrchwyd 7 Ionawr 2013.
  15. ↑ "BBC News - TV election debates: DUP to seek judicial review of BBC's decision". BBC News. Cyrchwyd 7 Mawrth 2015.
  16. ↑ "May 2015 results for Wales". General Elections Online. House of Commons Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-17. Cyrchwyd 2 Medi 2015.
  17. ↑ "Results of the 2015 General Election in Wales – Election 2015 – BBC News". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Ionawr 2016.
1801 cyfethol | 1802 | 1806 | 1807 | 1812 | 1818 | 1820 | 1826 | 1830 | 1831 | 1832 | 1835 | 1837 | 1841 | 1847 | 1852 | 1857 | 1859 | 1865 | 1868 | 1874 | 1880 | 1885 | 1886 | 1892 | 1895 | 1900 | 1906 | 1910 (Ion) | 1910 (Rhag) | 1918 | 1922 | 1923 | 1924 | 1929 | 1931 | 1935 | 1945 | 1950 | 1951 | 1955 | 1959 | 1964 | 1966 | 1970 | 1974 (Chwe) | 1974 (Hyd) | 1979 | 1983 | 1987 | 1992 | 1997 | 2001 | 2005 | 2010 | 2015 | 2017 | 2019 | 2024
Refferenda y Deyrnas Unedig
1975 | 2011 | 2016