Dwyrain Affrica

Dwyrain Affrica (isranbarth CU) Cymuned Dwyrain Affrica Ffederasiwn Canolbarth Affrica (marw) daearyddol, yn cynnwys yr uchod
Rhanbarth mwyaf dwyreiniol cyfandir Affrica yw Dwyrain Affrica neu Affrica Dwyreiniol. Mae'r isranbarth Cenhedloedd Unedig yn cynnwys y gwledydd a'r tiriogaethau canlynol fel rhan o Affrica Dwyreiniol:
- Cenia, Tansanïa, a Wganda – hefyd yn aelodau Cymuned Dwyrain Affrica (EAC)
- Jibwti, Eritrea, Ethiopia, a Somalia – sef Corn Affrica
- Mosambic a Madagasgar – weithiau ystyrir fel rhan o Dde Affrica
- Malaŵi, Sambia, a Simbabwe – weithiau ystyrir fel rhan o Dde Affrica ac yn flaenorol yn Ffederasiwn Canolbarth Affrica
- Bwrwndi a Rwanda – weithiau ystyrir fel rhan o Ganolbarth Affrica
- Comoros, Mawrisiws, a Seychelles – gwledydd ynysoedd bach yng Nghefnfor India
- Réunion a Mayotte – tiriogaethau tramor Ffrengig hefyd yng Nghefnfor India
Yn ddaearyddol, mae'r Aifft a Swdan weithiau'n cael eu cynnwys yn y rhanbarth yma.
Gwelwch hefyd[golygu | golygu cod]
Rhanbarthau'r Ddaear | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
| ||||||||||||||||||||||||
Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear |