Dinas Mawddwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr olygfa o Fwlch y Groes i gyfeiriad Dinas Mawddwy
Y Capel Wesleaidd ar y Stryd Fawr yn Ninas Mawddwy.

Pentref yn ne-ddwyrain Gwynedd yw Dinas Mawddwy sy'n gorwedd fymryn oddi ar y ffordd A470, lle mae'r ffordd fechan i bentref Llanuwchllyn yn gadael yr A470 i ddringo dros Fwlch y Groes, y bwlch uchaf yng Nghymru sydd a ffordd fodur drosto. O'r pentref mae'r ffordd yma yn arwain i'r gogledd trwy Gwm Cywarch i gyfeiriad Aran Fawddwy. Mae'r pentref gerllaw Afon Dyfi. Daw'r enw oddi wrth hen gwmwd Mawddwy, oedd ar un adeg yn deyrnas annibynnol.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf reilffordd, ar Reilffordd Mawddwy oedd yn gwasanaethu chwareli llechi ym Minllyn ac Aberangell. Yn yr ardal yma yr oedd Gwylliaid Cochion Mawddwy yn byw, ac yn Nugoed Mawddwy heb fod ymhell o'r pentref y llofruddiwyd y Barwn Lewys ab Owain, Siryf Sir Feirionnydd, ganddynt yn 1555. Dywedir fod Gwesty'r Llew Coch yn y pentref yn dyddio i'r 12g.

Ychydig i'r gorllewin mae mynydd Maesglase, a rhwng Dinas Mawddwy a'r mynydd mae Cwm Maesglasau, lle roedd yr emynydd a bardd Hugh Jones, Maesglasau (1749-1825) yn byw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]