Cymry

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cymry
Cyfanswm poblogaeth
Rhwng 4.5–5 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Cymru: 2 583 746Yr Unol Daleithiau: 1.75 miliwnCanada: 350 365Awstralia: 84 567Yr Ariannin: 72 685Seland Newydd: 9 966
Ieithoedd
Cymraeg, Saesneg
Crefydd
Cristnogaeth, arall, dim
Grwpiau ethnig perthynol
Gwyddelod, Llydawyr, Saeson, Albanwyr, Cernywiaid, Manawyr

Cenedl a grŵp ethnig yw'r Cymry sydd yn gysylltiedig â'r iaith Gymraeg ac yn frodorion gwlad Cymru. Maent yn bobl Geltaidd ac yn un o genhedloedd Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Mae cenedl y Cymry yn un o'r rhai hynaf yn Ewrop, gyda'i hanes yn mynd yn ôl i amser yr hen Geltiaid.

Fel cenedl Geltaidd, mae'r Cymry yn perthyn yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol i'r Cernywiaid, y Llydawyr, y Gwyddelod, yr Albanwyr, a'r Manawyr.

Hyd at ddiwedd y 19g, roedd y mwyafrif helaeth o Gymry yn siarad yr iaith Gymraeg yn unig. Yn ogystal â'r newidiadau ieithyddol yng Nghymru, mae mewnlifiad gan grwpiau ethnig allanol wedi trawsnewid demograffeg y wlad o ran hil a chrefydd. Mae ystyr yr enw Cymry wedi newid pan yn cyfeirio at genedligrwydd sifig, ac yn crybwyll y newydd-ddyfodiaid hyn sydd yn mabwysiadu hunaniaeth Gymreig.

Enw ac ystyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Tarddiad yr enw Cymry[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwreiddyn yr enw Cymro yw'r gair Brythoneg Combrogos (lluosog: combrogi), enw'r Brythoniaid arnynt hwy eu hunain. Cyfuniad yw’r gair hwn o com (cyswllt neu berthynas) a bro (ffin neu derfyn), ac felly ystyr wreiddiol Cymro oedd cydwladwr.[1] Mae'r elfen bro yn parhau'n air am wlad neu ardal yn yr iaith fodern. Ymddengys y gair yn gyntaf mewn cerdd fawl i Cadwallon ap Cadfan[2] sydd o bosib yn dyddio o'r 7g. Diflanodd y b tua'r flwyddyn 600, ond mae'r mb wedi aros yn y ffurf Ladin am y wlad, Cambria, yn ogystal â'r enwau Cumbria a Cumberland yng ngogledd Lloegr.[3] Yr hen Gymry oedd brodorion gynt yr Hen Ogledd: o Gymbria yng ngogledd Lloegr ac o Ystrad Glud yn yr Alban. Cafodd Brythoniaid Cymru eu gwahanu oddi ar eu cydwladwyr yn Ystrad Glud gan Frwydr Caer (615/6), ac yn ddiweddarach y llwyth yng ngorllewin Ynys Prydain oedd y Cymry.

Am amser maith, Cymry oedd y sillafiad a ddynodai’r bobl a’u tiriogaeth ddaearyddol, o enau Dyfrdwy yn y gogledd hyd at Gas-gwent yn y de. Yn yr 16g mabwysiadwyd y sillafiad "Cymru" i ddynodi'r wlad gan neilltuo "Cymry" ar gyfer y trigolion.[4] Yn y 19g cadarnhaodd yr arfer orgraffyddol o wahaniaethu rhwng Cymry'r bobl a Chymru'r wlad.

