Lleida

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau Lleida.

Lleida (Sbaeneg: Lérida, ond yr enw Catalaneg yw'r ffurf swyddogol) yw prifddinas Talaith Lleida, un o bedair talaith Catalonia, Sbaen. Yn cynnwys srfydliadau cyfagos Raimat a Sucs, roedd gan y ddinas boblogaeth o 124,709 yn 2005.

Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, gelwid y ddinas yn Iltrida neu Ilerda, a hi oedd prifddinas yr Ilergetes, llwyth Iberaidd. Wedi'r goncwest Rufeinig, daeth yn ran o dalaith Hispania Tarraconensis. Roedd yn ddinas lewyrchus yn y cyfnod Rhufeinig, ac yn bathu ei harian ei hun.

Roedd yn safle bwysig yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, gan ei bod yn rhan o amddiffynfeydd Barcelona. Bomiwyd y ddinas yn drwm gan luoedd Francisco Franco a'i gynorthwywyr Almaenaidd, y Legion Kondor, yn 1937 a 1938.

Lleida o Riu Segre.