The Guardian

Oddi ar Wicipedia
The Guardian

Tudalen blaen The Guardian o fis Hydref 2009.
Math Papur dyddiol
Fformat Berliner
Perchennog Guardian Media Group
Golygydd Katharine Viner
Sefydlwyd 1821
Ymochredd gwleidyddol Canol-chwith
Iaith Saesneg
Pencadlys Kings Place, 90 York Way, Llundain N1 9GU
Cylchrediad 226,473[1]
Chwaer-bapurau newyddion The Observer,
The Guardian Weekly
ISSN Nodyn:Dolen chwilio ISSN
Rhif OCLC 60623878
Gwefan swyddogol (Saesneg) www.guardian.co.uk
Cost £1

Mae The Guardian yn bapur newydd cenedlaethol Prydeinig sy'n rhan o'r Guardian Media Group. Fe'i cyhoeddir yn ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn y fformat Berliner. Hyd at 1959 ei enw oedd The Manchester Guardian, yn adlewyrchu ei wreiddiau rhanbarthol; weithiau mae'r papur yn dal yn cael ei gyfeirio ato dan yr enw hwn, yn enwedig yng Ngogledd America, er ei fod wedi'i sefydlu yn Llundain ers 1964. (Mae gan y papur wasg argfraffu yn y ddwy ddinas).

Mae'r Guardian yn un o'r papurau newydd sy'n cydweithredu gyda WikiLeaks i gyhoeddi detholiadau o'r dogfennau cyfrinachol a gyhoeddir ar y wefan honno, yn cynnwys "Cablegate".

Atodlenni a Nodweddion[golygu | golygu cod]

Ar bob diwrnod gwaith mae The Guardian yn gynnwys yr atodlen G2 sy'n cynnwys erthyglau, colofnau, amserlenni teledu a radio, a'r croesair cyflym. Ers newid i'r fformat Berliner, mae yna adran chwaraeon (Sport) dyddiol ar wahân. Mae atodlenni wythnosol eraill yn cynnwys:

Dydd Llun
MediaGuardian, Office Hours
Dydd Mawrth
EducationGuardian
Dydd Mercher
SocietyGuardian (ymdrin â'r sector cyhoeddus Prydeinig a materion cysylltiedig)
Dydd Iau
TechnologyGuardian
Dydd Gwener
Film & Music
Dydd Sadwrn
The Guide (cylchgrawn amserlenni), Weekend (atodlen liw), Review (llenyddiaeth), Money, Work, Rise (ymdrin â gyrfaoedd ar gyfer graddedigion), Travel, Family

Gwobrwyon llenyddolawddogaeth lenyddol[golygu | golygu cod]

Mae The Guardian yn hyrwyddo dwy wobr lenyddol fawr: y Guardian First Book Award, a sefydlodd yn 1999 fel olynydd i'r Guardian Fiction Award (a redodd ers 1965), a'r Guardian Children's Fiction Prize, a sefydlodd yn 1967. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r papur hefyd wedi hyrwyddo Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll.

Golygyddion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]