Neidio i'r cynnwys

Cylch cerrig

Oddi ar Wicipedia
Cylch cerrig Côr y Cewri, Lloegr.
Cylch cerrig Bryn Cader Faner.

Defnyddir y term cylch cerrig am hynafiaethau lle mae meini hirion wedi ei gosod i ffurfio cylch. Yn y Llydaweg a rhai ieithoedd eraill, defnyddir y term "cromlech" neu "krommlec'h". Gall y nifer o feini amrywio rhwng 4 a 60. Ceir rhai yng Ngwlad y Basg hefyd. Credir bod y rhain yn dyddio o'r cyfnod Neolithig neu o ddechrau Oes yr Efydd: rhwng 5,300 a 3,500 o flynyddoedd yn ôl; hynny yw, 3300 a 900 cc, cyfnod o 2,400 o flynyddoedd. Ceir llawer o esiamplau o gylchoedd cerrig yng ngwledydd Prydain, Iwerddon a Llydaw. Mae 1,300 wedi'u cofnodi ond credir fod dros 4,000 ohonynt yn wreiddiol.[1]

Nid oes sicrwydd beth oedd eu pwrpas; cred rhai bod rhai o'r meini wedi eu gosod i gyfateb a lleoliad yr haul, y lleuad a/neu'r sêr ar wahanol adegau o'r flwyddyn, a'u bod yn medru gweithredu fel rhyw fath o galendr.

Yng ngwledydd Llychlyn, roedd traddodiad o gylchoedd cerrig yn ystod Oes yr Haearn, yn enwedig yn Götaland. Ceir rhai yng ngogledd Gwlad Pwyl hefyd. Yng Ngorllewin Affrica, ceir cylchoedd cerrig sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng yr 8fed a'r 12g; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw cylchoedd cerrig Senegambia.

Ymhlith yr esiamplau mwyaf adnabyddus o gylchoedd cerrig mae Côr y Cewri a Long Meg yn Lloegr a Calanais ar ynys Leòdhas yn yr Alban. Mae enghreifftiau yng Nghymru yn cynnwys Meini Hirion, Penmaenmawr a Chylch Cerrig Tan-y-braich ger Llanfairfechan.

Yr Alban

[golygu | golygu cod]

Yn ne-ddwyrain yr Alban y ceir y clwstwr mwyaf dwys o gylchoedd cerrig.[2]

Rhai cylchoedd cerrig yn yr Alban
DelweddEnwCyfesurynnau
Cylch cerrig Aquhorthies; ger Aberdeen, yr Alban57°03′N 2°09′W / 57.05°N 2.15°W / 57.05; -2.15 (Cylch cerrig Aquhorthies)
Cylch cerrig Callanish I; yr Alban. Enw Gaeleg: Clachan Chalanais.
Diamedr y cylch: 13m gydag 13 o gerrig.
58°11′N 6°44′W / 58.19°N 6.74°W / 58.19; -6.74 (Meini hirion Callanish)
Cylch cerrig y Deuddeg Apostol, ger Dumfries, yr Alban55°05′N 3°39′W / 55.09°N 3.65°W / 55.09; -3.65 (Cylch cerrig y Deuddeg Apostol)
Cylch Brodgar, Ynysoedd Erch59°00′N 3°12′W / 59.00°N 3.20°W / 59.00; -3.20 (Cylch cerrig Brodgar)


Cernyw

[golygu | golygu cod]

Ceir tua 380 o gylchoedd yng Nghernyw: 281 ohonyn nhw yng ngwaun Dartmoor a 57 ohonyn nhw yng Ngwaun Bodmin.

