Dolydd

Oddi ar Wicipedia
Dolydd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.093257°N 4.286723°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Pentrefan bychan yng Nwyneddm Cymru, yw'r Dolydd. Saif ar lan yr Afonydd Carrog a Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r Groeslon. Saif ar bobtu'r ffin rhwng cymunedau Llanwnda a Llandwrog. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd yn gorwedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe orwedd y Dolydd ar lawr dyffryn bas Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]

Tafarn oedd 'Plas Dolydd', ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa "achos Bryn'rodyn", cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd Evan Jones, Plas Dolydd, yn adeiladydd a chontractor pwysig yng nghanol y 19g.

Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd Efail Dolydd, efail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganfif. Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.

Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle Melin Cil Tyfu, a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16fed ganrif. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben Edmund Glynn, un o feibion plas Glynllifon, ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.

Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad, yr Athro John Rowlands.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]