Zaragoza
| Math | bwrdeistref Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Zaragoza |
| Poblogaeth | 693,091 |
| Pennaeth llywodraeth | Natalia Chueca |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Valerius II of Saragossa, Our Lady of the Pillar |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Q107553246 |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 973,780,000 m² |
| Uwch y môr | 211 metr |
| Gerllaw | Afon Ebro, Afon Huerva, Gállego, Imperial Canal of Aragon |
| Cyfesurynnau | 41.65°N 0.883333°W |
| Cod post | 50001–50022 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Zaragoza City Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Zaragoza |
| Pennaeth y Llywodraeth | Natalia Chueca |
![]() | |
Dinas yn Sbaen yw Zaragoza. Mae'n brifddinas Cymuned Ymreolaethol Aragón a thalaith Zaragoza. Gyda phoblogaeth o 667,034, hi yw'r bumed dinas yn Sbaen o ran poblogaeth,
Daw'r enw o'r enw Lladin gwreiddiol Caesar Augusta, a drodd yn Saraqosta yn Arabeg yna'n Zaragoza yn Sbaeneg. Saif ar lannau Afon Ebro, 199 medr uwch lefel y môr. Mae mewn safle ganolog iawn, tua 300 km o bob un o ddinasoedd Madrid, Barcelona, Valencia, Bilbao a Toulouse.
Rhwng 14 Mehefin ac 14 Medi 2008 bydd arddangosfa ryngwladol Expo Zaragoza 2008 yn cael ei gynnal yno. Mae'r maes awyr wedi tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wedi i Ryanair dechrau hedfan yno. Yn 2003 dechreuodd gwasanaeth trên cyflym sy'n cysylltu'r ddinas a Madrid a Lleida.

Ymhlith golygfeydd Zaragoza mae El Pilar, lle ceir lluniau gan Goya, yr Eglwys Gadeiriol a'r Palacio de la Aljafería, oedd yn balas y brenin Al-Muqtadir pan oedd Saraqusta yn deyrnas Islamaidd annibynnol.
