Islam

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mosque.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolmajor religious group, crefydd, lifestyle Edit this on Wikidata
MathCrefyddau Abrahamig, state religion Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu610 Edit this on Wikidata
LleoliadY Byd Mwslemaidd, ledled y byd Edit this on Wikidata
SylfaenyddMuhammad Edit this on Wikidata
RhagflaenyddAncient Semitic religion, Arabian mythology Edit this on Wikidata
Enw brodorolالإسلام Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhan o gyfres ar
Islam

Allah1.png

Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair yw ymostyngiad i ewyllys Duw (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grëwyd ganddo. Mae'r gair yn perthyn i'r gair salām sy'n golygu "tangnefedd" a ddaw o'r gwreiddyn s-l-m. Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw." Ceir dau brif enwad, sef y Sunni a'r Shia. Fel Cristnogaeth ac Iddewiaeth, mae'n un o'r crefyddau Abrahamig.

Sefydlwyd y grefydd ym Mecca gan y Proffwyd Mohamed (c.570-8 Mehefin, 632). Ymledodd y ffydd yn gyflym yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ac mewn llai na chanrif ar ôl marwolaeth Mohamed roedd awdurdod y califfiaid a reolai ymerodraeth yr Umayyad yn ymestyn o Sbaen i Afon Indus yng ngogledd-orllewin India. Erbyn heddiw mae tua 20% o boblogaeth y byd yn byw mewn gwledydd Mwslim, o Foroco yn y gorllewin i Indonesia yn y dwyrain ac o Casachstan yn y gogledd i Fali a Swdan yn y de.

Mae Mwslemiaid yn derbyn Ibrahim (Abraham), Musa (Moses), Isa (Iesu Grist) ynghŷd â ffigyrau eraill o'r traddodiad Iddewig-Gristnogol fel proffwydi Duw. Fodd bynnag, credant mai Mohamed yw'r proffwyd mwyaf; yr olaf yn y gadwyn o broffwydi sy'n cychwyn gydag Adda. Credant fod y Coran (Qu'ran) yn air Duw, fel y datguddiwyd ef i Mohamed fesul pennod (sŵra) yn y cyfnod rhwng c. 610 a 632.

Arkân al-Dîn[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Pum Colofn Islam

Mae dilynwyr Islam i fod i ymarddel ac ymarfer Pum Colofn y Ffydd (arkân al-Dîn), a adwaenir hefyd fel y farâ'idh, y pum egwyddor sanctaidd.

  1. Y shahâda, Cyffesiad y Ffydd, a ymgorfforir yn y datganiad lâ ilâha illâ'llâh wa Muhammad rasulu Allah ("Nid oes Duw ond Duw a Mohamed yw Negesydd Duw"). Mae rhywun o grefydd arall sy'n datgan hyn yn ddiffuant gerbron dau dyst Mwslim yn cael ei dderbyn fel Mwslim yntau.
  2. Y salat (ll. salawât), sef y pum gweddi ddefodol a adroddir bum gwaith y dydd: ar doriad y wawr (subh), ar ganol dydd (dhuhr), ar ganol y prynhawn (asr), ar fachlud yr haul (maghrib) a dechrau'r nos (ishâ). Dechreuir pob gweddi gyda'r al-Fâtiha, a geir ar ddechrau'r Coran.
  3. Y zakât, sef rhoi elusen yn ôl gallu'r rhoddwr. Tua 5% o incwm y credadun a argymhellir yn y Coran. Yn aml mae'r mosg lleol yn trefnu hyn ac mae'r arian yn mynd at helpu'r tlodion, pobl gydag anabledd, gweddwon a'r amddifad.
  4. Y siyâm, sef ymprydio yn ystod Ramadan, y mis sanctaidd. Yr adeg honno mae bwyta, yfed, smygu, gwisgo peraroglau a chael perthynas rywiol yn waharddedig o doriad y wawr hyd at fachlud yr haul. Nid oes disgwyl i blant ifanc, yr henoed neu rywun sy'n dioddef afiechyd meddyliol ddilyn y rheolau hyn yn gaeth. Mae gwragedd beichiog, mamau sy'n rhoi llefrith i'w babanod, rhywun sy'n dioddef afiechyd a theithwyr yn gallu gohirio'r siyâm a'i chyflawni yn ddiweddarach. Nid ystyrir bod cymryd ffisig yn torri'r ympryd.
  5. Mynd ar hajj neu bererindod i Fecca. Digwylir i Mwslim wneud hynny o leiaf unwaith yn ystod ei fywyd, os ydyw hynny yn ei allu heb achosi caledi i'w deulu.

Hanes Islam[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Hanes Islam
Pererindod (Hajj) i Fecca

Sefydlwyd Islam ym Mecca gan y Proffwyd Mohamed. Ymledodd y ffydd yn gyflym yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ac mewn llai na chanrif ar ôl marwolaeth Mohamed roedd awdurdod y califfiaid a reolai ymerodraeth yr Umayyad yn ymestyn o Sbaen i Afon Indus yng ngogledd-orllewin India.

Enwadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir sawl enwad yn Islam:

  • Sunni. Yr enwad mwyaf o lawer gyda thros 80% o Fwslemiaid yn perthyn iddo. Dyma brif ffrwd Islam a ystyrir weithiau yn Islam "uniongred".
  • Shia. Yr enwad ail fwyaf, gyda thua 15% o Fwslemiaid yn perthyn iddo, yn bennaf yn Iran, de Irac a'r Iemen.
    • Drus. Mwslemiaid Shia yw'r Drusiaid, ond mae eu crefydd yn cynnwys elfennau hynafol unigryw hefyd, sy'n tarddu o Gnostigiaeth efallai.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]