Rhai cylchoedd cerrig yng Nghernyw
DelweddEnwCyfesurynnau
Cylch cerrig Merry Maidens; Cernyw50°04′N 5°35′W / 50.06°N 5.58°W / 50.06; -5.58 (Cylch cerrig y Merry Maidens)
Boscawen-Un ger St Buryan. Diamedr y clych: 25m; 19 carreg yn sefyll.50°05′N 5°37′W / 50.09°N 5.61°W / 50.09; -5.61 (Cylch cerrig Boscawen-Un)
Cylch cerrig Carwynnen ger pentref Mionions; ceir tair cylch.50°31′N 4°27′W / 50.51°N 4.45°W / 50.51; -4.45 (Cylch cerrig Carwynnen)
Cylch cerrig Tregeseal ger Lannyust (St Just); roedd yma dair cylch ar un cyfnos.50°07′N 5°41′W / 50.12°N 5.68°W / 50.12; -5.68 (Cylch cerrig Tregeseal)
Cylch cerrig Men an Toll ger Madron; tair carreg.50°05′N 5°22′W / 50.09°N 5.36°W / 50.09; -5.36 (Cylch cerrig Men an Toll)
Cylch cerrig ger pentref Duloe, Cernyw (Dewlogh).50°23′N 4°29′W / 50.39°N 4.48°W / 50.39; -4.48 (Cylch cerrig Duloe)
Cylch cerrig Castilly Henge ger Bodmin.


