Neidio i'r cynnwys

Llandderfel

Oddi ar Wicipedia
Llandderfel
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,086, 1,052, 1,095 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.922°N 3.516°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000071 Edit this on Wikidata
Cod OSSH980371 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref gwledig a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llandderfel[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn nwyrain y sir tua 3 milltir i'r dwyrain o'r Bala. Mae plwyf Llandderfel yn un o bump plwyf Penllyn. Mae'n gorwedd yn rhan uchaf Dyffryn Edeirnion yn agos i'r Sarnau a Chefnddwysarn, wrth odre'r Berwyn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Poster o gyfarfod cyhoeddus yn Llandderfel, Mai 1895
Yr hen bont dros afon Dyfrdwy ger Llandderfel
Llandderfel: adeilad yr hen ysgol

Hanes yr eglwys

[golygu | golygu cod]

Mae eglwys Llandderfel yn hen ac wedi'i chysegru i Sant Derfel Gadarn (fl. 6g efallai). Ceir yma ffenest liw nodedig iawn gan James Powell a'i fab, sy'n dyddio i 1890.[5] Yn y porth gwelir ceffyl pren derw hynafol. Ar un adeg roedd y sant yn marchogaeth y ceffyl ond yn ystod y Diwygiad Protestannaidd cymerwyd delw'r sant a'i ffon a'u cludo i Lundain lle cawsent eu defnyddio i losgi offeiriad Catholig ar y Bryngwyn ar orchymyn Thomas Cromwell. Yn rhyfedd iawn roedd hyn yn cyflawni hen broffwydoliaeth y byddai'r ddelw ryw ddydd yn llosgi coedwig gyfan: enw'r offeiriad druan oedd 'Mr Forest'.

Roedd yn arfer gan y plwyfolion orymdeithio gyda'r sant ar ei geffyl pren i fyny i ben allt leol a elwir Bryn y Saint. Credid fod y ddelw'n gallu iachau'r claf. Ceir Ffynnon Dderfel ger yr eglwys.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandderfel (pob oed) (1,095)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandderfel) (708)
  
67.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandderfel) (727)
  
66.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandderfel) (131)
  
30%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5.  Church of St Derfel, Llandderfel, Gwynedd, formerly in Merioneth. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 5 Mai 2012.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.