Neidio i'r cynnwys

Halen

Oddi ar Wicipedia
Halen
Enghraifft o:cynhwysyn, cymysgedd Edit this on Wikidata
Mathcynhwysyn bwyd, sbeis, cadwolyn bwyd Edit this on Wikidata
Deunyddhalite, rock salt Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssodiwm clorid, impurity, ychwanegyn bwyd, anticaking agent, potasiwm ïodid Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/05g0_z edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfansoddyn cemegol gwyn yw halen a'r enw cemegol arno yw sodiwm clorid (fformiwla NaCl). Defnyddir halen i roi blas ar fwyd ac i gadw (neu brisyrfio) cigoedd. Mae ychydig ohono'n hanfodol i gynnal dyn ac anifeiliaid byw, ond mae gormod yn wael i'r iechyd, neu hyd oed angheuol.

Gweithiwr yn trin halen yn Marakkanam in Tamil Nadu
Halen

Amrywiol ddefnydd

[golygu | golygu cod]
Halen Môn ar werth yn eu siop ym Mrynsiecyn, Ynys Môn; Mehefin 2025

Defnyddir ef i ddadlaith rhew ar y ffyrdd.

Dyma gofnod yn nyddiadur William Jones Moelfre, Aberdaron[1]:

28 Mai 1884: sych Gorphen torri tywyrch cwt 5 Hau halen yn Cae'r Afon

Mae’n son llawer am "nôl halen", fel arfer yn yr hydref - ond "hau halen"? Beth a olygai - a’r dyddiad ynghanol y tymor? A thybed a oes a wnelo tyddyn Cae Halen Bach ym mhlwyf Llandwrog rhywbeth â’r cwestiwn. Mae yna lawer o enghreifftiau o enwau tebyg ar hyd a lled Cymru.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tywyddiadur Llên Natur[www.llennatur.cymru]
Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.