Llanfor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanfor
Llanfor Church - geograph.org.uk - 114627.jpg
Math gwrthrych daearyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.916°N 3.583°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH935366 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref ym Meirionnydd, Gwynedd ydy Llanfor ("Cymorth – Sain" ynganiad ), sy'n gorwedd llai na milltir o'r Bala i gyfeiriad Corwen. Yn hanesyddol bu'n ran o Sir Feirionnydd. Llanfawr oedd enw'r pentref yn wreiddiol, sy'n awgrymu fod y safle'n un pwysig o ran gweithgaredd eglwysig. Cyfeirir at yr eglwys leol fel 'Llanfor', a gysegrwyd i Sant Mor ap Ceuneu, ac yna'n ddiweddar: Sant Deiniol .[1] Roedd hefyd Frongoch Whiskey Distillery gerllaw ym mhentref Frongoch.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2][3]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hen gaer a gwersyll Rhufeinig wedi ei leoli gerllaw.[4] Yn ôl traddodiad, roedd cylch meini cynhanesyddol a elwid yn "Babell Llywarch Hen" yn sefyll ger yr eglwys.

Ceir yma hefyd Castell mwnt a beili (Cyfeirnod OS: SH 938368) sy'n dyddio yn ôl i'r 11g, mae'n debyg.

Capeli[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r capel wedi ei chysegru i Sant Deiniol. Mae hefyd dwy gapel arall, Sant Marc yn Fron Goch a 'Trinity' yn yr ardal. Gynt roedd hefyd 'Capel Llwyneinion' yn y pentref, sef capel y Methodistiaid Calfinaidd a'i adeiladwyd cyn 1800 a caewyd hi tua 1967.[1]

Eglwys Sant Mor a Sant Deiniol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar fapiau'r OS rhwng 1889 a 1901 cofnodir enw'r egwlys fel Sant Mor ond ei henw heddiw yw Sant Deiniol. Caewyd yr eglwys ac yn 2017 gwerthwyd hi i ddatblygwr preifat.[5] Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1874 yn lle'r eglwys Canoloesol a ddisgrifiwyd yn 1874 fel 'eglwys hynafol iawn ond mewn cyflwr gwael.'

Mae gan yr eglwys garreg yn ei thŵr gydag ysgrif o'r 6g:

'Yma y gorwedd Cavo, mab seiargios'.

Mae safle'r eglwys yn agos at olion Rhufeinig (NPRN 95489).

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato