Liz Saville Roberts
Gwedd
| Liz Saville Roberts AS | |
|---|---|
| Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd | |
| Yn ei swydd | |
| Dechrau 8 Mai 2015 | |
| Rhagflaenydd | Elfyn Llwyd |
| Mwyafrif | 4,850 (16%) |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 16 Rhagfyr 1965 Eltham, Llundain |
| Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
| Alma mater | Prifysgol Aberystwyth |
Aelod seneddol yn San Steffan yw Liz Saville Roberts (ganwyd 16 Rhagfyr 1965).[1] Mae hi'n Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd ers 8 Mai 2015, gan olynu'r cyn-AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd. Hi yw'r Aelod Seneddol benywaidd cyntaf yn hanes Plaid Cymru.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd ei geni yn Eltham, Llundain.[2] Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n briod â Dewi Roberts.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyn ei hethol yn Aelod Seneddol bu'n gweithio ym maes Addysg Bellach yng Nghanolfan Sgiliaith a Choleg Meirion Dwyfor. Bu hefyd yn Gyngorydd Sirol dros ward Nefyn ar Gyngor Gwynedd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Plaid Cymru. Adalwyd 8 Mai 2015
- ↑ "Election 2015: Meet the future female front bench stars of the 2015 Parliament", The Telegraph. Adalwyd 8 Mai 2015
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Elfyn Llwyd |
Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd 2015 – presennol |
Olynydd: deiliad |