Gogledd America


Mae Gogledd America yn gyfandir yn hemisffer gogleddol a hemisffer gorllewinol y Ddaear, wedi'i ffinio i'r gogledd gan y Cefnfor Arctig, ar y dwyrain gan gogledd y Cefnfor Iwerydd, ar y dde-dwyrain gan Môr y Caribi, ac ar y dde a'r gorllewin gan gogledd y Cefnfor Tawel. Mae gan Ogledd America arwynebedd o 24,480,000 km² (9,450,000 mi sg), neu tua 4.8% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2002, credir bod y boblogaeth yn fwy na 514,600,000. Dyma'r trydydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia ac Affrica) a'r pedwerydd o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica ac Ewrop).
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif erthygl: Hanes Gogledd America
Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd Gogledd America yn sicr (Newfoundland) oedd y Llychlynwyr, wnaeth galw'r ardal yn Vinland. Cyrrhaeddon nhw yna tua 1000. Er iddyn nhw sefydlu gwladfeydd yno, ni adawon nhw ryw lawer o farc ar y cyfandir.
Ar ôl mordaith Christopher Columbus yn 1492, y Sbaenwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd ac aros. Enillon nhw reolaeth dros ran fwyaf o ynysoedd mwyaf y Caribi a gorchfygon nhw'r Asteciaid, ac felly cymryd dros Mecsico a Chanolbarth America.
Y gwladfeydd Seisnig cyntaf oedd Jamestown a Plymouth Rock, yn nhaleithiau Virginia a Massachusetts heddiw. Y gwladfeydd llwyddiannus Ffrengig cyntaf oedd Port Royal (1604) a dinas Québec (1608), yn nhaleithiau Nova Scotia a Québec heddiw.
Economi
[golygu | golygu cod]| Poblogaeth: | 495.4 miliwn |
| CMC (PPP): | US$12.409 triliwn |
| CMC (Pres): | $11.865 triliwn |
| CMC/pen (PPP): | $25,263 |
| CMC/pen (Pres): | $24,155 |
| Cynnydd blynyddol yn CMC y pen: |
1.84% (1990-2002) |
| Incwm y 10% top: | 32.9% |
| Miliwnyddion: | 2.7 miliwn (0.5%) |
| Amcangyfrif incwm benywaidd | 55.7% o'r incwm gwrywaidd |
Rhannwyd economi Gogledd America rhwng Canada ac Unol Daleithiau America, dwy o wledydd mwyaf cyfoethog y byd, a chenhedloedd Canolbarth America a'r Caribi, sydd, er nad yn dioddef o economïau gwael, yn wledydd llai economaidd ddatblygol.
Mae Cytundeb Masnach Rydd Canolbarth America (CAFTA) yn gytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a gwledydd Canolbarth America: Costa Rica, Gwatemala, El Salfador, Hondwras a Nicaragwa. Amcan y gytundeb yw i hybu masnach rydd rhwng yr aelodau. Mae Canada a Mecsico yn trafod aelodaeth. Mae Cytundeb Masnach Rydd Gogledd America (NAFTA) yn gytundeb rhwng Canada, Mecsico a'r Unol Daleithiau i ddileu tollau ar nwyddau a fasnachir rhynddynt.
Gwledydd Gogledd America
[golygu | golygu cod]
- Bahamas
- Belîs
- Canada
- Costa Rica
- Ciwba
- Gweriniaeth Dominica
- El Salfador
- Gwatemala
- Haiti
- Hondwras
- Jamaica
- Mecsico
- Nicaragwa
- Panama
- Unol Daleithiau America
- Y Lasynys
| Rhanbarthau'r Ddaear | |||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
| ||||||||||||||||||||||||
| Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear | |||||||||||||||||||||||||
