Gwlad y Basg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwlad y Basg
Escudo del Pais Vasco.svg
Euskal Herria
Flag of the Basque Country.svg
Math Gwlad
Prifddinas Vitoria-Gasteiz Edit this on Wikidata
Poblogaeth 2,164,311 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1130 Edit this on Wikidata
Anthem Eusko Abendaren Ereserkia Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Iñigo Urkullu Edit this on Wikidata
Cylchfa amser CET, CEST Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg, Basgeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Gwlad y Basg Edit this on Wikidata
Gwlad Sbaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd 7,234 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Gerllaw Cantabrian Sea Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Navarra, La Rioja, Cantabria, Castilla y León, Nouvelle-Aquitaine Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 42.9896°N 2.6189°W Edit this on Wikidata
ES-PV Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Iñigo Urkullu Edit this on Wikidata
Euskal Herria Europa.png
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) 64,295 million Ewro Edit this on Wikidata
CMC y pen 29,683 Ewro Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.924 Edit this on Wikidata
Gwefan www.euskadi.eus Golygu ar Wicidata
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Gwlad y Basg gyfan. Am gymuned ymreolaethol Sbaen, gweler Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg.

Gwlad a rhanbarth yn ne-orllewin Ewrop rhwng Gwlff Gasgwyn a'r Pyreneau yw Gwlad y Basg (Basgeg: Euskal Herria). Fe'i rhennir rhwng Sbaen a Ffrainc. Mae'n cyfateb yn fras i famwlad y Basgiaid a'r iaith Fasgeg.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Gwlad y Basg yn cynnwys saith talaith draddodiadol:

Mae Araba, Biskaia a Gipuzcoa yn ffurfio Euskadi, cymuned ymreolaethol Sbaen, tra bod Nafarroa yn gymuned ymreolaethol ynddi ei hun.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Gwlad y Basg

Cred rhai mai'r Basgiaid yw gweddillion trigolion gwreiddiol Gorllewin Ewrop, gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i'r cyfnod Paleolithig, cyn dyfodiad mewnfudwyr o'r dwyrain yn dwyn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Cyfeiria awduron clasurol megis Strabo a Plinius yr Hynaf at lwythau megis y Vascones a'r Aquitani yn byw yn y tiriogaethau hyn, ac mae rhywfaint o dystiolaeth eu bod eisoes yn siarad Basgeg.

Profwyd yn ddiweddar fod y Basgiaid yn meddu ar yr un "cromosomau Y" â'r Cymry. Dywedodd yr Athro David Goldstein o Goleg Prifysgol Llundain, "Yn ystadegol does dim modd gwahaniaethu rhwng "cromosomau Y" y Basgiaid a’r Cymry."[1] Credir bellach gan genetegwyr fod y Celtiaid a’r Basgiaid yn ddisgynyddion yr Ewropeaid cynharaf, sef yr helwyr Palaeolithig o Siberia, ac mae tystiolaeth genynnol yn olrhain y Cymry, y Gwyddelod, yr Albanwyr Gaelaidd, y Basgiaid a phobloedd brodorol yr Amerig yn ôl i tua 50,000 flynyddoedd a hynny i ardal Dyffryn Afon Yenisei yn Siberia.

Yn y Canol Oesoedd cynnar, adwaenid y diriogaeth rhwng Afon Ebro ac Afon Garonne fel Vasconia, ac am gyfnodau bu yn annibynnol dan Ddugiaid Vasconia. Rhannwyd y diriogaeth yn dilyn concwest y rhan fwyaf o Benrhyn Iberia gan y Mwslimiaid ac ymestyniad teyrnas y Ffranciaid tua'r de dan Siarlymaen.

Yn y 9g, Teyrnas Pamplona oedd y grym mwyaf yn yr ardal, a datblygodd Teyrnas Navarra o'r deyrnas yma yn ddiweddarach. Ym mlynyddoedd cynnar y 16g, unwyd rhan ddeheuol y deyrnas yma a Theyrnas Castilla, tra daeth y rhan ogleddol yn rhan o Ffrainc.

Roedd gan y taleithiau Basgaidd fesur helaeth o hunanlywodraeth yn Sbaen a Ffrainc am gyfnod. Daeth hyn i ben yn Ffrainc yn dilyn Chwyldro Ffrainc, ac yn Sbaen yn dilyn y Rhyfeloedd Carlaidd yn rhan gyntaf y 19g. Y y cyfnod diweddar, mae Cenedlaetholdeb Basgaidd yn anelu at uno'r saith talaith yn wladwriaeth annibynnol. Lluniwyd faner Gwlad y Basg, yr Ikurrina, fel rhan o fudiad genedlaethol y Basgiaid.

Cyfraith – Los Fueros[golygu | golygu cod y dudalen]

Etifeddiaeth gan y Reconquista yn yr Oesoedd Canol oedd y fueros - sef siarteri a oedd yn rhoi rhywfaint o annibyniaeth wleidyddol i diriogaethau ar y ffin rhwng teyrnasoedd Mwraidd a theyrnasoedd Cristionogol. Yn ymarferol, roedd hyn yn golygu bod y taleithiau Basgaidd yn rhydd i arfer eu deddfau cymdeithasol, masnachol a throseddol eu hunain, a goroesodd y drefn hon hyd at y 19g. Ond yn enw effeithlonrwydd, ac yn dilyn y patrwm Napoleonaidd yn Ffrainc, byddai llywodraethau olynol Madrid yn dechrau dirymu Los Fueros fesul un, gyda’r bwriad o sefydlu gwladwriaeth ganoledig.

Las Guerras Carlistas[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffactor pwysig i sbarduno y ddau Ryfel Carlaidd yn Sbaen oedd yr ymosodiad cyfansoddiadol hwn, rhyfeloedd a ymladdwyd dros olyniaeth y goron Sbaen, ond gydag elfennau pwysig o ranbartholdeb a gwrthdaro ideolegol hefyd. Collodd y Basgiaid eu fueros yn derfynol ar ôl yr Ail Ryfel Carlaidd yn 1876, ond byddai delfrydau Carlismo – sef ceidwadaeth grefyddol a chred mewn hawliau rhanbarthol – yn chwarae rhan bwysig mewn twf y mudiad cenedlaethol newydd yn y 1890au, a byddai amddiffyniad y fueros yn troi yn arwyddair y mudiad, sef ‘Jaungoikua eta Lagizarra’: y gair ‘Lagizarra’ yn golygu ‘hen gyfraith’ yn Iaith y Basg.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Er y cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn Euskara yn 1545, ni ellir dweud bod llenyddiaeth ysgrifenedig (na diwydiant cyhoeddi) yn ffynnu yno tan ddiwedd y 19g a chyhoeddi’r cyfrolau cyntaf o farddoniaeth Fasgeg a chylchgronau diwylliannol a gwleidyddol.

1545 - Linguae Vascorum Primitiae, Bernard Dechepare

1571 - Cyfieithiad i’r Fasgeg o’r Efengylau gan Leizarraga

1638 - Notitia Ultriusque Vasconiae, Arnold Oihénart

1657 - Casgliad o 537 o gerddi a diarhebion Basgaidd gan Arnold Oihénart

17eg a 18g - Bernard de Gasteluzar, d’Argaineratz, Harizmendi, Etcheberri, Augustín de Cardaveraz, Manuel de Larramendi, Haraneder,

19g - Beirdd: Hiribarren (‘Euskaldunak’), Elisamburu, Larralde, Dibarat, Sabino Arana, Yparraguire (‘Guernikako Arbola’), Etchahoun o Barcus

1878-1885 - Cylchgronau: Revista de las Provincias Euskaras (Vitoria, 1878-80), Revista Euskara (Pamplona, 1878-83), Euskal-erria (San Sebastián, 1880-1907), Revista de Vizcaya (Bilbao, 1885-89).

1888 - Gramática Elemental del Euzkera bizkaíno (Sabino Arana)

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Y prif ddinasoedd yw:

  1. Bilbo (354,145)
  2. Vitoria-Gasteiz (226,490)
  3. Pamplona (Basgeg: Iruña, 195,769)
  4. Donostia (Sbaeneg: San Sebastian) (183,308)
  5. Barakaldo (95,675)
  6. Getxo (83,000)
  7. Irun (59,557)
  8. Portugalete (51,066)
  9. Santurce (47,320)
  10. Baiona (44,300)

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Pêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd ymysg chwaraeon Gwlad y Basg, gyda'r prif dimau yn cynnwys Athletic Bilbao, Real Sociedad ac Osasuna. Nid oes gan Dîm pêl-droed Gwlad y Basg gydnabyddiaeth ryngwladol fel tîm cenedlaethol gan FIFA nac UEFA. Serch hynny, mae tîm cenedlaethol Ffederasiwn Bêl-droed Gwlad y Basg yn chwarae gemau rhyngwladol â gwledydd cydnabyddedig.

Yn y rhan ogleddol, yn Ffrainc, mae rygbi'r undeb yn fwy poblogaidd na phêl-droed, gyda thîm Biarritz, Biarritz Olympique Pays Basque, yn arbennig o adnabyddus. Mae seiclo a pêl fasged a mynydda hefyd yn boblogaidd. Gêm a gysylltir yn arbennig â Gwlad y Basg yw Pilota (pelota yn Sbaeneg).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]