Enwau tramor ar y Cymry[golygu | golygu cod y dudalen]

Y gair Germaneg walh neu wealh (estron) yw bôn yr enw Saesneg ar y Cymry. O'r un gair daw enw'r Walwniaid yng Ngwlad Belg. Defnyddid y ffurf luosog Wealas yn enw ar drigolion Brythoneg a Lladin eu hiaith ym Mhrydain gan y Saeson cynnar, a Cornwealas ar drigolion penrhyn Cernyw (y Corn). Dros amser daethpwyd y ffurfiau Wales a Welsh yn enwau'r Saesneg ar wlad a phobl Cymru.[3]

Diffinio'r Cymry[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyr hanesyddol y gair Cymry, a'i ystyr o hyd gan nifer o siaradwyr, yw siaradwyr Cymraeg brodorol neu gymathedig. Gelwir siaradwyr Cymraeg yr Ariannin o hyd yn Gymry’r Wladfa. Mewn modd tebyg, arferid cyfeirio at siaradwyr Saesneg, hyd yn oed os ydynt wedi treulio eu holl fywydau yng Nghymru, yn Saeson. Bellach, mae’n bosib i’r fath ddisgrifiad synio’n dramgwyddol neu’n fychanus, trwy awgrymu nad yw Cymry di-Gymraeg yn wir Gymry.

Yn yr 20g, dechreuid defnyddio "Cymry" yn gyfystyr â’r gair Saesneg Welsh i ddisgrifio trigolion Cymru, beth bynnag eu hiaith. Taenai’r arfer gan genedlaetholwyr Cymreig megis Ambrose Bebb. Erbyn yr 21g, disgrifiad o holl drigolion Cymru yw Cymry, a rennir yn Gymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg. Noda Geiriadur Prifysgol Cymru am "Cymro" ddiffiniad modern sy’n crybwyll iaith ond nid yn ei neilltuo: "Gŵr wedi ei eni o rieni Cymreig a'i fagu naill ai yng Nghymru neu o'r tu allan iddi, yn enw. un yn medru Cymraeg a'i hynafiaid yn Gymry; brodor o Gymru sy'n ei gyfrif ei hun yn aelod o'r genedl Gymreig heb fod o angenrheidrwydd o waedoliaeth Gymreig nac ychwaith yn medru'r iaith".[1]

Beirniada'r newid ystyr hwn yn llym gan yr academyddion Simon Brooks a Richard Glyn Roberts, sy’n ei weld "yn gyfystyr ag annilysu bodolaeth y Cymry fel grŵp ieithyddol cydlynol ystyrlon" ac yn "enghraifft arwyddocaol o natur synthetig, ormesol cenedligrwydd sifig Cymreig".[5] Dadleua Brooks a Roberts y dylsai’r iaith Gymraeg gadw ystyr draddodiadol yr enw, gan ddynodi siaradwyr Cymraeg yn unig beth bynnag eu tras neu fan geni.

Geneteg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl astudiaeth gymharol o DNA Saeson, Cymry, Norwyaid, a Ffrisiaid gan Michael E. Weale et al., mae'r Saeson yn rhannu perthynas amlwg â'r Ffrisiaid ac yn wahanol iawn i'r Cymry, sydd yn cadarnhau nad yw'r Saeson yn hanu'n bennaf o frodorion Prydain. Grŵp genetig oedd yr Eingl-Sacsoniaid felly ac nid diwylliant yn unig, a chafodd DNA trigolion Lloegr ei newid yn barhaol gan fewnlif ar o setlwyr Germanaidd ar raddfa eang. Mae nodweddion ar wahân DNA y Cymry yn awgrymu i etifeddiaeth genetig y Brythoniaid oroesi yng Nghymru.[6]

