Cefnfor yr Arctig
| Cefnforoedd y Ddaear |
|---|
| (Cefnfor y Byd) |
Y cefnfor sydd o gwmpas Pegwn y Gogledd yw Cefnfor yr Arctig. Mae e wedi ei lleoli rhwng Norwy, Rwsia, Alaska (rhan o Unol Daleithiau America), Canada, Yr Ynys Las a Gwlad yr Iâ.
Y moroedd sydd yn perthyn i'r Cefnfor Arctig yw Môr Norwy rhwng Norwy a'r Ynys Las, Môr Barents i'r gorllewin o Novaya Zemlya (ynys fawr sy'n perthyn i Rwsia), Môr Kara i'r dwyrain o'r ynys honno, Môr Laptev i'r gorllewin o Ynysoedd Novosibirskiye, a Môr Dwyrain Siberia oddi ar arfordir dwyrain Rwsia. Yng ngogledd America mae Môr Beaufort yn perthyn iddo.
Ynysoedd mwyaf Cefnfor yr Arctig yw: Spitsbergen (Norwy), Tir Franz Josef, Novaya Zemlya, Severnaya Zemlya, Ynysoedd Novosibirskiye ac Ynys Wrangel (i gyd yn perthyn i Rwsia), yn ogystal ag Ynys Victoria, Ynysoedd Parry ac Ynys Ellesmere (y tair ohonyn nhw yn perthyn i Ganada).
Mae Cefnfor yr Arctig yn cysylltu i Gefnfor Iwerydd rhwng cyfandir Ewrop a'r Ynys Las a hefyd trwy dyfrffyrdd niferus rhwng ynysoedd gogledd Canada sy'n cysylltu â Chulfor Davis rhwng Yr Ynys Las a Chanada. Ceir cysylltiad arall i'r Cefnfor Tawel trwy Culfor Bering.
Dyfnder mwyaf y cefnfor hwn yw 5,220 m, a maint ei arwyneb yw tua 12.26 miliwn km². Mae pacrew pegynol arno yn y gogledd ac mae rhew yn drifftio bron ar ei hyd.
| Rhanbarthau'r Ddaear | |||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
| ||||||||||||||||||||||||
| Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear | |||||||||||||||||||||||||