Madrid

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Madrid
Madrid (38624991251).jpg
Escudo de Madrid.svg
Mathbwrdeistref Sbaen, dinas, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion, prifddinas Edit this on Wikidata
Es-Madrid.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,334,730 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJosé Luis Martínez-Almeida Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantIsidore the Laborer, Virgin of Almudena, Mariana de Jesús Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMadrid Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd604.4551 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr667 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawManzanares, Arroyo Meaques Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAlcorcón, Alcobendas, Leganés, Almoloya de Juárez estado de México, Getafe, Rivas-Vaciamadrid, San Fernando de Henares, Coslada, Paracuellos de Jarama, San Sebastián de los Reyes, Colmenar Viejo, Tres Cantos, Hoyo de Manzanares, Torrelodones, Las Rozas de Madrid, Majadahonda Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.4189°N 3.6919°W Edit this on Wikidata
Cod post28001–28081 Edit this on Wikidata
Corff gweithredolGovernment Board of the City of Madrid Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Madrid Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJosé Luis Martínez-Almeida Edit this on Wikidata

Prifddinas Sbaen a phrifddinas yr ardal Comunidad Autónoma de Madrid yw Madrid. Madrid yw'r ddinas fwyaf poblog yn Sbaen, y drydedd ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Llundain Fwyaf a Berlin, a'i hardal fetropolitaidd yw'r ail ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Paris, gyda phoblogaeth o 3,334,730 (2020) yn y ddinas a 3,334,730 o bobl o gynnwys yr ardal ehangach. Lleolir y ddinas ar lannau'r afon Manzanares reit yng nghanol daearyddol y wlad, ac yng nghanol Comunidad Autónoma de Madrid, sy'n cynnwys dinas Madrid, ei chytrefi a'i maesdrefi a phentrefi ehangach; ffinia'r gymuned hon gyda chymunedau hunan-lywodraethol Castilla y León a Castilla-La Mancha. Mae ei harwynebedd yn 604.3 km2 (233.3 milltir sgwâr).[1]

Madrid

Fel prifddinas Sbaen, lleoliad y llywodraeth a chartref y brenin Felipe VI; Madrid yw canolbwynt gwleidyddol y wlad hefyd.[2] Mae gan ardal drefol Madrid y CMC trydydd-mwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd ac mae ei ddylanwad mewn gwleidyddiaeth, addysg, adloniant, yr amgylchedd, y cyfryngau, ffasiwn, gwyddoniaeth, diwylliant a'r celfyddydau i gyd yn cyfrannu at ei statws fel un o ddinasoedd mawr y byd.[3][4][5]

Mae Madrid yn gartref i ddau glwb pêl-droed byd-enwog, Real Madrid ac Atlético Madrid. Oherwydd ei allbwn economaidd, safon byw uchel, a maint y farchnad, ystyrir Madrid yn brif ganolfan ariannol a phrif ganolbwynt economaidd Penrhyn Iberia a De Ewrop.[6][7][8] Mae'n gartref i brif swyddfeydd llawer o gwmnïau mawr Sbaen, megis Telefónica, IAG neu Repsol. Madrid hefyd yw'r 10fed ddinas fwyaf byw yn y byd yn ôl cylchgrawn Monocle, yn ei mynegai ar 2017.[9]

Mae Madrid yn gartref i bencadlys 'Sefydliad Twristiaeth y Byd' y Cenhedloedd Unedig (UNWTO), Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol Ibero-Americanaidd (SEGIB), Sefydliad Gwladwriaethau Ibero-Americanaidd (OEI), a Bwrdd Goruchwylio Budd y Cyhoedd (PIOB). Mae hefyd yn gartref i reoleiddwyr a hyrwyddwyr rhyngwladol mawr yr iaith Sbaeneg: Pwyllgor Sefydlog Cymdeithas yr Academïau Iaith Sbaeneg, pencadlys yr Academi Frenhinol Sbaenaidd (RAE), yr Instituto Cervantes a Sefydliad Sbaeneg Brys (Fundéu BBVA). Mae Madrid yn trefnu ffeiriau fel FITUR, ARCO, SIMO TCI ac Wythnos Ffasiwn Madrid.[10][11][12][13]

Mae yma bensaerniaeth ddiddorol iawn, ond nid mor unigryw a'r bensaerniaeth yng Nghatalwni. Ymhlith ei dirnodau mae brif sgwar (y Plaza Mayor), Palas Brenhinol Madrid; y Theatr Frenhinol gyda'i Thŷ Opera a adferwyd yn 1850; Parc Buen Retiro, a sefydlwyd ym 1631; adeilad y Llyfrgell Genedlaethol o'r 19g a sefydlwyd ym 1712; llawer o amgueddfeydd cenedlaethol,[14] a'r Triongl Celf Aur (Triángulo del Arte) wedi'u lleoli ar hyd y Paseo del Prado ac sy'n cynnwys tair amgueddfa gelf: Amgueddfa Prado, Amgueddfa Reina Sofía, ac Amgueddfa Thyssen-Bornemisza.[15] Mae Palas a Ffynnon Cibeles wedi dod yn un o symbolau peblogaidd o'r ddinas.[16][17]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir sawl esboniad o darddiad yr enw 'Madrid'. Yr un tebygol yw ei fod yn deillio o'r geiriau Celtaidd 'Mad' (da yn Llydaweg a '-ritu' ('rhyd', fel yn y Gymraeg).[18] Ceir posibilrwydd arall, sef ei fod yn tarddu o'r Arabeg maǧrà (sef "dŵr y nant").[18]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir olion o aneddiadau dynol yn y safle lle saif dinas Madrid heddiw ers y cyfnod Celtaidd[19][20][21]: ceir olion archeolegol o anheddiad Celtaidd llwyth y Carpetani, olion Rhufeinig yn dilyn hynny[22], basilica y Fisigothiaid ger eglwys Santa María de la Almudena a thri necropolis Fisigoth ger Casa de Campo, Tetuan a Vicálvaro.[23]

Y Canoloesoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhan o Waliau Mwslimaidd Madrid.