Delweddau allanol
Map o glystyru genetig ym mhoblogaeth y DU

Lluniwyd y map genetig manylaf o'r Deyrnas Unedig hyd yn hyn gan y prosiect "Pobl Ynysoedd Prydain", a gafodd ei gyllido gan y Wellcome Trust a'i arwain gan ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen, Coleg Prifysgol Llundain, a'r Murdoch Childrens Research Institute (Awstralia).[7][8][9] Casglwyd DNA gan 2,039 o bobl yng ngefn gwlad Lloegr, yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon, a chanddynt i gyd teidiau a neiniau a oedd yn byw o fewn 80 km i'w gilydd. Mae taid neu nain yn cyfrifo am 25% o genom yr unigolyn, felly roedd yr ymchwilwyr yn samplu DNA ar gyfer diwedd y 19g. Yn ogystal, casglwyd DNA gan 6,209 o bobl o 10 gwlad arall yn Ewrop. Cyhoeddwyd canlyniadau'r astudiaeth yn y cyfnodolyn Nature yn 2015. Gwelir tri chlwstwr genetig sydd yn unigryw i Gymru. Ymddangosai'r Cymry yn debycach i boblogaeth foreuaf Prydain, hynny yw y rhai a ymsefydlodd wedi diwedd Oes yr Iâ tua 11,000 o flynyddoedd yn ôl, nag unrhyw bobl arall yng ngwledydd Prydain. Sylwir bod ymfudiad sylweddol ar draws Môr Udd yn sgil y garfan gyntaf o setlwyr, a cheir olion DNA y bobl hon yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond heb fawr o effaith yng Nghymru. Ac eithrio Ynysoedd Erch, Cymru yw'r rhan o'r Deyrnas Unedig sydd fwyaf gwahanol i'r gweddill, ac mae'r wahaniaeth rhwng gogledd a de Cymru cymaint â'r wahaniaeth rhwng canolbarth a de Lloegr a gogledd Lloegr a'r Alban. Er bod y cenhedloedd Celtaidd i gyd yn wahanol i'r Saeson, maent hefyd yn wahanol iawn i'w gilydd, ac felly nid oes grŵp genetig unigol y gellir ei alw'n "Geltaidd". Mae'r Cernywiaid a'r Albanwyr yn perthyn yn agosach i'r Saeson nag ydynt i'r Cymry.[10]

O ran y wahaniaeth genetig rhwng Cymru'r gogledd a Chymry'r de, credir taw daearyddiaeth fynyddig Cymru sydd yn esbonio parhad y wahaniaeth ranbarthol hon, gan ei wneud yn anodd i bobl deithio o'r gogledd i'r de. Y ddaearyddiaeth hon hefyd a wnaeth rhwystro ymlediad genetig o Loegr, hynny yw DNA y Sacsoniaid, rhag cyrraedd y Cymry.[11] Ni chafwyd hyd i etifeddiaeth genetig ystyrlon gan y Rhufeiniaid, y Llychlynwyr, na'r Normaniaid yn y Cymry, nac yn wir mewn poblogaethau eraill y DU (ar wahân i Ynysoedd Erch, lle mae cyfran Lychlynnaidd o bwys yn DNA yr ynyswyr). Cafodd y tri chlwstwr genetig Cymreig eu dynodi gan yr ymchwilwyr yn "Gogledd Cymru", "Gogledd Sir Benfro", a "De Sir Benfro". Mae rhaniad y ddau glwstwr deheuol yn adlewyrchu ffin ieithyddol Sir Benfro: mae DNA y siaradwyr Cymraeg uwchben y ffin yn wahanol i'r siaradwyr Saesneg oddi tano. DNA "De Sir Benfro" sydd i'w gael yn ne ddwyrain Cymru a'r cymoedd. Yn ogystal, mae clwstwr "Gororau Cymru" sydd yn bennaf ar ochr Seisnig y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac enghreifftiau ohonno yn ne Cymru.[10]

Hunaniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

O ganlyniad i fewnfudo ers canol yr 20g, o Loegr yn bennaf, nid yw holl drigolion Cymru yn arddel hunaniaeth Gymreig. Mae rhai ymfudwyr yn cymhathu'n ddiwylliannol, trwy ddysgu'r Gymraeg neu drwy ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Mae eraill yn glynu at eu hunaniaeth enedigol, neu yn uniaethu â diwylliannau lluosog. Mae nifer o ymfudwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn mabwysiadu hunaniaeth Brydeinig ond nid Cymreig. Yn ôl Cyfrifiad 2011, tua 2 miliwn o breswylwyr Cymru a nododd eu bod yn Gymry, ac o'r rhain nododd 218,000 eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd. Nododd 424,000 eu bod yn Saeson a 519,000 eu bod yn Brydeinwyr yn unig.[12] Ceir cydberthyniad cryf rhwng siaradwyr Cymraeg ac hunaniaeth Gymreig. Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 25.4% o’r rhai a ddywedodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn gallu siarad Cymraeg. O'r rhai a ystyriodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig, 20.0% oedd yn gallu siarad Cymraeg. Dim ond 6% o'r rhai a ystyriodd fod eu hunaniaeth yn Seisnig yn unig a oedd yn gallu siarad Cymraeg.[13]

