Llangywer

Oddi ar Wicipedia
Llangywer
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.877°N 3.63°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000081 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan a chymuned ym Meirionnydd, Gwynedd, Cymru, yw Llangywer ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd Llangywair; llygriad Saesneg: Llangower).[1] Saif Llangywer ar lan ddeheuol Llyn Tegid, tua 3 milltir a hanner i'r de o'r Bala a llai na chilometr o Lanuwchllyn. Rhed trac Rheilffordd Llyn Tegid trwy Llangywair, a cheir gorsaf yno. Yn 2011 roedd poblogaeth y gymuned hon yn 260.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[3]

Eglwys y Santes Cywair

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Saif Castell Gronw ger y pentref, hen domen o'r Oesoedd Canol.

Yn yr Oesoedd Canol bu Llangywair yn un o dri phlwyf cwmwd Uwch Tryweryn yng nghantref Penllyn. Noda Cwm Cynllwyd, sy'n codi i gyfeiriad Bwlch y Groes, ffin orllewinol y plwyf, sy'n codi i'r dwyrain i fryniau deheuol Y Berwyn. Mae'n ardal fynyddig iawn gyda'r rhan fwyaf o'r anneddau'n gorwedd ar y llain o dir isel ar lan Llyn Tegid.

Bu'r bardd Euros Bowen yn reithor yma am flynyddoedd. Efallai fod Llangywer yn fwyaf adnabyddus am y gân werin draddodiadol:

Ffarwel i blwy Llangywer
A'r Bala dirion deg ..

Eglwys Santes Cywair[golygu | golygu cod]

Cysegrir eglwys y plwyf i santes leol o'r enw Cywair. Ni wyddom ddim amdani o gwbl, ond credir fod llun dychmygol ohoni ar ffenestr liw dwyreiniol yr eglwys.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Ceir cofnod am yr eglwys hon yn Taxatio 1291. Cofnodwyd i John Wynne ymweld â'r lle yn 1729. Yn ôl Cadw, 'St. Gwawr' yw'r enw cywir.[4] Mae colofnau'r eglwys yn dyddio'n ôl i'r 15g os nad cynt. Caewyd y drysau am y tro olaf yn 2003 gan mai dim ond tri aelod oedd gan yr eglwys.[5]

Ceir ffynnon sanctaidd gerllaw - Ffynnon Gywair - a orchuddir gan garreg a enwir yn Llech Cywair. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl werin am foddi'r deyrnas lle saif Llyn Tegid heddiw, esgeuluso rhoi'r garreg yn ôl ar y ffynnon a barodd iddi orlifio a boddi'r hen deyrnas, gan ffurfio'r llyn.[6] Dyddia eglwys Llangywer o'r 13g, ond cafodd ei hail-adeiladu yn 1871.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangywer (pob oed) (260)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangywer) (170)
  
67.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangywer) (170)
  
65.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llangywer) (21)
  
19.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Defnyddir sillafiad Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 549
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. British Listed Buildings adalwyd 25 Medi 2014
  5. Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri Archifwyd 2015-09-13 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 25 Medi 2014
  6. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001), tud. 184.
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]