Yn ail hanner y 9g, adeiladodd Cordobese Emir Muhammad I gaer ar bentir ger yr afon Manzanares, un o nifer y gorchmynnodd eu hadeiladu ar y ffin rhwng Al-Andalus a theyrnasoedd León a Castile, gyda'r nod o amddiffyn Toledo rhag y goresgyniadau Cristnogol a hefyd fel man cychwyn ar gyfer troseddwyr Mwslimaidd.[24] Ar ôl dadelfennu Caliphate Córdoba ar ddechrau'r 11g, integreiddiwyd Madrid yn Taifa Toledo.

Yng nghyd-destun yr ymgyrch ehangach dros goncro Taifa Toledo a gychwynnwyd ym 1079, gorchfygwyd Madrid ym 1083 gan Alfonso VI o León a Castile, a geisiodd ddefnyddio’r dref fel troedle caerog i ymosod ar ddinas Toledo, yn ei dro a orchfygwyd yn 1085.[25] Yn dilyn y goncwest, meddiannodd Cristnogion ganol y ddinas, tra bod Mwslemiaid ac Iddewon wedi'u dadleoli i'r maestrefi. Difethwyd waliau Madrid yn llwyr yn 1110. Perthynai i'r goron yn 1123 yn ystod teynasiad Alfonso VII o León a Castile.[26] Er 1188, enillodd Madrid yr hawl i fod yn ddinas â chynrychiolaeth yn llysoedd Castile. Yn 1202, rhoddodd Alfonso VIII ei siarter gyntaf i Madrid i reoleiddio'r cyngor trefol, a ehangwyd ym 1222 gan Ferdinand III.[27]

Pobl a aned ym Madrid[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Member of the Governing Council. Delegate for Economy, Employment and Citizen Involvement" (PDF). t. 6. Cyrchwyd 3 Medi 2012.
  2. "Madrid". Encyclopædia Britannica.
  3. "Global city GDP rankings 2008–2025". Pricewaterhouse Coopers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mai 2011. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2009.
  4. Globalization and World Cities (GaWC) Study Group and Network, Prifysgol Loughborough University. "The World According to GaWC 2010". Cyrchwyd 12 Chwefror 2016.
  5. "Global Power City Index 2009" (PDF). Cyrchwyd 14 Ebrill 2011.
  6. "Global Financial Centers Index".
  7. "Worldwide Centers of Commerce Index" (PDF). Cyrchwyd 3 Medi 2012.
  8. "Global Power City Index" (PDF). Cyrchwyd 3 Medi 2012.
  9. "Monocle's World's Most Liveable Cities Index 2017". Monocle.com. 10 June 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Awst 2013. Cyrchwyd 18 October 2010.
  10. "FITUR". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mehefin 2012. Cyrchwyd 17 Mehefin 2012.
  11. "Arte Contemporaneo en España – ARCOmadrid". Ifema.es. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2012.
  12. "SIMO EDUCACIÓN – Learning Technology Exhibition – Home". www.ifema.es.
  13. "Cibeles Madrid Fashion Week". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ebrill 2012. Cyrchwyd 27 Mawrth 2012.
  14. "Arquitectura. Edificios de los Museos Estatales". Mcu.es. 25 Ionawr 2012. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  15. "Geography of Madrid". Easy expat. 11 Awst 2006.
  16. "Plaza de Cibeles | Spain.info in english". Spain.info. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-03. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  17. "Madrid's Palacio de Cibeles Renovated Into Jaw-Dropping CentroCentro Cultural Center | Inhabitat – Sustainable Design Innovation, Eco Architecture, Green Building". Inhabitat. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  18. 18.0 18.1 Pérez Orozco 2007, t. 701.
  19. País, Ediciones El (13 Mehefin 2006). "Los primeros madrileños llegaron hace 500.000 años" – drwy elpais.com.
  20. "La prehistoria de Madrid". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 February 2014. Cyrchwyd 13 Mawrth 2007.
  21. Ocupaciones achelenses en el valle del Jarama (Arganda, Madrid);Santonja, Manuel; López Martínez, Nieves y Pérez-González, Alfredo;1980;Diputación provincial de Madrid;ISBN 84-500-3554-6
  22. "Las villas romanas de Madrid. Madrid en época romana" (PDF).
  23. Álvarez, Pilar; Sánchez, Esther (21 Mehefin 2013). "Hallado un taller paleolítico de más de 200.000 años en Vicálvaro" – drwy elpais.com.
  24. "Madrid Islámico". Nova.es. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 October 1999. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  25. Bahamonde Magro & Otero Carvajal 1989, t. 9.
  26. Cestero Mancera, Molina Martos & Paredes García 2015, t. 18.
  27. Suárez Fernández 2001, t. 137.