Cymdeithas a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Cymru

Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Credoau a mytholeg yr hen Geltiaid oedd crefydd y Cymry boreuaf. Cafodd Gymru ei Gristioneiddio yn gynnar yn hanes y genedl Gymreig. Ymledodd y ffydd o'r de ddwyrain, adeg y goncwest Rufeinig. Er i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig arwain at ddyfodiad i baganiaeth mewn rhannu eraill Ewrop, goroesodd Gristnogaeth yng Nghymru trwy Oes y Seintiau, o'r 5g i'r 8g. Adeiladwyd y Gymru Gristnogol ar seiliau'r hen grefydd: newidiwyd meini hirion yn groesau, cysegrwyd ffynhonnau a chysegroedd paganaidd i ffigurau Cristnogol, a chodwyd mannau addoli ar safleoedd cylchoedd cerrig. Datblygodd grefydd oedd yn unigryw i'r Cymry, drwy drefn y clas a'r llan a'r mwyafrif o eglwysi yn gysylltiedig â seintiau lleol neu genedlaethol.

O oresgyniadau'r Normaniaid yn y de, trwy'r goncwest Edwardaidd hyd at Ddeddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru (1536 a 1542), cafodd yr eglwys yng Nghymru ei seisnigo'n fwyfwy a'i gwneud yn ddarostyngedig i angenion y Goron a'r pendefigion yn Lloegr, yn ogystal â'r bonedd Eingl-Gymreig. Cyfnod o adnewyddiad a chadarnhâd oedd yr 16g i'r rhan helaethaf o'r Gristionogaeth, adeg y Diwygiad Protestannaidd a'r Gwrth-Ddiwygiad. Er gwaethaf, noda crefydd yng Nghymru yn ystod oes y Tuduriaid gan ddirywiad yr urddau mynachaidd, cau'r mynachlogydd a'r siantrïau, a phwyslais ar weinyddiaeth ymhlith yr offeiriadaeth yn hytrach na diwinyddiaeth. O ganlyniad i sawl reswm, ni chyrhaeddodd Gymru wir ddylanwad y Diwygiad tan y 18g.[14] Yn swyddogol, cafodd y boblogaeth ei droi'n Brotestaniaeth ac yn rhan o Eglwys Loegr. Newidiwyd iaith y litwrgi o Ladin, iaith estron ond cyfarwydd, i'r Saesneg, iaith anhysbys y gorchfygwr. Credai nifer o Gymry eu bod yn cael eu troi'n hereticiaid drwy eu gorfodi i ddilyn "Ffydd y Saeson".[15] Y rhodd fwyaf i'r genedl Gymreig yn y cyfnod, yn nhermau ieithyddol a diwylliannol yn ogystal â chrefyddol, oedd y Beibl Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd gan yr Esgob William Morgan ym 1588. Erbyn 1603, roedd y mwyafrif helaeth o Gymry yn mynychu gwasanaethau Anglicanaidd.

