Yr Alban
- Am ystyron eraill, gweler Alban (gwahaniaethu)
|
| |
| Alba | |
|
| |
| Math | Gwlad |
|---|---|
| Prifddinas |
Caeredin |
| Poblogaeth |
5,404,700 |
| Anthem |
Flower of Scotland |
| Pennaeth llywodraeth |
Nicola Sturgeon |
| Cylchfa amser |
UTC±00:00 |
| Nawddsant |
Andreas |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir |
Y Deyrnas Unedig |
| Arwynebedd |
78,782 km² |
| Yn ffinio gyda |
Lloegr |
| Cyfesurynnau |
57°N 5°W |
| Cod SYG |
S92000003 |
|
GB-SCT | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol |
Llywodraeth yr Alban |
| Corff deddfwriaethol |
Senedd yr Alban |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prif Weinidog yr Alban |
| Pennaeth y Llywodraeth |
Nicola Sturgeon |
|
| |
| Arian |
Punt sterling |
| Gwefan |
www.scotland.org |
Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg yr Alban: Alba; Sgoteg a Saesneg: Scotland). Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r Frythoneg Orllewinol (ac yna'r Gymraeg) yn cael ei siarad o lannau'r Fife i Fynwy.[1] Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi. Ar 18 Medi cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd Etholiad Cyffredinol lle gwelwyd newid syfrdanol yng nghenedlaetholdeb ei thrigolion.
Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban – 30 Tachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas. Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18g. Ar 26 Mawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.
Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg – Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.
Cynnwys
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
O ran arwynebedd, mae'r tir mawr yn draean y gweddill o wledydd Prydain, sef 78,772 km2 (30,414 mi sg)*,[2]. Mae felly tua'r un maint â'r Weriniaeth Tsiec. Yr unig ffin wleidyddol ydy hwnnw yn ne'r wlad gyda Lloegr, sy'n 96 kilometr (60 mi)* – rhwng aber yr Afon Tuedd yn y dwyrain hyd at Moryd Solway (Solway Firth).[3] Saif Iwerddon 30 km i'r gorllewin o benrhyn Kintyre;[4] mae Norwy 305 km i'r gogledd ddwyrain, ac mae Ynysoedd Faroe 270 km i'r gogledd.
Mae'r Alban yn nodedig am ei mynyddoedd. Yn ystod y cyfnod Pleistosen, roedd y wlad wedi'i gorchuddio o dan rew ac mae olion y rhewlifau i'w gweld yn amlwg ar y tirwedd. Y prif nodwedd ddaearegol yw'r ffalt a red o Arran hyd at Stonehaven ac mae'r creigiau sydd i'r gogledd o'r ffin hwn (sef Ucheldir yr Alban) yn hen iawn ac yn perthyn i gyfnod Cambriaidd a Chyn-Gambriaidd.
Mae'r iseldir yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol; mae gogledd yr iseldir yn perthyn i'r Paleogen a'r de'n perthyn i'r cyfnod Silwraidd, sef 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Awdurdodau unedol[golygu | golygu cod y dudalen]
Dyma restr o awdurdodau unedol yr Alban a map sy'n dangos eu lleoliad yn y wlad:
Afonydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Y deg prif afon yn yr Alban, yn nhrefn eu hyd, yw:
- Afon Tay 120 milltir (190 km)
- Afon Spey 107 milltir (172 km)
- Afon Clud 106 milltir (171 km)
- Afon Tuedd 97 milltir (156 km)
- River Dee 85 milltir (137 km)
- River Don 82 milltir (132 km)
- Afon Forth 65 milltir (105 km)
- Afon Findhorn 63 milltir (101 km)
- Afon Deveron 61 milltir (98 km)
- Afon Annan 50 milltir (80 km)
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Hanes Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Dinistriodd y rhewlifoedd parhaus, a orchuddiai arwynebedd tir yr Alban yn llwyr, unrhyw olion o fodolaeth dynol yn ystod y cyfnod Oes Ganol y Cerrig. Credir i'r criwiau cyntaf o helwyr-gasglwyr gyrraedd yn yr Alban oddeutu 12,800 o flynyddoedd yn ôl, am fod yr iâ wedi diflannu wedi'r cyfnod rhewlifol olaf.[5][6]
Dechreuodd y setlwyr cyntaf adeiladu eu tai parhaol cyntaf yn yr Albaen tua 9,500 o flynyddoedd yn ôl, a gwelwyd y pentrefi cyntaf tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Daw'r pentref Skara Brae ar prif dir Orkney o'r cyfnod hwn. Mae cynefinoedd Neolithig, safleoedd claddu a defodau yn gyffredin iawn yn Ynysoedd y Gogledd ac Ynysoedd y Gorllewin, lle roedd prinder o goed wedi arwain at y rhan fwyaf o adeiladau'n cael eu codi o garreg.[7]
Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Siaradwyd y Frythoneg Ddwyreiniol o lannau'r Fife i lannau'r Hafren a Chynfeirdd o ddeheudir yr Alban oedd Taliesin ac Aneirin. Arweinydd o Fanaw Gododdin yn Nyffryn y Forth oedd Cunedda yn ôl yr hanes, sef sefydlydd Teyrnas Gwynedd. Roedd cryn gyfathrach a mynd-a-dod rhwng Cymru a'r Alban hefyd yn Oes y Seintiau: mae Cyndeyrn (Saesneg: Mungo) yn dal i gael ei gofio yn Llanelwy ac yn Glasgow.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014
- Ucheldiroedd yr Alban
- Iseldiroedd yr Alban
- Rhestr ardaloedd cyfrifiad yr Alban
- Rhestr o lefydd yn yr Alban o ran poblogaeth
- Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn yr Alban
- Rhestr llynnoedd yr Alban
- Rhestr copaon yr Alban
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwyddoniadur Cymru t. 31; Gwasg y Brifysgol; 2008
- ↑ Whitaker's Almanack (1991) Llundain: J. Whitaker and Sons.
- ↑ Geiriadur yr Academi, t. 535.
- ↑ Munro, D (1999). Scotland Atlas and Gazetteer. Harper Collins. pp. 1–2.
- ↑ Y dystolaeth cynharaf y gwyddir amdano ydy pen saeth fflint o Islay. Gweler Moffat, Alistair (2005) Before Scotland: The Story of Scotland Before History. London. Thames & Hudson. Tudalen 42.
- ↑ Mae safleoedd yn Cramond i 8500 CC a ger Kinloch, Rùm o 7700 CC yn darparu tystiolaeth fod bod dynol wedi trigo yn yr Alban. Gweler "The Megalithic Portal and Megalith Map: Rubbish dump reveals time-capsule of Scotland's earliest settlements" megalithic.co.uk. Adalwyd ar 10-02-2008 a Edwards, Kevin J. a Whittington, Graeme "Vegetation Change" in Edwards, Kevin J. & Ralston, Ian B.M. (Eds) (2003) Scotland After the Ice Age: Environment, Archaeology and History, 8000 BC–AD 1000. Edinburgh. Edinburgh University Press. Tudalen 70.
- ↑ (2003) Britain BC. London: HarperPerennial. ISBN 978-0007126934
| ||||||||
| ||||||||||||||
