Bethesda

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bethesda
Bethesda winter.jpg
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.1794°N 4.0603°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000049 Edit this on Wikidata
Cod OS SH624667 Edit this on Wikidata
Cod post LL57 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Sian Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au Hywel Williams (Plaid Cymru)
Erthygl am bentref yng Ngwynedd yw hon. Gweler hefyd Bethesda (gwahaniaethu).

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, yn Nyffryn Ogwen, a enwyd ar ôl Capel Bethesda. Mae ei thrigolion yn aml yn cyfeirio ati fel Pesda. Cyfeirnod OS: SH 62262 66779. Mae Caerdydd 193.8 km i ffwrdd o Bethesda ac mae Llundain yn 334.4 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 18.6 km i ffwrdd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Hen ffotograff o Fethesda a'r chwarel yn y cefndir; 1885 gan John Thomas.

Bu pobl yn byw yn Nyffryn Ogwen am ganrifoedd cyn i Fethesda ei hun ddyfod, gyda phlwyf Llanllechid yn un o'r mannau mwyaf poblog. Ni dyfodd yr ardal nes agor Chwarel y Penrhyn yn yr 18g, gyda theulu Warburton yn berchen arni. Hyd heddiw, hi yw'r chwarel mwyaf yn y byd a wnaed heb beiriannau, ac yn ei hanterth cyflogai tua 5,000 o weithwyr, ac allforiai llechi o amgylch y byd; roedd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn cysylltu'r chwarel a dociau Porth Penrhyn, ger Bangor.

Er y bu sawl streic yn y chwarel yn yr 1880au a'r 1890au, mae'r dref yn enwog am Y Streic Fawr a fu rhwng 1900-3 wrth i weithwyr gael eu cau allan o'r chwarel wedi ffrae am gyflogau. Ym 1901 gadawyd unrhyw un a hoffai weithio ddychwelyd, gan greu rhwyg chwerw yn y pentref rhwng y streicwyr a'r 'cynffonwyr'. Er y daeth y streic i ben ym 1903 ni adfywiodd y pentref, wrth i'r diwydiant llechi ddirywio ac wrth i tua hanner ei phoblogaeth allfudo.

Pobl[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl cyfrifiad 2001 yr oedd 4,327 o bobl yn byw yng nghymuned Bethesda (sy'n cynnwys pentref Rachub ac ardal Gerlan), gyda 77.0% ohonynt yn medru'r Gymraeg. Ym 1991 roedd y ffigur hwn yn uwch, gydag oddeutu 80% o'r boblogaeth yn ei medru. Mae'r boblogaeth a'r canran sy'n medru'r Gymraeg wedi dirywio dros y ganrif ddiwethaf - ym 1901, yn ystod adeg y Streic Fawr, roedd tua deng mil o bobl yn byw yn yr ardal, gyda 99% ohonynt yn siarad Cymraeg, sef y ffigur uchaf yng Nghymru ar y pryd.

Ffugenw pobl Bethesda yw'r How Gets. Mae hyn yn deillio o'r ystrydeb bod pobl Bethesda â Saesneg gwael, a byddent wastad yn gofyn i deithwyr di-Gymraeg "How get you here?". Yn ddiweddarach mae gan ei phobl enw am fod ag acen "ymosodol" a chaletach na gweddill y cyffuniau.

Heddiw, mae gan bobl Bethesda ymwybyddiaeth gref am hanes eu pentref, yn enwedig o'r Streic Fawr. Bydd yr enw 'Penrhyn' (yn cyfeirio at deulu Penrhyn) dal yn corddi'r trigolion, a hyd yn oed canrif wedi'r Streic gwrthoda llawer ymweld â hen gartref y teulu hwnnw yng Nghastell Penrhyn.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyd heddiw Chwarel Y Penrhyn yw un o brif gyflogwyr y pentref, gyda thua 300 o weithwyr. Mae ffatri Austin Taylor's hefyd yn gyflogwr pwysig. Serch hyn, nid oes fawr o gyfleon i bobl ifanc yn y pentref, a bydd nifer yn gadael am lefydd fel Caerdydd a Manceinion. Mae llawer o'r boblogaeth yn gorfod comiwtio i'w gwaith, gan fod Bangor yn fan poblogaidd iddynt.

O ddydd i ddydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymraeg yw prif iaith y pentref, a fe'i gwelir a'i chlywir ymhobman. Mae Bethesda yn enwog am ddau beth yn benodol, sef y nifer o dafarndai yno a'r nifer o gapeli. Mae gan gymuned Bethesda wyth o dafarndai (chwech ohonynt yn y Stryd Fawr), a mae tri lle arall lle y gellid yfed. Yn wahanol i'r arfer, noson prysuraf Bethesda yw'r nos Sul. Mae nifer rhyfeddol o lefydd yn gwerthu prydau parod. Mae hefyd tair caffi yn y stryd fawr.

Mae tair ysgol gynradd yn y gymuned, ac un ysgol uwchradd sef Ysgol Dyffryn Ogwen, sydd â thua 400 o ddisgyblion a 30 o athrawon.

Llais Ogwan yw'r papur bro lleol, ac mae'n gwerthu tua 2000 o gopïau pob mis.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • David Ffrangcon Davies (1855-1918), cantor opera.
  • Caradog Prichard - nofelydd a bardd, a enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dair gwaith yn olynol.
  • R. Williams Parry - bardd enwog ac addfwyn. Un o'i gerddi enwocaf yw Eifionydd. Mae'r bardd wedi'i gladdu ym mynwent Coetmor.
  • Emrys Edwards - bardd ac offeiriad a enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1961 gyda'i Awdl Foliant i Gymru
  • Gruff Rhys - prif leisydd gyda Ffa Coffi Pawb, cyn symud ymlaen at y Super Furry Animals. Mae hefyd wedi rhyddau albwm ei hun.
  • John Ogwen - Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru.
  • Dafydd Orwig - Cynghorydd Plaid Cymru fu'n frwd dros addysg Gymraeg.
  • John Doyle - Gitarydd a cherddor a ddaeth i amlygrwydd fel un o'r deuawd Iwcs a Doyle.
  • Mikael Madeg - awdur Llydewig a fu'n byw ym Methesda am ddwy flynedd fel athro cynorthwyol Ffrangeg yn Ysgol Dyffryn Ogwan rhwng 1971 ac 1974.[1]
  • Ieuan Wyn - bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Madog 1987 gyda'i awdl "Llanw a Thrai."
  • Gwynfor ab Ifor - bardd a gipiodd gadair yr Eisteddfod genedlaethol yn Abertawe yn 2006 am ei awdl "Tonnau"

Trefi eraill o'r un enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Heblaw am y Bethesda wreiddiol yn y Beibl, mae yna un ar hugain o drefi o'r enw "Bethesda" yn Unol Daleithiau America a Chanada; y mwyaf enwog ohonynt yw Bethesda, Maryland (gweler Bethesda (gwahaniaethu)).

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bethesda (pob oed) (4,735)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bethesda) (3,501)
  
77.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bethesda) (3671)
  
77.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bethesda) (686)
  
33.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Mikael
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.