Yn yr 17g, trodd nifer o Gymry at enwadau a mudiadau newydd, gan gynnwys y Bedyddwyr, y Brygowthwyr, y Piwritaniaid, a'r Crynwyr. Cafodd nifer o arferion y Piwritaniaid effaith barhaol ar grefydd y Cymry: addoli yn y tŷ, myfyrdod unigol, moeseg waith gryf, a sabathyddiaeth. O ganlyniad i'r newidiadau yn y ffydd sefydledig trwy gydol y ganrif, bu'n rhaid i rai Cristnogion ffoi i osgoi erledigaeth. Ymfudodd nifer o Grynwyr Cymreig i Bensylfania yn sgil Deddf y Crynwyr 1662. Daeth y Ddeddf Goddefiad i rym ym 1689, gan alluogi enwadau ar wahân i Eglwys Loegr i godi mannau addoli. Ffynodd anghydffurfiaeth yng Nghymru yn ystod y ddwy ganrif olynol, gan greu traddodiad cryf a gafodd ddylanwad sylweddol ar y genedl Gymreig. Y Cymry oedd y genedl gyntaf i greu dosbarth gweithiol llythrennog, a hynny drwy ymgyrchoedd gan garfanau Cristnogol megis yr Ymddiriedolaeth Gymreig, y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol, a'r Ysgolion Cylchynol Cymreig.[16] Erbyn 1851, dim ond 9% o Gymry oedd yn mynychu eglwys y plwyf yn rheolaidd. Cyfrifid 25% o'r boblogaeth yn Fethodistiaid Calfinaidd, 23% yn Annibynwyr, 21% yn Anglicaniaid, 18% yn Fedyddwyr, a 13% yn Wesleaid.[17]

Yn yr 20g, bu gostyngiad syfrdanol yn y nifer o eglwyswyr a chapelwyr yng Nghymru. Trafodai sawl hanesydd yr olwg o Gymru "ôl-Gristnogol", a'r posibilrwydd o'r traddodiad anghydffurfiol yn diflannu'n gyfan gwbl.[18][19] Noda Glanmor Williams taw dyma'r tro cyntaf ers y 6g neu'r 7g i'r mwyafrif o drigolion Cymru beidio ag ystyried y ffydd Gristnogol yn elfen hanfodol o'u Cymreictod.[20]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1  Cymro. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2017.
  2. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CADWALLON AP CADFAN", tud. 112.
  3. 3.0 3.1 Bedwyr Lewis Jones. Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad) (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 4.
  4. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CYMRU (yr enw)", tud. 239.
  5. Simon Brooks a Richard Glyn Roberts (gol.), Pa beth yr aethoch allan i'w achub? (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2013), tt. 24–25.
  6. Michael E. Weale et al. "Y Chromosome Evidence for Anglo-Saxon Mass Migration", Molecular Biology and Evolution, cyfrol 19, rhifyn 7 (1 Gorffennaf 2002), tt. 1008–1021.
  7. "Population genetics", People of the British Isles, Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 15 Ebrill 2018.
  8. (Saesneg) "The first fine-scale genetic map of the British Isles", Coleg Prifysgol Llundain (19 Mawrth 2015). Adalwyd ar 15 Ebrill 2018.
  9. (Saesneg) "Who do you think you are? Most detailed genetic map of the British Isles reveals all", The Conversation (19 Mawrth 2015). Adalwyd ar 15 Ebrill 2018.
  10. 10.0 10.1 Stephen Leslie et al. "The fine-scale genetic structure of the British population", Nature 519, tt. 309–314 (19 Mawrth 2015).
  11. (Saesneg) "Welsh people could be most ancient in UK, DNA suggests", BBC (19 Mehefin 2012). Adalwyd ar 15 Ebrill 2018.
  12. "Cyfrifiad 2011: Hunaniaeth ac Ethnigrwydd", BBC (11 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.
  13. "Hunaniaeth genedlaethol", Statiaith. Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.
  14. John I. Morgans a Peter C. Noble, Our Holy Ground: The Welsh Christian Experience (Talybont: Y Lolfa, 2016), t. 58.
  15. Morgans a Noble, Our Holy Ground (2016), t. 65.
  16. Morgans a Noble, Our Holy Ground (2016), t. 91.
  17. Morgans a Noble, Our Holy Ground (2016), tt. 110–111.
  18. Morgans a Noble, Our Holy Ground (2016), t. 175.
  19. D. Gareth Evans, A History of Wales 1906–2000 (Caerdydd, 2000), t. 281.
  20. Glanmor Williams, The Welsh and Their Religion (Caerdydd, 1991) tt. 69–72.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Cymry
yn Wiciadur.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]