Neidio i'r cynnwys

Bryn-crug

Oddi ar Wicipedia
Bryn-crug
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth622, 600, 626 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,108.17 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6089°N 4.0561°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000054 Edit this on Wikidata
Cod OSSH607032 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddGwynedd Maldwyn
Etholaeth y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Bryn-crug[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ), weithiau Bryncrug.[2] Saif y pentref i'r gogledd ddwyrain o dref Tywyn, ger cyffordd y briffordd A493 a'r B4405. Llifa Afon Dysynni ychydig i'r gorllewin.

I'r de-orllewin o'r pentref mae plasdy Ynysymaengwyn; mae'r plasdy a godwyd yn 1758 bellach wedi ei ddymchwel. I'r de o'r pentref mae castell mwnt a beili Cynfal, a godwyd yn 1137 gan Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd. Saif Castell Crug sef hen domen o'r Oesoedd Canol tua kilometr i'r de ddwyrain o'r pentref.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bryn-crug (pob oed) (622)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bryn-crug) (316)
  
52.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bryn-crug) (323)
  
51.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bryn-crug) (114)
  
39.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. ↑ British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
  3. ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato