Cefnfor
Delwedd:World ocean map.gif, Ocean beach at low tide against the sun.jpg | |
Math | gwrthrych daearyddol naturiol, corff o ddŵr, marine water body, saline water body ![]() |
---|---|
Y gwrthwyneb | cyfandir ![]() |
Yn cynnwys | seawater, môr ![]() |
![]() |
Cefnforoedd y Ddaear |
---|
(Cefnfor y Byd) |
Corff mawr o ddŵr hallt a phrif ran o'r hydrosffer yw cefnfor. Gorchuddir tua 71% o wyneb y Ddaear (tua 361 miliwn km2) gan gefnfor, corff di-dor o ddŵr sydd yn aml yn cael ei rannu'n nifer o brif gefnforoedd a moroedd llai. Mae dros hanner o'r arwynebedd hwn yn fwy na 3000 m o ddyfnder. Halwynedd cefnforol cyfartalog yw tua 35 rhan y fil, ac mae gan bron i holl ddŵr môr y byd halwynedd o fewn yr amrediad o 31 i 38 rhan y fil.
Cytunodd y Sefydliad Hydrograffig Rhyngwladol yn 2000 i gydnabod pum cefnfor: Cefnfor yr Arctig, Cefnfor y De, Cefnfor yr Iwerydd, Cefnfor India, a'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o sefydliadau ac unigolion yn defnyddio modelau amrywiol.
Rhanbarthau'r Ddaear | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
| ||||||||||||||||||||||||
Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear |