Ynysoedd Erch
![]() | |
Math | ynysfor, un o gynghorau'r Alban, registration county, lieutenancy area of Scotland, Scottish islands area, siroedd yr Alban, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig ![]() |
---|---|
Prifddinas | Kirkwall ![]() |
Poblogaeth | 22,270 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 988.7994 km² ![]() |
Gerllaw | Môr y Gogledd ![]() |
Cyfesurynnau | 59°N 3°W ![]() |
Cod SYG | S12000023 ![]() |
GB-ORK ![]() | |
![]() | |

Ynysoedd ger arfordir gogledd-ddwyrain yr Alban yw Ynysoedd Erch (Saesneg: Orkney, Gaeleg yr Alban: Arcaibh). Mae'r ynysoedd, tua 200 ohonynt i gyd, tua 16 km oddi ar arfordir Caithness. Gelwir yr ynys fwyaf yn Mainland, ac yma y ceir y brif dref, Kirkwall, gyda phoblogaeth o tua 7,000. Mae trigolion ar tua 20 o'r ynysoedd i gyd, gyda chyfanswm y boblogaeth yn 19,900 yn 2001.
Ymsefydlodd y Llychlynwyr yma yn yr 8fed a'r 9g, a chawsant ddylanwad parhaol ar ddiwylliant yr ynysoedd. Hyd y 19g roedd iaith Norn, iaith Lychlynnaidd, yn cael ei siarad yma.
Mae Gŵyl Sant Magnus yn ŵyl gerddorol sy'n digwydd ym mis Mehefin bob blwyddyn.

Ynysoedd
[golygu | golygu cod]Yr ynysoedd pwysicaf yw:
- Mainland, sydd wedi ei chysylltu a:
- Hoy
- Flotta
- Eday
- Egilsay
- North Ronaldsay
- Rousay
- Westray
- Papa Westray
- Sanday
- Stronsay
- Shapinsay
- Wyre
Hynafiaethau
[golygu | golygu cod]Dynodwyd pedair safle Neolithig ar Ynysoedd Erch yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1999, dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig.
- Maes Howe, siambr gladdu
- Meini Stenness, cylch cerrig
- Cylch Brodgar, cylch cerrig
- Skara Brae, olion pentref
Eraill
[golygu | golygu cod]- Nes Brodgar, safle archeolegol
Enwogion
[golygu | golygu cod]- John Rae (1813-1893), fforiwr
- Edwin Muir (1887–1959), bardd
- Robert Rendall (1898–1967), bardd
- George Mackay Brown (1921-1996), bardd