Map Google (uchod) yn dangos lleoliad y cylchoedd cerrig.
Rhai cylchoedd cerrig yng Nghymru
DelweddEnwCyfesurynnau
Bryn Gwyn; Ynys Môn53°10′N 4°18′W / 53.17°N 4.30°W / 53.17; -4.30 (Meini hirion Bryn Gwyn)
Tan-y-braich; Llanfairfechan, Sir Conwy53°13′N 3°55′W / 53.22°N 3.92°W / 53.22; -3.92 (Cylch Cerrig Tan-y-braich)
Teml Ceridwen; Penmaenmawr, Sir Conwy53°15′N 3°55′W / 53.25°N 3.91°W / 53.25; -3.91 (Teml Ceridwen)
Cefn Llechen; rhwng Penmaenmawr a Henryd, Sir Conwy53°16′N 3°52′W / 53.26°N 3.87°W / 53.26; -3.87 (Cylch Cerrig Cefn Llechen)
Cerrig Pryfaid; Llanbedr-y-cennin, Sir Conwy53°13′N 3°55′W / 53.22°N 3.91°W / 53.22; -3.91 (Cylch Cerrig Cerrig Pryfaid)
Bryn Derwydd; Penmaenmawr, Sir Conwy53°15′N 3°54′W / 53.25°N 3.90°W / 53.25; -3.90 (Cylch Cerrig Bryn Derwydd)
Cefn Maen Amor; rhwng Penmaenmawr a Henryd, Sir Conwy53°14′N 3°53′W / 53.24°N 3.89°W / 53.24; -3.89 (Cylch Cerrig Cefn Maen Amor)
Cefn Llydan; Powys52°32′N 3°54′W / 52.54°N 3.90°W / 52.54; -3.90 (Cylch Cerrig Cefn Llydan)
Treleddyd Fawr; Sir Benfro51°54′N 5°18′W / 51.90°N 5.30°W / 51.90; -5.30 (Cylch cerrig Treleddyd Fawr)
Mynydd Bach Trecastell; Llanymddyfri51°58′N 3°41′W / 51.96°N 3.69°W / 51.96; -3.69 (Cylch Cerrig Mynydd Bach-Trecastell)
Nant Tarw; Brycheiniog51°55′N 3°43′W / 51.91°N 3.71°W / 51.91; -3.71 (Cylch Cerrig Nant Tarw)
Cerrig Duon; Brycheiniog51°52′N 3°40′W / 51.87°N 3.66°W / 51.87; -3.66 (Cylch Cerrig Cerrig Duon)
Blaenau; Y Gelli Gandryll52°01′N 3°06′W / 52.02°N 3.10°W / 52.02; -3.10 (Cylch Cerrig Blaenau)
Banc y Celyn; Erwd, Powys52°06′N 3°23′W / 52.10°N 3.38°W / 52.10; -3.38 (Cylch Cerrig Banc y Celyn)
Crugiau Bach; Llanwrthwl, Powys52°14′N 3°34′W / 52.24°N 3.56°W / 52.24; -3.56 (Cylch Cerrig Crugian Bach)
Llorfa; Ystradgynlais51°49′N 3°46′W / 51.81°N 3.76°W / 51.81; -3.76 (Cylch Cerrig Llorfa)
Hirnant; Blaenrheidol, Ceredigion52°26′N 3°50′W / 52.43°N 3.83°W / 52.43; -3.83 (Cylch Cerrig Hirnant)
Bryn y Gorlan; Llanddewi Brefi, Ceredigion52°10′N 3°50′W / 52.17°N 3.83°W / 52.17; -3.83 (Cylch Cerrig Bryn y Gorlan)
Ffridd Newydd; Ceulan-a-Maesmor, Ceredigion52°30′N 3°55′W / 52.50°N 3.91°W / 52.50; -3.91 (Cylch Cerrig Ffridd Newydd)
Cynant; Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin52°05′N 3°45′W / 52.08°N 3.75°W / 52.08; -3.75 (Cylch Cerrig Cynant)
Waun Lwyd; Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin51°54′N 3°44′W / 51.90°N 3.73°W / 51.90; -3.73 (Cylch Cerrig Waun Lwyd)
Creigiau Eglwyseg; ger Llandysilio-yn-Iâl, Sir Ddinbych52°59′N 3°09′W / 52.99°N 3.15°W / 52.99; -3.15 (Cylch Cerrig Creigiau Eglwyseg)
Bryn Beddau; Clocaenog, Sir Ddinbych53°04′N 3°25′W / 53.06°N 3.42°W / 53.06; -3.42 (Cylch Cerrig Bryn Beddau)
Nant Croes-y-wernen; Cynwyd, Sir Ddinbych52°56′N 3°20′W / 52.94°N 3.34°W / 52.94; -3.34 (Cylch Cerrig Nant Croes-y-wernen)
Penbedw, Nannerch; Nannerch, Sir y Fflint53°12′N 3°14′W / 53.20°N 3.24°W / 53.20; -3.24 (Cylch Cerrig Penbedw Park)
Moel Tŷ Ucha; Llandrillo, Sir Ddinbych52°55′N 3°24′W / 52.92°N 3.40°W / 52.92; -3.40 (Cylch Cerrig Moel Ty-Uchaf)
Tyfos; rhwng Cynwyd a Llandrillo yn Sir Ddinbych52°56′N 3°26′W / 52.93°N 3.44°W / 52.93; -3.44 (Cylch Cerrig Tyfos)
Cerrig Arthur; Abermaw, Gwynedd52°44′N 4°01′W / 52.74°N 4.02°W / 52.74; -4.02 (Cylch Cerrig Cerrig Arthur)
Llecheiddior; ger Dyffryn Ardudwy, Gwynedd52°46′N 4°03′W / 52.77°N 4.05°W / 52.77; -4.05 (Cylch Cerrig Llecheiddior)
Cerrig Hengwm; ger Dyffryn Ardudwy, Gwynedd52°46′N 4°03′W / 52.77°N 4.05°W / 52.77; -4.05 (Cylch Cerrig Hengwm)
Eglwys Gwyddelod; ger Tywyn, Gwynedd52°35′N 3°58′W / 52.58°N 3.97°W / 52.58; -3.97 (Cylch Cerrig Eglwys Gwyddelod)
Rhos-y-beddau; Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys52°52′N 3°23′W / 52.86°N 3.39°W / 52.86; -3.39 (Cylch Cerrig Rhos-y-Beddau)
Kerry Hill; ger Ceri, Powys52°28′N 3°14′W / 52.46°N 3.24°W / 52.46; -3.24 (Cylch Cerrig Bryn Ceri)
Cerrig Caerau; Llanbrynmair, Powys52°35′N 3°37′W / 52.59°N 3.62°W / 52.59; -3.62 (Cylch Cerrig Ceffig Caerau)
Cerrig Lled Croen-yr-Ych; Llanbrynmair, Powys52°35′N 3°37′W / 52.59°N 3.61°W / 52.59; -3.61 (Cylch Cerrig Lled Croen-yr-Ych)
Cerrig y Capel; ger Dwyriw, Powys52°35′N 3°28′W / 52.58°N 3.47°W / 52.58; -3.47 (Cylch Cerrig Y Capel)
Llyn y Tarw; Aberhafesb, Powys52°34′N 3°26′W / 52.56°N 3.43°W / 52.56; -3.43 (Cylch Cerrig Llyn y Tarw)
Cefn Llydan; Tregynon, Powys52°34′N 3°23′W / 52.56°N 3.39°W / 52.56; -3.39 (Cylch Cerrig Cefn Llydan)
Cwm Rhiwiau; ger Llangynog, Powys52°52′N 3°23′W / 52.86°N 3.39°W / 52.86; -3.39 (Cylch Cerrig Cwm Rhiwiau)
Mynydd Llwyd; Llanfair Is Coed ger Caerwent, Sir Fynwy51°37′N 2°49′W / 51.62°N 2.82°W / 51.62; -2.82 (Cylch Cerrig Mynydd Llwyd)


Iwerddon

[golygu | golygu cod]
Rhai cylchoedd cerrig yn Iwerddon
DelweddEnwCyfesurynnau
Ardgroom De-Or Cylch a gaiff ei adnabod yn lleol fel "Canfea"; mae wedi'i leoli
i'r de-orllewin o bentref Ardgroom ar bentir Bara.
51°44′N 9°53′W / 51.73°N 9.89°W / 51.73; -9.89 (Cylch Cerrig Ardgroom)
Beltany Cylch o bron i 80 o gerrig yn Swydd Donegal54°51′01″N 7°36′17″W / 54.8504°N 7.6046°W / 54.8504; -7.6046 (Cylch Cerrig Beltny)
Cylch cerrig Drombeg Cylch a leolwyd i'r gorllewin o bentref Rosscarbery.51°34′N 9°05′W / 51.56°N 9.08°W / 51.56; -9.08 (Cylch Cerrig Dromberg)
Carrigagulla 18 o gerrig wedi'u lleoli i'r gogledd o bentref Ballinagree.51°59′N 8°53′W / 51.99°N 8.89°W / 51.99; -8.89 (Cylch Cerrig Carrigagulla)
Knocknakilla Cylch wedi'i leoli rhwng Macroom a Millstreet.52°00′N 8°53′W / 52.00°N 8.89°W / 52.00; -8.89 (Cylch Cerrig Knocknakilla)
Glantane east rhwng Macroom a Millstreet.52°00′N 9°02′W / 52.00°N 9.04°W / 52.00; -9.04 (Cylch Cerrig dwyreiniol Glantane)
Cylch cerrig Templebryan rhwng Bandon a Millstreet.51°38′N 8°53′W / 51.64°N 8.88°W / 51.64; -8.88 (Cylch Cerrig dwyreiniol Glantane)
Lisseyviggeen ger Killarney. Yn lleol cânt eu galw'n "Saith Chwaer".


