Gibraltar
![]() | |
![]() | |
![]() | |
Arwyddair |
Bathodyn Craig Gibraltar ![]() |
---|---|
Math |
Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, dinas â phorthladd, tref ar y ffin ![]() |
| |
Prifddinas |
Gibraltar ![]() |
Poblogaeth |
33,140 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
God Save the Queen, Gibraltar Anthem ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Fabian Picardo ![]() |
Cylchfa amser |
CET ![]() |
Gefeilldref/i |
Funchal, Ballymena, Singapôr ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
6.843 ±0.001 km² ![]() |
Uwch y môr |
11 metr ![]() |
Gerllaw |
Môr Alboran, Bae Gibraltar, Y Môr Canoldir ![]() |
Yn ffinio gyda |
Sbaen, Andalucía ![]() |
Cyfesurynnau |
36.13775°N 5.34536°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Gibraltar Parliament ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
teyrn y Deyrnas Gyfunol ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Elisabeth II, Ed Davis ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Chief Minister of Gibraltar ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Fabian Picardo ![]() |
![]() | |
Arian |
punt Gibraltar ![]() |
Tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig sy'n cael ei hawlio gan y Deyrnas Gyfunol yw Gibraltar. Fe'i lleolir yn ne Penrhyn Iberia. Mae'n ffinio â Sbaen i'r gogledd, gyda'r ffin yn 1.2-kilometr (0.75 milltir), ac mae Culfor Gibraltar i'r de.[1] Ei arwynebedd yw 6.7 km2 (2.6 milltir sgwâr) a'i boblogaeth yw 33,140.[2] Mae Craig Gibraltar yn dominyddu'r olygfa, o bob cyfeiriad.
Yn strategol, mae Gibraltar yn bwysig iawn i Luoedd Arfog Prydain a cheir safle môrlu yno.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir olion pwysig o'r Neanderthal yn Gibraltar, sy'n dyddio i rhwng 40,000 i 50,000 o flynyddoedd yn ôl ac ystyrir Ogof Gorham yn hynod o bwysig.[3]
Ym 1704, cymerwyd Gibraltar o Sbaen gan luoedd Prydeinig ac Iseldiraidd yn ystod 'Rhyfel Olyniaeth Sbaen'. Ildiwyd y diriogaeth i’r Deyrnas Unedig "am byth" pan arwyddwyd Cytundeb Utrecht ym 1713. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd e’n sylfaen bwysig i’r Llynges Frenhinol, gan fod y penrhyn yn rheoli’r mynediad i Fôr y Canoldir, sydd yn ddim ond 8 milltir o led yn y man culaf.
Mae'n parhau i fod yn strategol bwysig heddiw, gyda hanner llongau masnach y byd yn pasio drwy'r culfor yma.
Heddiw, mae economi Gibraltar yn seiliedig ar dwristiaeth, gamblo ar-lein, gwasanaethau ariannol a darparu tanwydd i longau cargo.[4][5][6]
Yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]
Daw enw'r diriogaeth o'r enw Arabeg gwreiddiol Jabal Ţāriq (جبل طارق), sef "mynydd Tariq". Cyfeiria at y cadfridog Berber Umayyad Cadfridog Tariq ibn-Ziyad, a arweiniodd oresgyniad rhan o Iberia yn 711 gan filwyr o'r Maghreb. Cyn hynny fe'i hadnabuwyd fel Mons Calpe, un o Bileri Hercules. Heddiw gelwir Gibraltar yn "Gib" neu "y Graig" ar lafar gwlad.
Sofraniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Un o brif faterion llosg yn y berthynas rhwng Prydain a Sbaen yw sofraniaeth Gibraltar. Mae Sbaen yn gofyn am ddychwelyd yr ardal i'w gwlad wedi i sofraniaeth Sbaen drosti gael ei hildio yn 1713. Fodd bynnag, mae rhan fwyaf trigolion Gibraltar (Saeson, neu ddisgynyddion i Saeson) wedi gwrthod hyn.[7] Gwrthododd y pobl Gibraltar cynigion sofraniaeth sbaeneg mewn refferendwm ym 1967, a gwrthodon nhw rannu sofraniaeth rhwng y ddwy wlad mewn refferendwm arall yn 2002.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dictionary.com: Gibraltar
- ↑ https://www.gibraltar.gov.gi/new/sites/default/files/HMGoG_Documents/Abstract%202014.pdf.
- ↑ Choi, Charles (2006). "Gibraltar". MSNBC. Cyrchwyd 8 Ionawr 2010.
- ↑ "Inside the rock: Gibraltar's strategic and military importance is complemented by financial and gaming leadership". City AM. 12 November 2015. Cyrchwyd 2 April 2017.
- ↑ Foreign and Commonwealth Office. "Country Profiles: Gibraltar"., Foreign and Commonwealth Office, 6 May 2010; adalwyd 16 Ebrill 2015
- ↑ Daniel Boffey a Sam Jones (Tachwedd 2017) "Gibraltar heading for abrupt exit from single market, says Spain" The Guardian
- ↑ "History and Legal Aspects of the Dispute". The Ministry of Foreign Affairs, European Union and Cooperation. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2018.
|