Kirsten Oswald
| Kirsten Oswald | |
| |
| Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – 3 Mai 2017 | |
| Rhagflaenydd | Jim Murphy |
|---|---|
| Olynydd | Paul Masterton |
| Geni | 21 Rhagfyr 1972 Dundee, Yr Alban |
| Cenedligrwydd | Albanwr |
| Etholaeth | Dwyrain Swydd Renfrew |
| Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
| Priod | Davinder Bedi |
| Alma mater | Prifysgol Glasgow |
| Galwedigaeth | Gwleidydd |
| Gwefan | http://www.snp.org/ |
| Enw bedydd: Kirsten Frances Oswald | |
Gwleidydd o'r Alban yw Kirsten Oswald (Kirsten Frances Oswald) (ganwyd 21 Rhagfyr 1972). Fe'i hetholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Swydd Renfrew; mae'r etholaeth mewn sir o'r un enw. Mae Kirsten yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Kirsten Oswald yn Dundee a chafodd ei magu yn Carnoustie ble raeth i Ysgol Uwchradd Carnoustie. Wedi hynny astudiodd Hanes ym Mhrifysgol Glasgow. Yn 2008 symudodd gyda'r gŵr a'u dau blentyn i Dwyrain Swydd Renfrew. Ei mam yw Helen Oswald, Profost Angus.[1]
Mae'n uwch swyddog mewn adnoddau dynol, ac fe'i hysbrydolwyd i gydio wleidydda dros annibyniaeth yr Alban yn ystod yr ymgyrch dros 'ie' cyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 pan ymunodd a'r SNP.[2]
Etholiad 2015
[golygu | golygu cod]Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Kirsten Oswald 23013 o bleidleisiau, sef 40.6% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 31.7 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 3718 pleidlais.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Carnoustie Lady Aims for Westminster", The Guide and Gazette, 30 AEbrill 2015, http://www.guideandgazette.co.uk/news/local-headlines/carnoustie-lady-aims-for-westminster-1-3759498, adalwyd 8 Mai 2015
- ↑ "General election 2015: the winners and losers". The Guardian. 8 Mai 2015. Cyrchwyd 8 May 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|work=(help) - ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban