Al-Andalus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coran o Al-Ándalus, o’r 12fed ganrif

Al-Ándalus (Arabeg الأندلس) yw’r enw a ddefnyddir ar y rhannau hynny o Sbaen a Portiwgal oedd dan reolaeth y Mwslimiaid yn y cyfnod rhwng 711 a 1492). Nid oes sicrwydd am darddiad yr enw, er y gall fod cysylltiad â’r Fandaliaid. O al-Andalus y daw enw y Gymuned Ymreolaethol fodern Andalucia, ond ar un adeg yr oedd al-Andalus yn llawer ehangach na hynny.

Ar 27 Ebrill yn y flwyddyn 711, glaniodd byddin Fwslimaidd o tua 9,000 o wyr yn Gibraltar (Yebel Tarik), dan arweiniad Tariq Ibn Ziyad, dirpwy i Raglaw Tangier, Musa ibn Nusair. Ar 19 Gorffennaf gorchfygasant fyddin y Fisigothiaid , a lladdwyd Roderic, brenin y Fisigothiaid. Y flwyddyn wedyn cyrhaeddodd Musa ibn Nusair ei hun gyda byddin arall. Yn y pum mlynedd nesaf, trwy gyfuniad o frwydro a gwneud cytundebau, daethant i reoli’r rhan fwyaf o Orynys Iberia ac eithrio yr ardaloedd mynyddig yn y gogledd.

Yn 756 daeth Abd al-Rahman I i Córdoba a sefydlodd linach a fu’n rheoli al-Andalus hyd 1031. Creodd Abd al-Rahman Emirat Cordoba yn 773. Yn 912, daeth Abd al-Rahman III i’r orsedd ac yn 929 cyhoeddodd ei hun fel Califf.

Y sefyllfa yn 1031, yn dangos y Taifas.

Yn 1031 ymrannodd Al-Andalus yn nifer o deyrnasoedd llai, y Taifas, o ganlyniad i ryfeloedd cartref ynglyn a’r olyniaeth. Bu nifer o ymosodiadau llwyddiannus o Ogledd Affrica, megis yr Almorafidiaid a’r Almohadiaid.

Rhwng 718 a 1230, ffurfiwyd y prif deyrnasoedd Cristionogol yn y gogledd: Castilla, Portiwgal, Navarra ac Aragón. Yn raddol dechreuodd y Cristionogion ennill tiriogaethau oddi ar y Mwslimiaid, proses a elwir y Reconquista. Ystyrir i'r Reconquista ddechrau yn 722 pan enillodd Pelayo fuddugoliaeth dros y Mwslimiaid ym Mrwydr Covadonga, i sicrhau annibynniaeth Asturias. Dim ond yn araf yr oedd y Cristionogion yn adennill tir am gyfnod, ond cyflymodd y broses yn y 13eg ganrif ar ôl uno teyrnasoedd Castilla a León dan y brenin Fernando III. Erbyn canol y drydedd ganrif ar ddeg dim ond Teyrnas Granada oedd yn parhau yn eiddo'r Mwslimiaid. Diweddodd y Reconquista yn 1492 pan gipiodd y Cristionogion ddinas Granada a gorfodi ei brenin olaf, Boabdil (Abu 'Abd Allāh), i fynd i alltudiaeth.

Celfyddyd a gwyddoniaeth yn al-Andalus[golygu]

Mosg Córdoba

Roedd cyfraniad al-Andalus yn nodedig iawn, yn arbennig mewn pensaernïaeth, gydag adeiladau megis Mosg Cordoba a'r Alhambra ymysg y campweithiau. Mewn barddoniaeth roedd Ibn Sahl o Sevilla yn nodedig. Roedd Averroes (Abū al-Walīd Muhammad Ibn Rušd) (11261198) yn enwog fel athronydd, meddyg a seryddwr, a gwnaeth ef ac eraill lawer i gadw a lledaenu gweithiau awduron fel Aristoteles a Platon.

Dolenni allanol[golygu]