Elfyn Llwyd
| Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd | |
|---|---|
| Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd Meirionnydd Nant Conwy (1992-2010) | |
| Yn ei swydd 9 Ebrill 1992 – 30 Mawrth 2015 | |
| Rhagflaenydd | Dafydd Elis-Thomas |
| Olynydd | Liz Saville-Roberts |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 26 Medi 1951 Betws-y-Coed, Sir Gaernarfon |
| Cenedligrwydd | |
| Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
| Gŵr neu wraig | Eleri Llwyd[1] |
| Alma mater | Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
| Gwaith | Bargyfreithiwr |
| Gwefan | Gwefan |
Gwleidydd o Gymru yw Elfyn Llwyd (ganwyd Elfyn Hughes, 26 Medi 1951). Roedd yn Aelod Seneddol o 1992 i 2015, gan gynnwys bod yn aelod dros Ddwyfor Meirionnydd rhwng 2010 a 2015, ac yn arweinydd seneddol Plaid Cymru.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Llwyd ym Metws-y-Coed, Gwynedd a fe'i magwyd yn Llanrwst. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna Prifysgol y Gyfraith Caer.[2]
Gweithiodd Llwyd fel cyfreithiwr ac yna bargyfreithiwr (galwyd i'r bar yn 1997) cyn cael ei ethol fel gwleidydd. Rhwng 1990 a 1991 roedd yn Lywydd Cymdeithas y Gyfraith Gwynedd.[2] Mae Llwyd yn briod a'r gantores werin Eleri Llwyd ac mae ganddynt ddau o blant[3] Mae ei ddiddordebau yn cynnwys magu colomennod, darllen, teithio a rygbi.[3]
Yn Rhagfyr 2013, ymddangosodd Llwyd ar rifyn Nadolig arbennig University Challenge ar BBC Two yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth.[4]
Fe’i apwyntiwyd yn aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Gyfunol yn 2011. Yn Chwefror 2019, fe'i benodwyd yn Gwnsler Cyffredinol cysgodol gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru. Gyda hyn roedd yn ymuno â aelodau Cynulliad y Blaid fel aelod o’r cabinet cysgodol.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.telegraph.co.uk/culture/3641431/A-quiet-life-on-the-fringes-of-power.html
- ↑ 2.0 2.1 "Elfyn Llwyd: Electoral history and profile". The Guardian (yn Saesneg).
- ↑ 3.0 3.1 "Plaid Cymru website". 23 Medi 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Hydref 2007.
- ↑ "Episode 3: Christmas 2013". bbc.co.uk. 23 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2013.
- ↑ Penodi Elfyn Llwyd yn gwnsler cyffredinol cysgodol. Plaid Cymru (19 Chwefror 2019).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2010-06-07 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) ePolitix.com - Elfyn Llwyd AS Archifwyd 2007-02-22 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Tudalen y Guardian ar Elfyn Llwyd Archifwyd 2001-05-28 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) TheyWorkForYou.com - Elfyn Llwyd AS
- (Saesneg) The Public Whip - Elfyn Llwyd AS
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Dafydd Elis-Thomas |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy 1992 – 2010 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
| Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd 2010 – 2015 |
Olynydd: Liz Saville-Roberts |