Lloegr

[golygu | golygu cod]

Dim ond yng ngogledd a gorllewin Lloegr y ceir cylchoedd cerrig; heb gynnwys Cernyw ceir ychydig dros gant; mae 62 ohonyn nhw yn Cumbria. Mae llawer o gylchoedd pren (henges) yn ne-ddwyrain Lloegr, fodd bynnag. Ymhlith y cylchoedd cerrig mwyaf y mae:

Rhai cylchoedd cerrig yn Lloegr
DelweddEnwCyfesurynnau
Cylch cerrig Swinside; Cumbria sydd â diamedr o 26.8m, ac sy'n cynnwys 55 carreg.54°17′N 3°16′W / 54.28°N 3.27°W / 54.28; -3.27 (Cylch Cerrig Swinside)
Arbor Low; Swydd Derby. 50 carreg calchfaen, pob un yn llorweddol.53°06′N 1°27′W / 53.10°N 1.45°W / 53.10; -1.45 (Cylch cerrig Arbour Low)
Cylch cerrig Doll Tor; ger Birchover, Swydd Derby. Chwe charreg o'r Oes Efydd.53°10′N 1°38′W / 53.16°N 1.64°W / 53.16; -1.64 (Cylch cerrig Doll Tor)
Castlerigg; Cumbria. Diamedr y cylch: 33m, gyda 38 carreg.54°36′N 3°05′W / 54.60°N 3.09°W / 54.60; -3.09 (Cylch cerrig Castlerigg)
Long Meg; Diamedr o 100m yn ei anterth; 51 o gerrig.]]54°43′N 2°40′W / 54.72°N 2.66°W / 54.72; -2.66 (Cylch cerrig Long Meg)
Avebury, Swydd Wilton, de-orllewin Lloegr. Cylch cerrig mwyaf Ewrop.51°25′N 1°51′W / 51.42°N 1.85°W / 51.42; -1.85 (Cylch cerrig Avebury)
Côr y Cewri, Swydd Wilton;51°06′N 4°18′W / 51.10°N 4.30°W / 51.10; -4.30 (Côr y Cewri)
Cylch cerrig Withypool, Gwlad yr Haf.51°05′47″N 3°39′37″W / 51.0963°N 3.6604°W / 51.0963; -3.6604 (Cylch cerrig Withypool)


Llydaw

[golygu | golygu cod]
Rhai cylchoedd cerrig yn Llydaw
DelweddEnwCyfesurynnau
Cylch cerrig Peulvanoù Kerbourgneg; Sant-Pêr-Kiberen[3] sydd â diamedr o 26.8m, ac sy'n cynnwys 27 carreg (a 23 maen hir).47°31′N 3°07′W / 47.51°N 3.12°W / 47.51; -3.12 (Cylch Cerrig Peulvanoù Kerbourgneg)
Cylch cerrig Kergonan; Enizenac'h[4], sydd â diamedr o 100 metr, ac sy'n cynnwys 24 carreg
Cylch cerrig Ynys Ar Lannig; Mor Bihan[5], dau gylch cerrig, sy'n cynnwys 49 carreg yn gyfangwbl


Dyddio radiocarbon

[golygu | golygu cod]

Ers y 1950au mae archaeolegwyr wedi carbonddyddio samplau oddeutu'r cerrig er mwyn dyddio'r cylch cerrig. Y cylch hynaf sydd wedi'i ddyddio (yn 2000) ydy Cylch cerrig Lochmaben yn yr Alban sydd wedi'i dyddio yn 2525 ± 85 cc. Mae'r cylch ieuengaf i gael ei godi, fodd bynnag yn dod o Iwerddon: o Dromberg yn Swydd Cork (790 ± 80 cc) a'r cylch pum carreg yn Cashelkeety, Swydd Kerry (715 ± 50 bc).

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Burl, Aubrey (2000). The Stone Circles of Britain, Ireland and Brittany. New Haven and London: Yale University Press. ISBN 978-0300083477.
  2. "Gwefan Megalith Map". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-28. Cyrchwyd 2012-01-02.
  3. Gwefan Ysbryd Llydaw; adalwyd 30/08/2012[dolen farw]
  4. "Gwefan Morbihan; adalwyd 01/04/2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-19. Cyrchwyd 2014-04-01.
  5. Gwefan Paysages de Mégalithes; adalwyd 02/04/2014[dolen farw]