Aberdaron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°48′29″N 4°42′36″W / 52.808°N 4.710°W / 52.808; -4.710

Aberdaron
Aberdaeron general view, Wales.JPG
Gwesty Tŷ Newydd ar y traeth yn Aberdaron
Aberdaron is located in Gwynedd
Aberdaron

 Aberdaron yn: Gwynedd
Poblogaeth 1,019 (2001)
Cyfeirnod grid yr AO SH1726
Cymuned Aberdaron
Sir Gwynedd
Sir seremonïol Gwynedd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost PWLLHELI
Rhanbarth cod post LL53
Cod deialu 01758
Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Dwyfor Meirionnydd
Cynulliad Cymru Dwyfor Meirionnydd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd

Pentref glan môr a chymuned yng ngorllewin Llŷn, Gwynedd yw Aberdaron. Cyfeirnod OS: SH 84612 10067. Fel y pentref agosaf at Ynys Enlli yr oedd yn gyrchfan bwysig i bererinion yn yr Oesoedd Canol. Sefydlwyd clas yno yn Oes y Seintiau.

Yr eglwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron

Mae rhannau o eglwys y plwyf, sydd wedi ei chysegru i Sant Hywyn, yn dangos enghreifftiau diddorol o waith o'r cyfnod Normanaidd, sy'n gysylltiedig â theyrnasiad Gruffudd ap Cynan yn ôl pob tebyg. Mae cofnod am Gruffudd ap Rhys o Ddeheubarth yn cael noddfa yno pan oedd Gruffydd ap Cynan yn ceisio'i ddal. Bu'r bardd R. S. Thomas yn ficer yma am rai blynyddoedd. Gŵr enwog arall fu'n gysylltiedig ag Aberdaron oedd Dic Aberdaron, yr ysgolhaig a'r crwydryn. Heb fod ymhell o'r pentref mae bryngaer fechan Castell Odo.

Y môr a'r traeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Datblygodd Aberdaron yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid gan greu problemau mawr gyda'r farchnad dai wrth i nifer gynyddol o ymwelwyr o'r tu hwnt i Glawdd Offa brynu tai i'w defnyddio fel tai haf. Yn ddiweddar gwerthwyd bwthyn glan-môr pren yn y pentref am £60,000. Ond mae'r diwydiant pysgota yn parhau yno hefyd, yn enwedig pysgota am gimychiaid. Gellir cael cwch i Ynys Enlli o Borth Meudwy, ryw filltir o'r pentref.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberdaron (pob oed) (965)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberdaron) (695)
  
74.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberdaron) (668)
  
69.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberdaron) (157)
  
37.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: