Afon Ebro

Oddi ar Wicipedia
Afon Ebro
Mathy brif ffrwd, afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Sbaen Sbaen
Cyfesurynnau43.0375°N 4.37°W, 40.728527°N 0.869293°E Edit this on Wikidata
TarddiadFontibre Edit this on Wikidata
AberY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
LlednentyddJalón River, Segre, Aragón, Gállego, Guadalope, Afon Matarranya, Jerea, Afon Bayas, Zadorra, Siurana River, Iregua, Leza River, Cidacos, Alhama, Afon Huerva, Martín River, Río Arba, Najerilla, Afon Tirón, Daroca river, Queiles, Oca, Urederra, Ginel River, Rudrón River, Q6115880, Huecha River, Q9071923, Oroncillo River, Afon Nela, barranc de Sant Antoni, Afon Cana, Trueba River, Inglares, Omecillo, Q16627234, Q16627316, Q16627344, barranc de Roer, Barranc de Vallcorna, Afon Ega, Rio Aguasvivas, Q13050045 Edit this on Wikidata
Dalgylch86,800 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd910 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad426 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Afon fwyaf Sbaen yw Afon Ebro (Catalaneg: Ebre), sy'n 910 km o hyd, gyda dalgylch o 83,093 km2. Mae'n llifo i Fôr y Canoldir. Ceir ei tharddiad yn Fontibre (enw sy'n dod o'r Lladin Fontes Iberis) yn Cantabria. Y prif drefi ar ei glannau yw Miranda de Ebro, Haro, Logroño, Calahorra, Alfaro, Tudela, Alagón, Zaragoza, Caspe, Mequinenza, Riba-Roja d'Ebro, Ascó, Tortosa, Amposta, San Jaume d'Enveja a Deltebre. Mae'n llifo trwy Gymunedau Ymreolaethol Cantabria, Castilla y León, Castilla-La Mancha, La Rioja, Navarra, Aragón, Cymuned Valencia a Catalonia.

Ychydig cyn cyrraedd y môr mae'r afon yn ymwahanu yn nifer o afonydd bychain. Mae'r ardal o gwmpas aber yr Ebro yn ardal amaethyddol gynhyrchiol iawn, yn enwedig ar gyfer tyfu reis. Mae'r ardal yma hefyd o bwysigrwydd mawr ar gyfer adar, a chafodd ei gyhoeddi'n barc cenedlaethol yn 1983.

Dalgylch Afon Ebro
Aber yr Ebro