Gorllewin Affrica

Oddi ar Wicipedia
     Gorllewin Affrica (isranbarth CU)      Maghreb

Rhanbarth mwyaf gorllewinol cyfandir Affrica yw Gorllewin Affrica neu Affrica Orllewinol fel y'i gelwir weithiau. Yn ddaearwleidyddol, diffinnir y rhanbarth gan y Cenhedloedd Unedig fel y 16 gwlad canlynol:

Mae'r Maghreb, gair Arabeg sy'n golygu "gorllewinol", yn rhanbarth yng ngogledd-orllewin Affrica sy'n cynnwys Moroco ( a Gorllewin Sahara), Algeria, Tiwnisia, ac (weithiau) Libia (gwelwch Gogledd Affrica). Nid yw'n cael ei hystyried yn rhan o Orllewin Affrica oherwydd gwahaniaethau sylweddol mewn iaith, diwylliant a hanes, er bod yr hen lwybrau masnach traws-Saharaaidd ac Islam, i ryw raddau, yn ddolen gyswllt rhwng y rhanbarthau hyn.

Mae'r isranbarth CU hefyd yn cynnwys ynys Sant Helena, tiriogaeth dramor Prydeinig yn ne'r Cefnfor Iwerydd.